Siaradwch 芒 Chynghorwr Cyflogadwyedd
Gall siarad 芒 Chynghorydd Cyflogadwyedd eich helpu i archwilio, canolbwyntio, blaenoriaethu a pharatoi - gallwn eich helpu os ydych yn gwybod yn union beth rydych eisiau ei wneud a sut i gyrraedd yno, a gallwn eich helpu os nad oes gennych unrhyw syniad am yr hyn yr hoffech ei wneud na sut i ddechrau.
Ymhlith y pynciau cyffredin mae:
- Dydw i ddim yn gwybod beth ydw i eisiau鈥檌 wneud. Sut mae penderfynu?
- Beth yw'r opsiynau gyda fy ngradd?
- Rydw i eisiau cael profiad gwaith, ond dydw i ddim yn gwybod sut/ble i ddechrau.
- Ydy fy CV yn ddigon da?
- Sut ddylwn i fynd at gyflogwr/wneud cais am swydd wag /baratoi at gyfweliad?
- Rwy'n gwneud ceisiadau am gyfleoedd ond ddim yn cael unrhyw lwc - sut alla i wella ar fy nghyfle?
- Mae gen i ddiddordeb mewn astudio/hyfforddiant pellach, ond a fydd hynny'n werth chweil?
Lawrlwythwch ein taflen i ganfod mwy am ein hapwyntiadau a sut i wneud y gorau ohonynt.
Taflen 'Apwyntiadau 芒 Chynghorwyr - Beth i'w Ddisgwyl'
Mae ein hapwyntiadau, sy鈥檔 para 30 munud, ar gael bob dydd o'r wythnos waith a gellir archebu lle ar-lein trwy (TARGETconnect yn flaenorol).
Cynhelir yr apwyntiad trwy Teams, a gallwch ddewis galwad fideo neu lais, pa'r un bynnag sydd fwyaf cyfleus i chi. Bydd apwyntiadau hefyd ar gael ar y campws yn Adeilad Rathbone.
Bydd myfyrwyr ag anghenion mynediad yn gallu trefnu apwyntiadau hirach a bydd apwyntiadau ff么n hefyd ar gael ar gais. e-bost: gyrfaoedd@bangor.ac.uk
Apwyntiadau Cyfrwng Cymraeg
Mae Cynghorwr sy'n siarad Cymraeg ar gael ar y rhan fwyaf o ddyddiau, cysylltwch 芒 ni'n uniongyrchol i sicrhau eich bod yn gweld y person cywir - gyrfaoedd@bangor.ac.uk
Wedi'i ddiweddaru Awst 2023