Beth yw Gwarchod Data?
Diben deddfwriaeth gwarchod data yw sicrhau nad yw data personol yn cael eu prosesu heb wybodaeth a chaniatâd gwrthrych y data (ac eithrio mewn rhai achosion arbennig), sicrhau bod data personol a brosesir yn gywir, a gweithredu nifer o safonau ar gyfer prosesu gwybodaeth o'r fath.
Yn wahanol i'r Ddeddf flaenorol, mae Deddf 1998 yn ymwneud â data sydd mewn ffeiliau papur yn ogystal â ffeiliau cyfrifiadurol, er nad yw'r holl ddarpariaethau'n berthnasol yn syth yn achos ffeiliau papur sy'n bodoli eisoes. Fodd bynnag, polisi'r Brifysgol yw sicrhau y bydd pob cofnod, cyn belled ag y bo modd, yn cydymffurfio â darpariaethau'r Ddeddf.
Mae gan wrthrychau data yr hawl i wirio dilysrwydd y data a gedwir amdanynt gan Brifysgol Cymru, 香港六合彩挂牌资料. Drwy gyflwyno cais ysgrifenedig i'r Rheolwr Cofnodion, a thalu'r tâl gofynnol, gall gwrthrych y data gael copi o'r holl ddata a gedwir amdano/amdani.
Ceir copi o'r drefn a'r ffurflen briodol i wneud cais am weld data drwy glicio ar "Canllawiau ar ofyn am wybodaeth" sydd i'w ddarganfod uchod.
Mae PCB yn hapus i dderbyn cysywllt cychwynnol yn ymwneud â chais gwrthrych data am weld y data mewn modd electronig - i wneud hyn cliciwch yma . Unwaith bydd eich cais wedi ei dderbyn bydd rhaid i ni gysylltu â chi i wirio eich cais ac i gasglu'r tal, felly byddem yn ddiolchgar pe baech yn cynnwys cyfeiriad post o fewn eich llyth-el. Ar hyn o bryd nid yw PCB yn darparu'r wybodaeth mewn modd electronig..
Mae rhai mathau o ddata personol wedi eu heithrio o ddarpariaethau'r Ddeddf ac mae rhai eithriadau i hawl mynediad gwrthrych y data.
Gweinyddir gofynion y Ddeddf gan Reolwr Cofnodion PCB a Gweinyddwr Gwarchod Data PCB sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd Pennaeth y Gwasanaeth Llyfrgell, Archifau a Rheoli Cofnodion. Dylid cysylltu'n gyntaf â'r Rheolwr Cofnodion.