Cyhoeddi project newydd i ddarparu fersiwn synthetig Cymraeg o鈥檜 llais eu hun i bobl sy鈥檔 colli eu lleferydd
Mae Uned Technolegau Iaith (UTI) Canolfan Bedwyr, Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, wedi ennill grant o 拢20,000 i ddatblygu rhaglen fydd yn recordio lleisiau pobl sydd mewn perygl o golli鈥檙 gallu i siarad oherwydd canser y gwddf neu glefydau eraill, a chynhyrchu fersiwn synthetig sy鈥檔 swnio鈥檔 naturiol o lais pob unigolyn. Ar hyn o bryd dim ond ar gyfer siarad Saesneg mae鈥檙 gwasanaeth hwn ar gael, ond bydd hyn am y tro cyntaf yn caniat谩u i gleifion barhau i allu siarad Cymraeg gyda鈥檜 llais eu hun, yn hytrach na llais synthetig cyffredinol sy鈥檔 swnio fel robot neu lais rhywun arall. Bydd yr UTI yn gweithio gydag awdurdodau iechyd a therapyddion lleferydd i gynnig y gwasanaeth drwy Gymru.
Dywedodd Delyth Prys, Pennaeth yr Uned:
鈥淔e wnaethon ni arddangos ein hadnoddau testun-i-leferydd Cymraeg ym Mhafiliwn Gwyddoniaeth yr Eisteddfod Genedlaethol n么l ym mis Awst gan recordio ac adeiladu nifer o leisiau newydd yno ar gyfer ymwelwyr. Fe soniodd sawl un am deuluoedd a chyfeillion a oedd angen technoleg o鈥檙 fath i鈥檞 cynorthwyo i gyfathrebu yn y Gymraeg gyda鈥檜 lleisiau eu hunain ar 么l eu colli.鈥
Mae鈥檙 UTI wedi bod yn arloesi ym maes technoleg lleferydd Cymraeg ers rhai blynyddoedd bellach, a hefyd wrthi鈥檔 datblygu cynorthwyydd digidol personol Cymraeg o鈥檙 enw Macsen, unwaith eto gyda chymorth grant gan Lywodraeth Cymru. Meddai Dewi Bryn Jones, prif ddatblygwr meddalwedd yr UTI, 鈥済an fod y Gymraeg yn iaith leiafrifol, rydyn ni wedi gorfod meddwl am ddulliau newydd a gwahanol o greu adnoddau iaith. Diolch i lawer iawn o wirfoddolwyr, fe wnaethon ni dorfoli corpws lleferydd drwy ddefnyddio鈥檙 ap Paldaruo, a bydd y canlyniadau hynny yn bwydo i mewn i鈥檙 project hwn.鈥
Enw鈥檙 rhaglen newydd fydd Lleisiwr, a bydd y gwaith o gychwyn recordio lleisiau cleifion yn dechrau yn y flwyddyn newydd. Bydd y fersiwn cyntaf yn galluogi鈥檙 defnyddiwr i deipio ei neges ar fysellfwrdd, gyda鈥檌 lais ei hun yn ei lefaru yn uchel. Bydd fersiynau diweddarach yn caniat谩u i ddefnyddiwr ddefnyddio ei lais ar ddyfeisiau symudol gyda bysellfyrddau Cymraeg.
Gweler hefyd project arall o dan yr un ffrwd ariannu.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2017