Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gellir gweld yr holl bolisïau, gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â chydraddoldeb, ar dudalennau gwe Adnoddau Dynol fodd bynnag, mae'r adran hon yn cynnwys y Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ac addewidion a datganiadau sy'n ymwneud â chydraddoldeb.
Gwrthsemitiaeth
Ym mis Hydref 2020, mabwysiadodd Pwyllgor Gweithredu Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ddiffiniad gwaith o wrth-semitiaeth yn llawn, ynghyd â'r eglurhad a argymhellwyd gan y yn 2016 i amddiffyn rhyddid i lefaru.
Mae diffiniad yr IHRA yn arf defnyddiol ar gyfer deall sut mae gwrthsemitiaeth yn amlygu ei hun yn ein cymdeithas. Caiff ei ddefnyddio fel tystiolaeth i sefydlu a yw ymddygiad sy'n torri rheolau'r Brifysgol yn wrth-semitig.
Mae'r Brifysgol yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddyletswyddau cyffredinol Deddf Cydraddoldeb 2010 sef:
- Dileu pob ffurf ar wahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon.
- Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a rhai nad ydynt yn rhannu'r nodwedd honno.
- Meithrin perthynas dda rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a rhai nad ydynt yn rhannu'r nodwedd honno.
Mae hyfforddiant ymwybyddiaeth gwrthsemitiaeth i gefnogi rheolwyr wedi cael ei ymgorffori yn y gweithdy hanner diwrnod 'Cydraddoldeb i Reolwyr'.
Nid yw mabwysiadu'r diffiniad hwn yn effeithio mewn unrhyw ffordd ar ymrwymiad y Brifysgol i ryddid meddwl a mynegiant, fel y nodir yng Nghod Ymarfer y Brifysgol ar Ryddid i Lefaru.
Menopos
Mae gwybodaeth y Brifysgol i gefnogi staff drwy'r menopos i'w chael ar y dudalen we Iechyd a Diogelwch.