Ymgysylltu â Myfyrwyr
Mae'r Ysgol Gwyddorau Iechyd yn ceisio sicrhau bod llais y myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn gwneud hynny mewn nifer o ffyrdd:
- Byddwn yn gofyn yn rheolaidd am farn ein myfyrwyr am eu rhaglenni astudio, ac am sut yr ydym yn cefnogi eu dysguÂ
- Mae gennym strategaeth 'Gadewch i Ni Glywed Eich Barn' i gael gwybod am brofiadau myfyrwyr
- Byddwn yn cymryd rhan mewn arolygon myfyrwyr cenedlaethol ac yn rhannu arferion da
- Mae Cynrychiolwyr Myfyrwyr yn gweithio mewn partneriaeth â'r Ysgol i ymdrin â materion allweddol sy’n ymwneud â phrofiad myfyrwyr
- Mae gennym Bwyllgor Cyswllt Staff-Myfyrwyr lle byddwn yn adolygu'n rheolaidd sut yr ydym yn ennyn cyfraniad myfyrwyr
Ein huchelgais yw bod y strategaethau hyn yn ein galluogi i weithio gyda'n gilydd i ddarparu'r amgylchedd gorau posib i ddysgu ac i hyrwyddo gofal iechyd.
Yn ogystal â llwyddo yn eu rhaglenni astudio, rydym yn awyddus bod ein myfyrwyr yn cael y gorau o'u hamser ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Mae yna amrywiaeth o gymdeithasau dan arweiniad myfyrwyr sy'n rhoi cyfleoedd i rannu diddordebau a phrofiadau. Mae'r Ysgol hefyd yn rhoi cefnogaeth ymarferol i’n myfyrwyr fynd i gynadleddau rhanbarthol a chenedlaethol a digwyddiadau rhwydweithio ym maes gofal iechyd. Rydym hefyd yn cydweithio â'n Cynrychiolwyr Myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr i adnabod ffyrdd newydd o allu sicrhau profiad cadarnhaol i fyfyrwyr yn yr Ysgol.
Ar y tudalennau hyn cewch gysylltiadau at wahanol agweddau ar ein gwaith yn ennyn diddordeb myfyrwyr. Os oes gennych unrhyw awgrymiadau, cliciwch ar y blwch 'Gadewch i Ni Glywed Eich Barn'.