Llety Chwaraeon
Mae ein llety ar y safle yn berffaith i dimau, hyfforddwyr ac athletwyr sy'n teithio i'r brifysgol neu'r ardal leol i gystadlu neu hyfforddi. Mae ein cyfleuster, sydd ar gael drwy'r flwyddyn, dim ond taith fer 2 funud o'r ganolfan chwaraeon, felly mae'n gyfleus iawn i aros gyda ni.
Mae ein ystafelloedd wedi ennill gradd 4* neu 3* Croeso Cymru (llety campws), a phob un ohonynt gyda chyfleusterau en-suite. Mae ein llety yn ddigon hyblyg i ateb eich gofynion oherwydd gallwch ddewis ystafell yn unig; gwely a brecwast; cinio, gwely a brecwast neu lety llawn. Mae ein holl ystafelloedd o fewn fflatiau bach o 8 ystafell gyda chyfleusterau cegin i rannu rhwng pawb.
Gellir parcio am ddim ar y safle ac mae Wi-Fi am ddim ym mhob ystafell.
Hyfforddiant Gwersylloedd Chwaraeon
Gwersylloedd Hyfforddiant P锚l-droed
Lleoedd i fwyta
Ydych chi wedi dewis ystafell yn unig? Gellir cerdded yn rhwydd o'r llety i Bar Uno, sef y bar a'r caffi ar y campws sy'n darparu bwyd poeth, ffres drwy gydol y dydd a lle gellwch wylio'r digwyddiadau chwaraeon diweddaraf.
颁辞蹿谤别蝉迟谤耻听
Gallwch gofrestru rhwng 2pm a 8pm. Fyddwch chi'n cyrraedd ychydig yn hwyrach? Peidiwch 芒 phoeni, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu a gallwn wneud trefniadau eraill.
Gadael
Mae’n rhaid gadael yr ystafelloedd a dychwelyd yr allweddi erbyn 9.30am ar y diwrnod gadael.
Ydych chi'n barod i archebu?
Ffoniwch ni ar 01248 388088 neu anfonwch e-bost at reservations@bangor.ac.uk
* Nid yw'r llety yn addas i blant dan 11 oed. Rhaid i blant 11-18 oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol adeg eu hymweliad.