Mwy o wybodaeth
Ysgol Haf Ymchwil Gwasanaethau Iechyd, 2 - 6 Gorffennaf 2018
Cynrychiolwyr o'r Deyrnas Unedig a rhai rhyngwladol yn cael eu denu i Ysgol Haf Ymchwil Gwasanaethau Iechyd Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Daeth ymchwilwyr, ymarferwyr a myfyrwyr gofal iechyd i ysgol haf breswyl yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd a gynhaliwyd yn ddiweddar ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ.
Bellach yn ei hail flwyddyn, mae Ysgol Haf Ymchwil Gwasanaethau Iechyd wedi ei chynllunio i fod yn llwyfan ddatblygu a dysgu i fyfyrwyr ymchwil iechyd a meddygol ac i staff sy'n gweithio mewn gwasanaethau gofal iechyd, ac mae'n gyfle unigryw i unigolion gael dealltwriaeth o'r ymchwil arloesol a wneir ym maes gwasanaethau gofal iechyd ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ.
Yn ystod yr wythnos a dreuliwyd yng ngogledd Cymru, bu'r cynrychiolwyr yn cymryd rhan mewn cyfres o ddosbarthiadau meistr a sgyrsiau gan arbenigwyr rhyngwladol yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Roedd y pynciau'n cynnwys yr ymchwil diweddaraf mewn gwasanaethau dementia, ymchwil gweithredu, economeg iechyd, gofal sylfaenol, treialon clinigol, ymwybyddiaeth iaith a phrofiadau defnyddwyr gwasanaeth. Mewn sesiwn newydd eleni, siaradodd ymchwilwyr o'r  gyda'r cynrychiolwyr am eu project.
Yn ystod yr ysgol haf breswyl lawn, cafodd sesiynau rhyngweithiol eu cynnwys yn y rhaglen i ddangos sut mae Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn arwain ymchwil pwysig a gynlluniwyd i greu amgylchedd ymchwil GIG cryf yng ngogledd Cymru, ac er budd gofal iechyd i gleifion yng Nghymru, y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd.
Cafodd y cynrychiolwyr hefyd fwynhau taith i Fiwmares i ymweld â'r castell a threulio amser yn edrych ar y golygfeydd!
Ar ddiwedd yr wythnos gofynnwyd i'r cynrychiolwyr am adborth am eu profiadau.  I Andrew uchafbwynt yr ysgol haf oedd; "gweld calon ac enaid yr ysgol - angerdd y tîm am yr hyn maen nhw'n ei wneud a churiad calon Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ"
Wrth ystyried llwyddiant yr wythnos meddai Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Christopher R. Burton: "Mae'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn enwog am ragoriaeth ryngwladol ein hymchwil ym maes gwasanaethau iechyd, ac am y gymuned gefnogol rydym yn ei chreu i staff ymchwil a myfyrwyr. Mae wedi bod yn bleser rhoi cyfle i ymchwilwyr medrus ac uchelgeisiol o bob rhan o'r byd dreulio amser gyda ni yn ein hysgol haf".
I gael rhagor o wybodaeth am ysgol haf ymchwil y gwasanaethau iechyd 1-5 Gorffennaf 2019, cysylltwch â Dr Lynne Williams ar 01248 383170.