Gwella bywoliaethau dros 5m o deuluoedd yn India a Nepal
Mae dull newydd arloesol o fridio planhigion yn gwella bywoliaethau dros 5m o deuluoedd yn India a Nepal.
Datblygwyd y dull newydd hwn, sef bridio planhigion dethol, yn wreiddiol gan yr Athro John Witcombe ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, er mwyn cwrdd ag anghenion hysbys ffermwyr prin eu hadnoddau yng nghrastiroedd Gujarat, India. Mae’r Athro'n gweithio gyda ffermwyr a defnyddwyr brodorol, gan gyflwyno priodweddau y mae ffermwyr yn gofyn amdanynt i rywogaethau reis ac India-corn a chan dynnu hefyd ar brofion rhywogaethau ar ffermydd a phrofiadau ffermwyr. Mae’r dull hwn wedi cynhyrchu rhywogaethau reis ac India-corn newydd sydd wedi eu haddasu'n dda i ofynion a dymuniadau ffermwyr lleol, ac mae hyn yn ei dro yn golygu bod y gymuned ffermio'n fwy tebygol o'u mabwysiadu a'u lledaenu.
Trwy ddulliau cyfranogol o ddewis rhywogaethau (PVS) datblygwyd y rhywogaeth reis boblogaidd BG1442 yn Nepal a datblygwyd hefyd 10 rhywogaeth newydd o reis gan ddefnyddio dulliau bridio cleient-ganolog (COB) yn India a Nepal a bellach mae’r rhywogaethau newydd hyn yn cael eu tyfu ar 500,000 ha o leiaf gan gynhyrchu rhwng 15–40% yn fwy o gnwd na rhywogaethau traddodiadol.
Yn India, amcangyfrifir bod dwy rywogaeth reis ‘Ashoka’ yn unig (200F a 228) yn darparu elw o £17M y flwyddyn i'r ffermwyr tlotaf a'u teuluoedd. Mae'r rhywogaethau hyn yn boblogaidd oherwydd eu bod yn rhoi cnydau da, grawn o ansawdd da, blas gwell a hefyd yn cynhyrchu porthiant anifeiliaid. Maen nhw'n barod i'w cynaeafu'n gynnar sy'n golygu bod bwyd ar gael yn ystod cyfnodau o brinder ac oherwydd eu bod yn gwrthsefyll pla a sychdwr yn dda, mae'r costau'n is a'r llafur yn llai.
Mae'r manteision uniongyrchol hyn yn caniatáu i ffermwyr blannu cnydau ychwanegol neu neilltuo amser i weithgareddau eraill ac eithrio amaeth, sy'n rhoi incwm ychwanegol iddynt ac yn eu galluogi i anfon eu plant i'r ysgol.
Mae rhywogaeth newydd o India-corn wedi cael effaith fawr ar gynhyrchiant bwyd yng Ngorllewin India rhwng 2008-2013. Mae GM-6 wedi cynhyrchu 360,000 tunnell ychwanegol o rawn bwyd yn ystod y cyfnod hwnnw, gyda gwerth net cyfan hyd yma o £9M y flwyddyn ar gyfartaledd i'r ffermwyr a'u teuluoedd yn y rhanbarth hwn.
Datblygwyd GM-6 i berfformio'n well na rhywogaethau eraill o dan amodau sychdwr ac mewn pridd gwael ac ar gyfartaledd mae'n cynhyrchu 28% yn fwy o rawn na'r rhywogaethau gorau eraill sydd ar gael. Ers iddi gael ei rhyddhau mewn tair talaith yng Ngorllewin India rhwng 2002 a 2005, mae'r defnydd o GM-6 wedi lledaenu'n gyflym a bellach mae'n cael ei thyfu ar draws dros 2M o hectarau i gyd, a 54% (mwy nag 1M ha) o hynny yn y cyfnod 2008-2013.
Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol fawr ar les a ffyniant o leiaf 330,000 o deuluoedd y flwyddyn ac wedi galluogi ffermwyr i werthu mwy o rawn yn ogystal ag estyn y cyfnod y gall teuluoedd gynnal eu hunain yn llwyr o fwy na mis.
Oherwydd bod anghenion ffermwyr yn cael eu targedu'n ofalus, ni fu angen i'r ffermwyr weithio mwy na defnyddio mwy o adnoddau. Y canlyniad yw rhywogaeth sy'n aeddfedu'n gynt ac yn cynhyrchu cnwd mwy, ac sy’n barod i’w gynaeafu’n gynt na phe defnyddid dulliau traddodiadol o dyfu planhigion.
Ers hynny mae had GM-6 wedi cael ei ryddhau'n swyddogol yn holl barth amaeth-hinsoddol Gujarat a'i argymell yn swyddogol ar gyfer Rajasthan a Madhya Pradesh.
Mae’r gwaith yn ffrwyth project ymchwil ar y cyd â Phrifysgol Amaeth Gujarat wedi ei gyllido gan DFID.
Bydd yr astudiaeth achos yma yn rhan o arddangosfa Wythnos Prifysgolion: Syniadau am Oes yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am yr effaith a gafodd ein prifysgolion dros
y 100 mlynedd diwethaf, ynghyd â’r ymchwil mwyaf arloesol a bywyd-newidiol heddiw.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mehefin 2014