Nadolig ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ...
Nadolig 2018
P’un ai eich bod yn bwriadu dathlu’r ŵyl mewn steil, cael parti drwy’r nos neu giniawa’n foethus mewn awyrgylch glyd gallwn ateb eich union ofynion.
Rydym yn arlwyo ar gyfer 2 - 200 ac mae ein hamrywiaeth o leoliadau yn cynnig rhywbeth at chwaeth pawb sy’n siŵr o ysgogi hwyl yr ŵyl.
Rydym yn ymfalchïo yn ansawdd ein bwyd sy’n cael ei baratoi gan ein tîm o gogyddion yn defnyddio’r cynhwysion gorau posib, a rheiny, lle bo modd, yn rhai lleol.
E-bost – reservations@bangor.ac.uk
Ffôn – 01248 382558
Ciniawa mewn steil yn Lolfa Teras
Os hoffech fwyta mewn awyrgylch clyd a hamddenol ac yn chwilio am fwyd amheuthun bydd y trysor cudd hwn yn berffaith i chi. Prydau 2 a 3 chwrs ar gael o £18.50 trwy gydol mis Rhagyr.
Cliciwch yma i weld ein bwydlen.
Party the night away at Bar Uno
14eg a 15fed o Ragfyr - 3 course meal £22.50
Ymunwch â ni am noson o hwyl ym Mar Uno lle bydd ein DJ yn chwarae caneuon gorau Motown trwy gydol y noson!
Cliciwch yma i weld ein bwydlen.
Ychwanegwch un o’n pecynnau diodydd yn cychwyn o £2.50
+ Dewisiadau bwffe o £12.50
Nadolig gyda'r holl addurniadau yn Neuadd Reichel
7fed a 14eg o Ragfyr - 3 chwrs am £25
Mae’r lleoliad hwn yn ddelfrydol i’r rheiny ohonoch sydd eisiau dathlu’r ŵyl gyda chydweithwyr a ffrindiau. Mwynhewch hwyl a miri’r parti Nadolig perffaith heb y drafferth o wneud cynlluniau a pharatoi.
Cliciwch yma i weld ein bwydlen.
Gwydraid o Bucks Fizz am ddim gyda phob pryd.
Nadolig cyfoes yn Gorad, Pontio
7fed, 8fed, 14eg& 15fed of Ragfyr
Os ydych yn meddwl am giniawa mewn lleoliad cyfoes mae Gorad yn ddelfrydol i chi. Mwynhewch awyrgylch hamddenol gyda'ch ffrindiau a'ch teulu yn y bwyty modern hwn trwy fis Rhagfyr.
Prydau 2 a 3 chwrs ar gael o £15.50
Cliciwch yma i weld ein bwydlen.
Eich parti chi
Mae ein holl leoliadau bwyta ar gael i’w hurio’n breifat drwy gydol mis Rhagfyr. Cysylltwch â’n tîm archebu gyda’ch ymholiad ac i gael gwybod mwy am ein pecynnau unigryw.
Os hoffech daith o amgylch unrhyw un o’n lleoliadau bwyta cyn archebu cysylltwch â’n tîm archebu - cewch goffi am ddim!
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2018