Amserlenni Arholiadau:
Ionawr 2025
Mae’r amserlen arholiadau newydd wedi’i chyhoeddi yma. Bydd pob arholiad sydd wedi’i drefnu’n ganolog fel rhai ar-arlein yn cael ei ryddhau trwy Blackboard. Bydd yr holl arholiadau eraill yn cael eu cynnal yn y lleoliad a nodir.
Mae’r cyfnod ‘agored’ arholiadau ar-lein yn caniatáu mwy o amser i gyflawni’r gwaith nag y bydd ei angen arnoch, ond mae’n caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd i fyfyrwyr o ran eu hamgylchiadau ar yr adeg hon (er enghraifft, y rhai a allai fod â chyfrifoldebau eraill, fel gofal plant), ac yn sicrhau bod yr aseiniadau’n gynhwysol ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd â PLSP ar waith (er enghraifft gydag amser ychwanegol). Mae’r cyfnod agored yn amrywio – os oes angen gwybodaeth bellach arnoch ar gyfnod agored neu fformat yr arholiad, gwiriwch y safleoedd Blackboard unigol a / neu cysylltwch â Threfnydd y Modiwl yn uniongyrchol.
Mae’r amserlen arholiadau hon yn cwmpasu’r arholiadau a fyddai fel rheol yn digwydd mewn Ystafelloedd Arholi a / neu y gofynnwyd iddynt gael eu hamserlennu’n ganolog. Os oeddech chi’n disgwyl gweld arholiadau ar gyfer modiwlau sydd heb eu cynnwys arno, gwiriwch y safleoedd Blackboard unigol a / neu cysylltwch â Threfnydd y Modiwl yn uniongyrchol.
Os oes gennych ymholiad ynglŷn â modiwl / asesiad penodol edrychwch ar safle Blackboard eich modiwlau neu cysylltwch â Threfnydd y Modiwl.
Mae’n rhaid i fyfyrwyr sydd â Chynlluniau Cefnogi Dysgu Personol (PLSPs) drefnu'r addasiadau i’r arholiadau cyn POB arholiad yn y cnawd ar y campws ar ddiwedd y semester unwaith y caiff yr amserlenni eu cyhoeddi. Rhagor o wybodaeth am drefnu addasiadau arholiadau.
- Ysgol Busnes Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
- Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg
- Ysgol Feddygol Gogledd Cymru
- Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol
- Ysgol Gwyddorau Eigion
- Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas
- Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau
- Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon
- Ysgol y Gymraeg
Diweddariad diwethaf yr Amserlen: Dydd Mawrth 17 Rhagfyr 2024 10:12
Hoffwn bwysleisio bod yr amserlen arholiad yn agored i newid ar fyr rybudd ac felly fe ddylid edrych ar y tudalennau hyn yn rheolaidd am y wybodaeth ddiweddaraf.