Profiad Gwaith - Cyfleon Blasu, Lleoliadau ac Interniaethau
Yn y byd cystadleuol sydd ohoni heddiw am swyddi, mae cael profiad gwaith ac, os oes modd, brofiad gwaith perthnasol, yn allweddol pan fyddwch yn ymgeisio am swyddi i raddedigion. Bydd gofyn i chi gael profiad perthnasol i wneud rhai cyrsiau a bydd cyflogwyr sy’n recriwtio i swyddi nad ydynt yn rhai penodol i raddedigion yn chwilio am dystiolaeth bod gennych brofiad o fod mewn gweithle. Mae ystadegau o'r yn dangos bod yn well gan gyflogwyr gyflogi rhywun sydd 芒 6 mis o brofiad na rhywun sydd newydd raddio gyda chofnod academaidd anhygoel. Os nad ydych yn si诺r pa sector yr ydych am weithio ynddo, yn hytrach na gwneud cais am leoliad llawn amser gallech gael nifer o wahanol leoliadau tymor byr a fyddai'n ddefnyddiol i chi. Os ydych yn gwybod pa sector yr ydych am weithio ynddo, gall interniaeth neu leoliad fod yn ffordd ddefnyddiol o "gael eich pig i mewn" i weld sut beth yw gweithio i gwmni arbennig. Byddwch yn elwa o brofiad gwaith trwy ddatblygu eich sgiliau, yn ogystal 芒 chael golwg ar yr hyn y gall dilyn gyrfa arbennig ei olygu. Bydd y rhai sy'n cyflogi graddedigion yn aml yn edrych ar eich profiad yn ogystal 芒'ch cyflawniad academaidd a gweithgareddau allgyrsiol. Gallwch gofnodi eich gweithgareddau allgyrsiol trwy'r Wobr Cyflogadwyedd 香港六合彩挂牌资料 (cyswllt mewnol).
Beth bynnag a wnewch, mae'n bwysig iawn eich bod yn (cyswllt mewnol) eich profiad. Meddyliwch ynghylch beth oedd eich swydd/tasg/prosiect, beth oedd yn ei gynnwys a pha sgiliau y gwnaethoch eu defnyddio. Mae hyn yn hynod werthfawr, nid yn unig i’ch helpu i asesu eich sgiliau, ond hefyd pan ddaw’n amser i chi ysgrifennu eich CV, llenwi ffurflenni cais ac ateb cwestiynau mewn cyfweliad, lle mae cyflogwyr yn aml yn gofyn am dystiolaeth o adeg pan wnaethoch ddefnyddio sgil neilltuol.
Cyfleoedd Profiad Gwaith
Dilyn pobl wrth eu gwaith
- Gellir dilyn pobl wrth eu gwaith am gyfnodau byr (1 - 10 diwrnod) fel profiad gwaith di-d芒l gyda chwmn茂au lleol i’ch galluogi i gael gwybodaeth ymarferol o weithio mewn sector diwydiant neu fusnes arbennig.
Lleoliadau Gwaith
- Mae lleoliadau gwaith byr yn gyfle da i gael profiad gwaith mewn maes pwnc o'ch dewis. Gall y lleoliad bara rhwng 6 a 10 wythnos, yn llawn-amser neu ran-amser gyda'r t芒l yn uwch na'r isafswm cyflog cenedlaethol.
- Gall myfyrwyr rhyngwladol geisio cyngor am leoliadau gwaith trwy gysylltu 芒 cyflogadwyedd@bangor.ac.uk neu drefnu .
-
Mae'r yn raglen a gyllidir gan Lywodraeth y DG yn darparu lleoliadau gwirfoddol am 10-12 wythnos i rai 18-25 oed a lleoliadau Arweinydd T卯m i rai 23-35 oed. Mae'n raglen datblygiadol sy’n rhoi cyfleon i bobl ifanc o'r DG a'r Gwledydd Datblygedig i wirfoddoli mewn rhai o gymunedau tlotaf Affrica ac Asia.
-
Mae lleoliadau gwaith rhyngwladol ar gael hefyd drwy . Mae gan The International Association for the Exchange of Students for Technical Experience (IAESTE) dros 60 mlynedd o brofiad yn trefnu lleoliadau gwaith rhyngwladol, cyflogedig mewn dros 80 o wledydd i fyfyrwyr technegol.
Cefnogaeth Profiad Gwaith
Heb lawer o brofiad cyflogaeth neu rwystrau a allai eich dal yn 么l? A ydych yn teimlo eich bod yn wynebu rhwystrau a allai eich dal yn 么l? Os felly, gall y T卯m Cefnogi Profiad Gwaith roi cymorth ychwanegol i'ch helpu i gael mynediad at gyfleoedd a all wella'ch siawns o gael cyflogaeth ar 么l graddio.
Gall rhwystrau ddeillio o nifer o wahanol ffactorau megis: caledi ariannol, anabledd, gwahaniaeth dysgu, iechyd meddwl a dyletswyddau gofalu.
Blaenoriaethir cymorth i’r rhai sydd ag ychydig neu ddim profiad blaenorol o waith.
