Rhoi sylw i ... Chwefror 2018
Gan fod Chwefror yn Fis Hanes LGBT, rydym yn sgwrsio â James Dixon, myfyriwr nyrsio iechyd meddwl yn y drydedd flwyddyn.
O ble rwyt ti'n dod?
O Redditch, tref ychydig i'r de o Birmingham.Â
Beth oedd dy brofiad o dyfu i fyny yno?
Fyddwn i ddim yn dweud fod fy magwraeth yr hyn y byddech yn ei ystyried fel un arferol.  Pan oeddwn yn 4 cefais fy rhoi mewn gofal maeth ac rwyf wedi cael fy maethu gan fy Nain byth ers hynny. Fe wnaethom symud i Redditch yn 2004 ac rwyf wedi cael magwraeth hapus iawn yno gyda digon o gefnogaeth gan ffrindiau a theulu.
Pryd wnest ti benderfynu ar yrfa ym maes iechyd meddwl nyrsio?
Ers pan oeddwn yn ifanc iawn roeddwn bob amser wedi bod eisiau gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd, ond doeddwn i byth yn sicr iawn ymhle. Roeddwn wedi edrych ar wahanol yrfaoedd posib pan oeddwn yn tyfu i fyny, ond pan ddeuthum i Ddiwrnod Agored Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ fe wnes ddod ar draws Nyrsio Iechyd Meddwl. Ar ôl gwrando ar y sgwrs am y cwrs roeddwn yn gwybod mai hwn oedd y maes roeddwn eisiau gweithio ynddo.
Pam wnest ti ddewis Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ?
Roeddwn wedi bod i weld nifer o brifysgolion a wnes i ddim teimlo'n gartrefol yn yr un ohonyn nhw. Ond pan ddes i oddi ar y trên i Ddiwrnod Agored Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ fe wnes i deimlo agosrwydd mawr at Fangor yn syth ac roeddwn yn gwybod mai hwn oedd y lle roeddwn eisiau byw ac astudio ynddo.Â
Wyt ti wedi teimlo dy fod yn gallu bod yn chdi dy hun wrth astudio a byw yma?
Ydw, yn sicr. Mae byw ac astudio yma wedi fy ngalluogi i ddarganfod pwy ydw i mewn gwirionedd a datblygu'n unigolyn annibynnol sy'n awr yn astudio ar gyfer un o'r gyrfaoedd gorau y gallaf feddwl amdani.
Mae llawer o unigolion LGBT yn cael trafferth gydag iechyd meddwl - beth wyt ti'n feddwl ydi'r rheswm am hynny?
Gall llawer o wahanol bethau fod yn gyfrifol am hynny. Er enghraifft, efallai eu bod yn ymwybodol o'u tueddfryd rhywiol ond yn cael trafferth i ddweud hynny wrth deulu a ffrindiau. Mae yna lawer o stigma o hyn o gwmpas y gymuned LGBT. Gall rhai fynd yn bryderus iawn wrth boeni am ddioddef oddi wrth droseddau casineb a gwahaniaethu yn eu herbyn. Mae rhai yn ofni hefyd y gall eu tueddfryd rhywiol effeithio ar eu breuddwydion a'u dewisiadau at y dyfodol.Â
Ar ôl byw ac astudio am gyfnod nawr ym Mangor a'r cyffiniau, rydw i wedi gweld cymuned sy'n gefnogol i'r gymuned LGBT, ac mae cymdeithas o fewn y brifysgol lle gall unigolion gyfarfod a chymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau. Mae'r rhain yn agored hefyd i grŵp ehangach y brifysgol i ddod i ddeall yn well faterion yn ymwneud â'r gymuned LGBT. Yn ogystal â hyn mae yna hefyd dafarnau a chlybiau LGBT lle gall rhywun gael noson allan dda ac mae pobl o bob tueddfryd yn mynd iddynt.Â
Mae'r holl leoliadau rydw i wedi bod iddynt wedi bod yn gefnogol iawn tuag at y gymuned LGBT - nid yn unig ar lefel sefydliadol ond mae'r aelodau staff unigol rydw i wedi dod ar eu traws hefyd wedi bod yn gefnogol iawn.
Beth wyt ti wedi ei fwynhau ynghylch bod yn fyfyriwr nyrsio?
Dwi wedi mwynhau pob munud o'r 3 blynedd ddiwethaf - os rhywbeth, maen nhw wedi mynd heibio'n rhy gyflym. Mae wedi bod yn heriol ar brydiau ond mae cael mynd allan ar leoliad a rhoi'r cyfan rydym wedi'i ddysgu ar waith wedi bod yn werth chweil.
Wyt ti wedi newid o gwbl ers dechrau'r cwrs?
Pan wnes i ofyn y cwestiwn yma i'm ffrindiau agos, fe wnaethant ddweud fy mod i wedi aeddfedu'n unigolyn dibynadwy, hawdd agosáu ato, gofalgar ac uchelgeisiol sy'n fodlon gweithio'n galed. Fe wnaethant ddweud fy mod wedi dod yn fwy hyderus a chyfforddus o fewn fy hun, yn fy mywyd personol ac yn fy ngwaith proffesiynol. Mae ffrindiau wedi dweud hefyd fy mod yn fwy tebygol nawr o gael nerth i fwrw ati a gwneud pethau o'i gymharu â phan wnes i ddechrau yma gyntaf. Dywedodd un ffrind hefyd fy mod yn llai nerfus yn awr mewn sefyllfaoedd newydd ac wrth gyfarfod â phobl newydd o'i gymharu â sut oeddwn pan ddechreuais ar y cwrs.Â
Beth ydi dy uchelgais o ran gyrfa?
Fy uchelgais gyrfa yw cael swydd i ddechrau fel Nyrs Iechyd Meddwl, a chyda phrofiad symud ymlaen yn y diwedd i Fand 6, gyda golwg ar wneud gradd meistr ran-amser a dal i weithio yr un pryd. Fy nod yn y pen draw fyddai bod yn Uwch Ymarferwr Nyrsio. Mewn blynyddoedd i ddod fe hoffwn ymfudo i Seland Newydd i barhau i nyrsio yno.Â
Beth wyt ti'n ei wneud i ymlacio pan nad wyt yn gweithio?
Yn fy amser hamdden rydw i wedi ymuno â Chymdeithas Dawns Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, gan gymryd rhan yn y dosbarthiadau Dawnsio Gwyddelig. Rydw i wedi bod wrth fy modd efo hyn ers pan oeddwn yn 7 oed. Yn ystod fy nghyfnod yn dawnsio rydw i wedi cyrraedd Cystadleuaeth Iwerddon Gyfan a'r Bencampwriaeth Byd, gan ddod i'r 3 uchaf yn y ddau ddigwyddiad.Â
Beth fyddet ti'n ei ddweud wrth fyfyrwyr nyrsio sy'n cael trafferth i ymdopi?
Cofiwch pam rydych wedi dewis y cwrs - gall pethau ymddangos yn galed, ond mae pawb yn yr un sefyllfa â chi. Mae yna wahanol rwydweithiau cefnogaeth i'ch helpu drwy gydol y cwrs ac mae'r darlithwyr yn hawdd iawn troi atynt os ydych angen help neu ddim ond sgwrs.  Dyma ddyfyniad gan Michael Flatley sydd wedi fy helpu drwy'r cwrs, "Os ydych eisiau rhywbeth ac yn fodlon gweithio amdano, yna gellwch gael unrhyw beth rydych ei eisiau."