SRace Equality Charter
Ym mis Ebrill 2022 ymunodd Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ Ã¢ Siarter Cydraddoldeb Hiliol Advance HE. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb Hil yn darparu fframwaith i helpu prifysgolion nodi rhwystrau i gynrychiolaeth, cynnydd a llwyddiant staff a myfyrwyr sy’n perthyn i leiafrifoedd ethnig. Mae'n cynnwys staff proffesiynol a staff cefnogi, staff academaidd, cynrychiolaeth myfyrwyr, dilyniant, a dyfarnu yn ogystal ag amrywiaeth yn y cwricwlwm. Dyma ein llythyr ymuno.
Mae ein cynnydd tuag at fod yn brifysgol wrth-hiliol yn gofyn am ymrwymiad parhaus ac adnoddau penodedig. I'r perwyl hwn, rydym wedi creu swydd Swyddog Cydraddoldeb parhaol ychwanegol i arwain y gwaith hwn a phenodwyd Danielle Williams i’r swydd hon ym mis Hydref 2022.
Mae'r brifysgol bellach wedi datblygu cynllun gweithredu hil a bydd yn cyflwyno cais am wobr efydd y Comisiwn Cydraddoldeb Hil ym mis Tachwedd 2024.
Fel rhan o’n gwaith ar y siarter cydraddoldeb hil ers 2022, mae’r brifysgol wedi:
- Sefydlu tîm hunanasesu i’r siarter cydraddoldeb hil gyda chynrychiolaeth amrywiol o aelodau staff a myfyrwyr o bob rhan o'r brifysgol a phedwar gweithgor siarter cydraddoldeb hil i edrych ar brofiad staff, profiad myfyrwyr, addysgu a dysgu a data.
- Cymerodd y Bwrdd Gweithredol a’r tîm hunanasesu ran mewn rhaglen ‘Deall Hil a Hiliaeth’ yn 2023/24 ac mae’r Is-ganghellor wedi bod mewn dosbarth meistr ar y siarter cydraddoldeb hil yng nghynhadledd UUK yn 2023.
- Cynnal arolwg cydraddoldeb hil staff a myfyrwyr cyfan rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2023.
- Dadansoddwyd data allweddol staff a myfyrwyr ochr yn ochr â data arolwg siarter cydraddoldeb hil ac adborth i lunio’r prif flaenoriaethau i Gynllun Gweithredu Hil ar draws y brifysgol.
- Wedi ariannu 2 le i staff academaidd o leiafrifoedd ethnig a staff PSS ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ar raglen garlam arweinyddiaeth Stellar HE yn 2025.
Mae tudalennau gwe cynhwysfawr ar gydraddoldeb hil yn cael eu datblygu a byddant yn disodli'r dudalen hon yn fuan ochr yn ochr â chyflwyno modiwl e-ddysgu newydd 'Cyflwyniad i Gydraddoldeb Hil’ i staff.