Llwyddiant i Ysgol Busnes Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yng Nghystadleuaeth Busnes IBM
Mae tîm o fyfyrwyr Ysgol Busnes Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ wedi dod yn ailyn rownd derfynol genedlaethol Her Fusnes Prifysgolion IBM,a gynhaliwyd ym Mhencadlys IBM yn Llundain yn gynharach eleni.
Bu'r myfyrwyr yn gweithio fel bwrdd cyfarwyddwyr i wneud penderfyniadau busnes gan ddangos sgiliau entrepreneuraidd, creadigrwydd a gwaith tîm.
Roedd dros 200 o dimau o fyfyrwyr yn y digwyddiad cenedlaethol. Cyrhaeddodd ail dîm o'r Ysgol Busnes y rownd gynderfynol a gorffen yn yr wythfed safle. Cafodd timau'r Ysgol Busnes eu mentora gan Dr Siwan Mitchelmore.
Mae Her Fusnes Prifysgolion IBM yn gystadleuaethfawreddog a chystadleuol iawn.Mae israddedigion o brifysgolion ledled y Deyrnas Unedig yn cymryd rhan mewn cyfres o senarios busnes realistig er mwyn dangos i ba raddau y maent yn gallu trosi dysgu academaidd yn synnwyr masnachol ar gyfer y byd go iawn.
Llun: ‘IBM 8th’ : Simon Gates, Rong Li, Victoria Wiglusz (Team Leader), Sophia Foster, Wenhao Zhang - 8fed safle.
Llun: ‘IBM winners’ : Benjamin Aaron Murray (Team Leader), Hannah Rose Culleton, Junhui Wang, Nguyen Nhat Ngan Le secured 2il safle.
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2018