Mannau Cyfarfod dros yr Haf
Mae gennym brisiau gwych ar ein mannau cyfarfod dros fisoedd yr haf.
Wrth i'r haf gyrraedd, a'r tywydd gynhesu (gobeithio), pa ffordd well i oeri'ch cynadleddwyr na chynnig hufen ia blasus iddynt, wedi ei gynhyrchu'n lleol.
Pan fyddwch yn archebu ein cyfradd i gynadleddwyr dydd byddwn yn cynnwys hufen i芒 am ddim i bawb. Yn ogystal, gellwch ofyn i'ch cinio gael ei weini y tu allan - gallwn ni hyd yn oed ddarparu blancedi picnic fel y gall eich cynadleddwyr fanteisio ar yr haul yn ein gerddi.
I archebu eich cyfarfod, e-bostiwch conferences@bangor.ac.uk neu ffoniwch +44 (0)1248 388088 i drafod eich gofynion.
*Mae'r cynnig yn berthnasol ar gyfer archebion cyfradd cynadleddwyr dydd yn Neuadd Reichel yn unig, a gynhelir rhwng 1af o Fehefin a鈥檙 7fed o Fedi.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2018