Gwobrau BPS i fyfyrwyr PhD Seicoleg
Mae dwy fyfyrwraig ymchwil yn yr Ysgol Seicoleg wedi ennill gwobrau a drefnwyd gan y BPS Division of Academics, Researchers and Teachers in Psychology (DART-P) ar y cyd 芒 PsyPAG.
Ashleigh Johnstone gipiodd y wobr gyntaf, gyda Leanne Rowlands yn y trydydd safle 鈥 ill dwy yn dilyn cyrsiau PhD yn yr Ysgol.
Dywedodd yr Athro John Parkinson, Pennaeth yr Ysgol: 鈥淟longyfarchiadau mawr i'r ddwy ar eu llwyddiant. Rydym wrth ein bodd bod ein myfyrwyr wedi ennill dwy o'r dair wobr uchaf mewn cystadleuaeth ledled Prydain am ragoriaeth addysgu PhD.鈥
Fel rhan o鈥檙 rhaglen hyfforddi athrawon yn yr Ysgol Seicoleg ar gyfer myfyrwyr PhD, enillodd Ashleigh Johnstone brofiad o addysgu grwpiau bach, arsylwi athrawon profiadol, a rhoi adborth i fyfyrwyr.
Mae hi wedi darparu cefnogaeth marcio ar gyfer nifer o fodiwlau ychwanegol, rhoi darlith wadd, cynllunio seminar i'w chyflwyno i bob myfyriwr seicoleg blwyddyn gyntaf, a chyd-ddatblygu seminar datblygiad proffesiynol ar gyfer ei chyfoedion.
Dywedodd: 鈥淒ydw i ddim yn meddwl bod unrhyw beth yn well na helpu myfyriwr gyda rhywbeth sy鈥檔 peri trafferth iddyn nhw ac yna gweld y foment honno pan fo popeth yn clicio i鈥檞 le, neu helpu myfyriwr pryderus i deimlo'n ddigon hyderus i roi ei law i fyny yn y dosbarth a chymryd rhan mewn trafodaeth.
鈥淵n ystod fy nosbarthiadau, rwy'n anelu i ysbrydoli a chefnogi鈥檙 myfyrwyr i ddysgu trwy geisio eu gwneud i deimlo鈥檔 gartrefol. Mae'n anrhydedd i mi dderbyn Gwobr Addysgu PsyPAG/DART-P, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r staff a'r myfyrwyr a gefnogodd fy enwebiad.鈥
Yn ystod ei hastudiaethau PhD, mae Leanne Rowlands wedi bod yn Hyfforddwr Graddedigion ar gyfer modiwlau Dulliau Ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, wedi hwyluso sesiynau Galw Heibio 'Sgiliau ac Ystadegau', cyd-oruchwylio myfyrwyr 么l-raddedig, cynnal darlithoedd gwadd, a dysgu niwro-anatomi trwy gyfrwng labordai ymarferol gan ddefnyddio ymennydd dynol go iawn.
Dywedodd Leanne Rowlands: 鈥淩wyf wedi mwynhau fy mhrofiad addysgu yn fawr iawn, ac mae wedi dod 芒 chymaint o ystyr i fy mywyd. Yn arbennig felly, rwy'n mwynhau rhyngweithio 芒 myfyrwyr a'u gweld yn cyflawni eu hamcanion.鈥
Mae'r rhaglen hyfforddi athrawon yn nodwedd unigryw o hyfforddiant doethurol yn Ysgol Seicoleg Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, gyda'r rhaglen yn cael ei hachredu gan yr Academi Addysg Uwch (AAU). Ar 么l cwblhau'r rhaglen yn ddiweddar, mae Ashleigh a Leanne ill dwy wedi ennill achrediad fel Cymrodyr Cysylltiol yr AAU.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mehefin 2019