'Bocs offer i athrawon' i leihau trais ymysg plant a thrais yn erbyn plant mewn ysgolion meithrin yn Jamaica
Mae casgliad o strategaethau i athrawon i geisio rhwystro datblygiad cynnar ymddygiad gwrthgymdeithasol a chynyddu sgiliau cymdeithasol-emosiynol plant ifanc i gael ei brofi ymhellach mewn astudiaeth bedair blynedd yn Kingston, prifddinas Jamaica.
Yn ystod yr astudiaeth bydd yr 'Irie Classroom Toolbox' yn cael ei defnyddio mewn 76 o ysgolion meithrin a gyda dros 6,000 o blant 3 i 6 oed. Mae'r astudiaeth yn mynd i gostio 拢1,453,703 i gyd ac fe'i cyllidir gan y Cyngor Ymchwil Meddygol, y Wellcome Trust ac Adran Datblygu Rhyngwladol llywodraeth y Deyrnas Unedig. Bydd yn rhoi tystiolaeth bellach ynghylch effeithiolrwydd cynllun hyfforddiant i athrawon ysgolion meithrin ar ymddygiad plant ac iechyd meddwl a defnydd athrawon o strategaethau effeithiol i reoli ymddygiad plant.
Arweinir yr ymchwil gan Dr Helen Henningham ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, gyda Susan Walker o University of West Indies, Marcos Vera-Hernandez a Harold Alderman.
Yn dilyn sawl blwyddyn o weithio gydag athrawon meithrin yn Jamaica, fe wnaeth Dr Henningham, sydd erbyn hyn yn Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, ddatblygu cynllun hyfforddi athrawon sy'n rhoi 'bocs offer' i athrawon o strategaethau allweddol i reoli ymddygiad sy'n berthnasol, hawdd eu defnyddio, effeithiol a hyblyg. Cyflwynir y cynllun drwy ddulliau cyfranogol ac ymarferol ac mae wedi'i gynllunio'n benodol i fod yn gymharol rad ac addas i'w ddefnyddio mewn mannau lle nad oes llawer o adnoddau.
Eglurodd Dr Henningham fel hyn:
"Ledled y byd mae trais yn broblem fawr mewn iechyd cyhoeddus. Mae ymyriadau i atal hyn yn gynnar mewn plentyndod yn bwysig i fynd i'r afael 芒'r broblem. Mae ein gwaith cynnar wedi dangos bod athrawon meithrin yn Jamaica sydd wedi'u hyfforddi i ddefnyddio strategaethau rheoli ymddygiad plant, sydd wedi'u seilio ar dystiolaeth, yn medru ymdrin 芒'u disgyblion yn well yn emosiynol drwy ymresymu 芒 hwy a defnyddio llai o gosbi corfforol. Mae hyn yn arwain at leihad mewn camymddwyn a phroblemau peryglus ymysg plant ac yn cynyddu eu sgiliau cymdeithasol yn yr ysgol a gartref. Drwy ddefnyddio'r dulliau hyn gwelwyd llai o ymddygiad treisgar ac aflonyddu yn y dosbarth gyda'r plant yn dangos mwy o ddiddordeb a brwdfrydedd mewn gweithgareddau dysgu."
鈥淩wy'n hynod falch ein bod yn cael y cyfle i gyflwyno'r cynllun hwn ar raddfa ehangach yn genedlaethol. Bydd hyn o gymorth i sicrhau bod plant ifanc yn Jamaica yn cael addysg gynnar a fydd yn ddiogel ac ysgogol gan roi pob cymorth i feithrin a datblygu eu sgiliau meddyliol, emosiynol a chymdeithasol," ychwanegodd Dr Henningham.
Yn yr astudiaeth bedair blynedd hon caiff y cynllun hwn ei werthuso drwy ei ddefnyddio mewn 76 o ysgolion meithrin yn ninas Kingston er mwyn gweld beth yw'r manteision a geir wrth gynnal yr hyfforddiant ar raddfa fawr. Caiff yr ysgolion meithrin eu pennu ar hap i gr诺p lle bydd yr holl athrawon yn derbyn yr hyfforddiant ym mlwyddyn 1 (38 o ysgolion meithrin, 114 o ddosbarthiadau) ac ail gr诺p a fydd yn derbyn yr hyfforddiant ddwy flynedd yn ddiweddarach (38 o ysgolion, 114 o ddosbarthiadau). Cynhelir gwerthusiad o'r hyfforddiant o safbwyntiau effaith, proses ac economaidd.
Mae'r cynllun hyfforddi wedi'i gynnwys o fewn y system addysgol bresennol gan hyfforddi staff presennol ac felly dylai fod yn ymarferol a chynaliadwy ar raddfa fawr. Mae ganddo'r potensial felly i gael dylanwad enfawr ar iechyd cyhoeddus yn Jamaica gan leihau ymddygiad treisgar ymysg plant a gwella iechyd meddwl plant ymysg y boblogaeth yn gyffredinol. Ymhellach, gall y cynllun fod yn addas i'w ddefnyddio ymysg plant oedran meithrin a dosbarthiadau iau ysgolion cynradd mewn gwledydd eraill gydag incwm isel i ganolig. Mae ganddo'r potensial i fod yn elfen bwysig mewn cynlluniau byd-eang i atal trais a hybu iechyd meddwl plant.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2014