Professor Jason Davies
Athro mewn Cymraeg a Llen Cymru yn Saesneg
–
Rhagolwg
Brodor o Aberystwyth yw Dr Jason Walford Davies. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Gyfun Penweddig yn y dref honno, a graddiodd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ym 1993. Fe’i hapwyntiwyd yr un flwyddyn i Ddarlithyddiaeth yn yr adran hon. Y mae bellach yn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg ac yn Gyd-gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil R. S. Thomas ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ.
Yn sgil penodi R. S. Thomas (1913–2000) yn Athro er Anrhydedd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ym 1999, sefydlwyd Canolfan Ymchwil arbennig er mwyn cydnabod ei gyfraniad a hybu ymchwil ar ei waith. Y mae’r Ganolfan hon yn archif o holl ddeunydd cyhoeddedig R. S. Thomas, ynghyd â chasgliad digymar o gyfrolau beirniadol, ysgrifau, adolygiadau, cyfweliadau a deunydd clywedol yn ymwneud â’i waith. Ceir yn yr archif yn ogystal lawer iawn o ddeunydd anghasgledig ac anghyhoeddedig gan y bardd.
Y mae'r Ganolfan ar gael at ddefnydd ymchwilwyr ar ymweliad - rsthomas.bangor.ac.uk
Prif feysydd ymchwil Jason Walford Davies yw llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol a’r ugeinfed ganrif, a Llên Cymru yn Saesneg. Cyhoeddodd yn helaeth ar waith R. S. Thomas, ac ymhlith ei ymdriniaethau â’r bardd hwnnw y mae’r cyfrolau R. S. Thomas: Autobiographies (J. M. Dent: 1997) a Gororau’r Iaith: R. S. Thomas a’r Traddodiad Llenyddol Cymraeg (Gwasg Prifysgol Cymru: 2003) – monograff a osodwyd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru/ Y Cyngor Llyfrau, 2004.
Ymddangosodd ei olygiad o lythyrau R. S. Thomas at y bardd a’r beirniad Raymond Garlick (gohebiaeth hanner canrif) yn 2009 (Gwasg Gomer).
Ef yw golygydd Gweledigaethau: Cyfrol Deyrnged Yr Athro Gwyn Thomas (Cyhoeddiadau Barddas: 2007), a chyd-olygydd Cof ac Arwydd: Ysgrifau Newydd ar Waldo Williams (Cyhoeddiadau Barddas: 2006) – cyfrolau sy’n cynnwys astudiaethau estynedig ganddo ar waith Waldo. Ar hyn o bryd y mae wrthi’n llunio cofiant i Waldo yn y gyfres ‘Dawn Dweud’ (Gwasg Prifysgol Cymru), a hefyd yn paratoi’r golygiad beirniadol diffiniol o’i gerddi ar gyfer Gwasg Gomer.
Yr oedd Jason Walford Davies yn un o feirniaid cystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2000 ac yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau 2005.
Yn 2004 enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd â’i bryddest ‘Egni’, cerdd yn coffáu Streic y Glowyr 1984–5, ac y mae wrthi’n gweithio ar gasgliad o gerddi sydd i’w gyhoeddi’n fuan.
www.bangor.ac.uk/news/Jason.php.cy?
Y mae’n cyfrannu’n gyson i raglenni radio a theledu ar y celfyddydau, ac ef oedd cyflwynydd cyfres Ffilmiau’r Bont ar gyfer (2006).
Gwybodaeth Cyswllt
Position: Senior Lecturer
Email: wes009@bangor.ac.uk
Phone: +44 (0) 1248 Â 38 2240
Location: Room 3, Professor’s Corridor
Addysgu ac Arolygiaeth
Teaching
CXC1001: Beirniadaeth Lenyddol Ymarferol (‘Practical literary criticism’)
CXC1016: Llên Gyfoes (‘Contemporary literature’)
CXC3001/ CXC2101: Canu Chwedl (‘Saga poetry’)
CXC3102/ CXC2002: Dafydd ap Gwilym (‘Dafydd ap Gwilym’)
CXC3007: Barddoniaeth Fodern (‘Modern Poetry’)
CXC3009: Traethawd Estynedig (‘Dissertation’)
Cyhoeddiadau
2024
- Wedi ei Dderbyn / Yn y wasg
Davies, J., Mai 2025.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Papur › adolygiad gan gymheiriaid
2023
- Cyhoeddwyd
Davies, J., 1 Awst 2023, Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol LlÅ·n ac Eifionydd 2023. Lewis, G. (gol.). Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, t. 36-52 15 t. (Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru).
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod - Cyhoeddwyd
Davies, J., 16 Awst 2023, Penrhaith ein Heniaith Ni: Cyfrol Deyrnged Gruffydd Aled Williams. Huws, B. & Chapman, T. R. (gol.). 1af gol. Aberystwyth: Atebol, t. 171-209 38 t.
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
2016
- Cyhoeddwyd
Davies, J. (Golygydd) & Brown, A. (Golygydd), 29 Medi 2016, 1af gol. Haxham: Bloodaxe Books. 112 t.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
2013
- Cyhoeddwyd
Davies, J. W., 1 Rhag 2013, Yn: Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. 19, t. 148-168
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid - Cyhoeddwyd
Davies, J. W., 1 Hyd 2013, Ysgrifau Beirniadol XXXII. Gwasg Gee, t. 163-197
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod - Cyhoeddwyd
Davies, J. W., 1 Hyd 2013, Yn: Llên Cymru. 36, 1, t. 51-90
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid - Cyhoeddwyd
Brown, A. D. (Golygydd) & Davies, J. W. (Golygydd), 29 Maw 2013, 2013 gol. Bloodaxe Books Ltd.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
2009
- Cyhoeddwyd
Davies, J. W. (Golygydd), 1 Ion 2009, 2009 gol. Gwasg Gomer.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
2007
- Cyhoeddwyd
Davies, J. W. (Golygydd), 1 Ion 2007, 2007 gol. Cyhoeddiadau Barddas.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
2006
- Cyhoeddwyd
Walford Davies, D. (Golygydd) & Davies, J. W. (Golygydd), 1 Ion 2006, 2006 gol. Cyhoeddiadau Barddas. 232 t.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
2004
- Cyhoeddwyd
Davies, J. W., Walford Davies, J. & Hughes, J. E. (Golygydd), 1 Ion 2004, Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Casnewydd a'r Cylch, 2004. 2004 gol. Gomer Press, Llandysul, t. 22-27
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod - Cyhoeddwyd
Davies, J. W., 2004, Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd a'r Cylch 2004. Gwasg Gomer, t. 22-27
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Cyfraniad Pennod Arall
2003
- Cyhoeddwyd
Davies, J. W., 1 Ion 2003, University of Wales Press, Cardiff.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
Gweithgareddau
2024
Y Prifardd Rhys Iorwerth yn cael ei gyfweld gan Jason Walford Davies, Cadeirydd y beirniaid, a thraddodwr y feirniadaeth, Cystadleuaeth y Goron, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Lly^n ac Eifionydd 2023
31 Ion 2024
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
Projectau
-
01/06/2020 – 01/08/2022 (Wedi gorffen)
-
01/10/2006 – 13/09/2007 (Wedi gorffen)