Cysylltiadau Cyflym
Darparu Gwasanaeth Arlwyo
Rydym yn deall bod bwyd da yn rhan hanfodol o unrhyw ddigwyddiad llwyddiannus.
Mae ein prif gogydd a'i d卯m yn ymfalchio yn y ffaith eu bod yn darparu bwyd o'r ansawdd gorau gan ddefnyddio'r cynhwysion mwyaf ffres a hynny, lle bo'n bosibl, o ffynonellau lleol.
Mae ein gwasanaeth arlwyo, sydd wedi ei leoli yn Neuadd Reichel, yn paratoi bwyd ffres a blasus y gellir ei ddarparu ar y campws ac i leoliadau o fewn 15 milltir i Fangor.*
P'un a ydych yn chwilio am ginio ysgafn, te prynhawn neu ginio gala, cewch fwydlen sy'n addas i'ch gofynion. Gallwn hefyd greu bwydlenni arbennig ar gyfer cinio cynhadledd neu unrhyw ddigwyddiad. Cysylltwch 芒 ni i drafod eich gofynion. reservations@bangor.ac.uk听
*Cysylltwch 芒 ni am fwy o wybodaeth