Cydraddoldeb Anabledd
Dod i adnabod Ian Davies-Abbott, Tiwtor Anabledd yr Ysgol Gwyddorau Iechyd
Beth ydy eich gwaith yn y swydd hon?
Fy ngwaith i ydy sicrhau bod pob myfyriwr sydd ag anabledd yn derbyn yr holl wasanaethau y mae ganddynt hawl gyfreithiol i'w cael, yn unol â'r diffiniad yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Pam mae bod yn Diwtor Anabledd yn bwysig i chi?
Gan fy mod wedi eirioli dros ffrindiau a chydweithwyr sydd wedi bod angen cefnogaeth oherwydd eu hanableddau rwyf bellach yn bwriadu gwneud yr un peth dros fyfyrwyr sydd ag anabledd.
Ble rydych wedi gweithio cyn hyn?
Graddiais mewn Saesneg ac Astudiaethau Theatr yn y lle cyntaf cyn teithio a gweithio mewn amryw o wahanol swyddi. Dechreuais fy hyfforddiant nyrsio ganol fy ugeiniau ac ar ôl cymhwyso gweithiais yn bennaf mewn gwasanaethau Iechyd Meddwl Pobl HÅ·n yn Lerpwl. Deuthum draw i Ogledd Cymru yn 2005 a gweithiais mewn gwasanaethau ar draws y bwrdd iechyd lleol, gan ganolbwyntio ar gefnogi pobl yr effeithiwyd arnynt gan ddementia. Ymunais â Phrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn 2018 fel darlithydd nyrsio iechyd meddwl.
Beth fedrwch chi ei gynnig i'r swydd newydd hon?
Cymhelliant i eirioli dros fyfyrwyr sydd angen cefnogaeth.
Sut y gall myfyrwyr gysylltu â chi?
E-bost: IanDavies-Abbott@bangor.ac.uk