Amdanom ni
Gwybodaeth am yr Ysgol Gwyddorau Iechyd
Mae ymchwil yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd wedi ei drefnu o amgylch Sefydliad Ymchwil Gofal Iechyd a Meddygol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Yn yr asesiad diweddaraf o ansawdd ymchwil ar draws y DU (REF 2014) cydnabuwyd bod 95% o'n hymchwil iechyd gyda'r orau yn y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol ac mae ansawdd ein cynnyrch ymchwil iechyd yn ein rhoi yn y 3 uchaf o 94 o brifysgolion ar draws y DU. Mae'r ysgol yn rhan fawr o'r Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad, coleg sy'n cynnwys ethos ymchwil ac addysgu cryf iawn a amlygir trwy gyrsiau rhagorol. Mae gallu ymchwil yr ysgol yn bwydo i'w chyrsiau gradd ac mae'r ysgol yn y safle cyntaf yn y Deyrnas Unedig am Radiograffeg ac yn y deg uchaf am Nyrsio yn ôl The Times Good University 2018.
YnglÅ·n â Phrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ a Gogledd Cymru
Saif Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yng nghanol tirwedd odidog gyda golygfeydd ysblennydd ac mae’n lle swynol sy’n gyforiog o hanes a diwylliant. Mae gan y brifysgol ei hun le pwysig yn hanes a hunaniaeth y ddinas: fe’i hadeiladwyd yn 1884 gydag arian gan chwarelwyr lleol a wirfoddolodd i roi peth o’u cyflog tuag at ddarparu gwell safon addysg uwch i bobl leol. I ddarganfod mwy am Fangor a'r ardal leol, ewch i'r dudalen 'Ble?'
O amgylch Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ...
Ynys Môn...
Mae Ynys Môn yn un o'r cyrchfannau mwyaf poblogaidd yng ngogledd Cymru ac oherwydd ei bod yn ynys, ni fyddwch fyth yn bell iawn o'r môr. Mae ddigon o draethau i ddewis o'u plith felly pan fydd yr haul yn tywynnu, dewch â'ch ffrindiau at ei gilydd i dorheulo. Neu os ydych yn hoffi chwaraeon, ewch â'ch bwrdd syrffio gyda chi gan fod yr ynys yn lle poblogaidd i syrffwyr.
Mae gan Ynys Môn hefyd borthladd i'r Iwerddon ac mae llongau fferi rheolaidd yn mynd o Gaergybi i Ddulyn, ac mae'r daith yn cymryd tua dwy awr.
Parc Cenedlaethol Eryri ...
Mae mynyddoedd, llynnoedd ac afonydd Parc Cenedlaethol Eryri yn cynnig digon o gyfleoedd i chi fwynhau'r awyr agored.
Mae awyr y nos uwchben Parc Cenedlaethol Eryri wedi cael statws arbennig.
Dyma'r ail yng Nghymru a dim ond y 10fed gyrchfan yn y byd i gael statws gwarchodfa awyr dywyll ryngwladol.
Mae'n golygu bod ansawdd awyr y nos yn rhagorol ac mae ymdrechion gwirioneddol yn cael eu gwneud i leihau llygredd golau.
Gellir mwynhau cerdded, dringo, caiacio a chanŵio, ymysg llawer o weithgareddau eraill, yn y parc ac mae hefyd yn gartref i wifren wib hiraf Ewrop!
Mae llawer o glybiau chwaraeon y brifysgol yn trefnu teithiau rheolaidd i Eryri.
Darganfyddwch fwy am resymau myfyrwyr dros ddewis astudio a byw ym Mangor.