Gall cynghorwyr gynnig cefnogaeth unigol i'ch helpu i wella'ch cyflogadwyedd a chyflawni'ch nodau. Os hoffech gofrestru eich diddordeb, llenwch y neu gallwch anfon e-bost atom yn cefnogaethprofiadgwaith@bangor.ac.uk
Interniaethau
- Mae interniaeth yn ffordd o gael hyfforddiant yn y gwaith i swyddi proffesiynol. Mae interniaethau yn debyg i brentisiaethau mewn swyddi ym maes masnachol neu alwedigaethol. Gall yr interniaeth amrywio o ran hyd gan bara am ychydig wythnosau neu sawl mis. Gall interniaethau fod 芒 th芒l neu'n ddi-d芒l, yn dibynnu ar y cyflogwr. Mae interniaethau yn cynnwys cyfnewid gwasanaethau am brofiad rhwng yr unigolyn a’r sefydliad. Ni warantir y cewch eich cyflogi ar 么l cwblhau interniaeth ond mae hynny'n bosibl weithiau.
- Mae'r Gwasanaeth Cyflogadwyedd yn cynnig amrywiaeth eang o interniaethau yn yr adran ac mewn adrannau eraill o'r brifysgol. Hysbysebir yr interniaethau ar (TARGETconnect yn flaenorol).
- Rydym hefyd yn cynnig Interniaethau Ehangu Mynediad achlysurol o fewn y Brifysgol.
Rhaglenni i raddedigion
- Mae nifer o gwmn茂au yn cynnig rhaglenni recriwtio graddedigion. Maent yn gystadleuol iawn ond yn ffordd dda o gael eich ffordd i mewn i gwmni a chael amrywiaeth eang o brofiadau, yn aml yn cynnwys cynlluniau cyfaill neu fentora. Gan amlaf mae rhaglenni i raddedigion yn talu cyfradd gystadleuol a gall contractau amrywio o fod am gyfnod penodol neu gontract parhaol.
- Mae rhestr llawn o Raglenni i Raddedigion i weld .
- Mae yn cynnwys cronfa ddata fawr o gynlluniau i raddedigion mewn amrywiaeth eang o sectorau cyflogaeth.
- Mae yn cynnig cyngor ar swyddi a chynlluniau i raddedigion, gydag awgrymiadau defnyddiol ynghylch sut i gael gwaith ac yn rhoi proffil o'r sefydliadau.
- Graddau Meistr Ymchwil KESS II - Mae鈥檙 prosiect hwn yn gyfle cyffrous i gwblhau prosiect ymchwil gradd meistr a gaiff ei ariannu鈥檔 llawn.
Lleoliadau Rhyngwladol, Interniaethau a rhaglenni i raddedigion
- Mae yn cynnig amrywiaeth eang o interniaethau rhyngwladol, rhaglenni i raddedigion a swyddi.
- - Gwefannau gyrfaoedd arbenigol wedi'u cynllunio ar gyfer myfyrwyr a graddedigion o Affrica, China, India a Malaysia sydd yng ngwledydd Prydain (er y gall unrhyw fyfyrwyr sydd 芒 diddordeb mewn gweithio yn y gwledydd hynny eu defnyddio). Maent yn cynnwys gwybodaeth am swyddi, cysylltiadau at gyflogwyr sy'n cyflogi llawer o raddedigion, adrannau'n cynnwys cyngor manwl, a'r newyddion a'r digwyddiadau diweddaraf yn ymwneud 芒 marchnadoedd llafur i raddedigion ar draws Affrica, China, India a Malaysia.
Cyngor Cyffredinol
Gellwch gael cyngor am yrfaoedd o nifer o wahanol leoedd. Gellwch ddod i weld (cyswllt mewnol), gofyn cwestiwn drwy anfon e-bost atom, cyflogadwyedd@bangor.ac.uk neu bori drwy ein (cyswllt mewnol). Gall fod yn ddefnyddiol edrych ar adnoddau eraill gan efallai eu bod yn cynnig cyngor arall neu rywbeth mwy penodol. Dyma ychydig o wefannau dibynadwy.
- - yn cynnig amrywiaeth o gyngor ar CVs a cheisiadau, awgrymiadau da am gyfweliadau, strategaethau chwilio am swyddi a mwy.
- - yn cynnig cyngor cyffredinol am bob agwedd ar gael hyd i'ch gyrfa berffaith.
- Mae yn adnodd gyrfaoedd i raddedigion gyda channoedd o interniaethau, lleoliadau, swyddi a chynlluniau i raddedigion. Maent yn cynnig cyngor gyrfaol defnyddiol ar-lein i raddedigion sydd newydd gael gwaith a thudalen holi ac ateb gyda defnyddwyr eraill neu gynghorwyr gyrfaol.
- - yn rhoi cyngor gyrfaol i fyfyrwyr a graddedigion .
- Mae gyda lle i chwilio am lleoliad ac swyddi, hefyd ma adolygiad o daparwyr gwasanaeth ac lleoliadau penodol.
Wedi'i ddiweddaru Awst 2023