Gwobr bwysig yn cydnabod gwaith oes yr Athro John Witcombe o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料
Mae'r Athro John Witcombe, Cymrawd Cadeiriol yn , wedi cael ei ddewis yn Amaethwr Datblygu y Flwyddyn am 2014 gan y .
Mae'r wobr a dderbyniodd John, sef un bwysicaf y TAA, yn cydnabod ei gyfraniad oes i faes amaethyddiaeth ar gyfer datblygu, ac yn arbennig ei gyfraniad i fridio planhigion.
Mae gwaith John wedi bod o fudd i amaethyddiaeth ar draws y trofannau gan gael effaith wirioneddol gadarnhaol ar gymdeithas. Fe wnaeth ei strategaethau newydd i fridio amrywiaethau o gnydau, yn cynnwys gweithio'n uniongyrchol 芒 ffermwyr prin eu hadnoddau, arwain at dyfu'r amrywiaethau modern cyntaf mewn ardaloedd tlodaidd a ffiniol yn Ne Asia.
Mae dau fath John o reis Ashoka yn rhoi mwy o gnwd, yn gallu gwrthsefyll sychder ac yn cynhyrchu grawn o well ansawdd na mathau lleol a thrwy hynny mae'r ffermwyr yn cael gwell pris yn y farchnad. Erbyn 2012 roeddent yn cael eu tyfu gan fwy na miliwn o gartrefi yn Nwyrain India, gan roi sicrwydd bwyd hanfodol yn ystod blynyddoedd o sychder a chynyddu hunangynhaliaeth cartrefi o ran bwyd o chwe mis i naw mis. Mae ffermwyr hefyd yn hoffi ei india-corn GM sy'n rhoi grawn o ansawdd uwch a mwy o gnwd. Mae hyn wedi gwella bywoliaeth 300,000 o'r ffermwyr tlotaf yn Gujarat, ac mae wedi cael ei dyfu ar arwynebedd o 2M ha i gyd.
Meddai , cydweithiwr iddo yn SENERGy, "Mae John yn enillydd teilwng iawn, ac mae hyn yn gydnabyddiaeth ragorol i'r gwaith y mae wedi ei wneud o Fangor dros lawer o flynyddoedd."
Mae'r TAA yn gymdeithas broffesiynol o unigolion a chyrff corfforaethol sy'n ymwneud ag amaethyddiaeth ar gyfer datblygu ledled y byd. Mae'n dod ag unigolion a sefydliadau o wledydd datblygedig a llai datblygedig at ei gilydd i'w galluogi i gyfrannu at bolis茂au a gweithrediadau rhyngwladol wedi'u hanelu at leihau tlodi a gwella bywoliaethau. Mae amgylcheddau trofannol ac is-drofannol yn gartref i biliynau o bobl ac maent yn wynebu llawer o sialensiau o ran cefnogi'r poblogaethau mawr hyn drwy amaethyddiaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2014