Os ydych chi'n mynd i ŵyl eleni yna mae ymchwil gan Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ wedi tynnu sylw at gam hanfodol y gallwch ei gymryd i helpu i ofalu am yr amgylchedd.
Rydych yn siŵr o gael cerddoriaeth wych, haul (croesi bysedd), ffrindiau ac amser da os ydych yn bwriadu mynd i ŵyl dros y misoedd nesaf - ac mae'n debyg y byddwch eisiau bod mor gyfeillgar i’r amgylchedd â phosibl yn ystod eich cyfnod yno.
Efallai y byddwch yn ceisio rhannu lifft neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, lleihau faint o blastig untro rydych chi'n ei ddefnyddio, a mynd â'ch offer a'ch sbwriel i gyd adref gyda chi.
Ond mae rhywbeth arall y gallwch ei wneud, mae'n rhywbeth hynod o syml i'w wneud (neu beidio!) ond gall gael canlyniadau amgylcheddol enfawr.
Peidiwch â phi-pi ar lawr.
Mae mor syml â hynny - peidiwch â phasio dŵr ar lawr, yn lle hynny gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio'r cyfleusterau a ddarperir gan drefnwyr yr ŵyl.Â
Does dim gwahaniaeth pa mor hir yw'r ciw - defnyddiwch y toiled.
Pam? Y rheswm yw bod pi-pi yn cynnwys gwahanol gyfansoddion, a phan fydd llawer ohono yn cael ei basio gan lawer o bobl mewn gŵyl, mae’n gallu cronni, llifo i mewn i nentydd ac afonydd cyfagos lle gall lygru'r dŵr ac yn y pen draw niweidio pryfed, pysgod a bywyd gwyllt arall.
Mae pi-pi yn cynnwys gwahanol gyfansoddion, a phan fydd llawer ohono yn cael ei basio gan lawer o bobl mewn gŵyl, mae’n gallu cronni, llifo i mewn i nentydd ac afonydd cyfagos lle gall lygru'r dŵr ac yn y pen draw niweidio pryfed, pysgod a bywyd gwyllt arall.
Mae ymchwil gan Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, a gyhoeddwyd y llynedd, hefyd yn dangos perygl ychwanegol i bi-bi’r rhai sy'n mynd i wyliau sef cyffuriau.
Dangosodd waith gan dîm o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol a’r Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol bod lefelau rhai cyffuriau anghyfreithlon yn ystod yr Ŵyl Glastonbury ddiwethaf wedi cyrraedd lefelau a allai fod yn niweidiol i’r amgylchedd yn yr afon sy’n llifo drwy’r safle.
Mae rhai pobl mewn gwyliau yn cymryd cyffuriau anghyfreithlon, fel cocên ac ecstasi, a gwelsom y gall y cyffuriau hyn gyrraedd lefelau niweidiol i'r amgylchedd yn yr afon gyfagos. Mae’r cyffuriau hyn yn fwyaf tebygol o fynd i’r dŵr wrth i bobl basio dŵr yn yr ardal.
Gall cyffuriau, a chemegau eraill yn eich pi-pi gyrraedd yr afonydd yn gymharol gyflym felly mae'n bwysig iawn defnyddio'r cyfleusterau a ddarperir gan drefnwyr yr ŵyl.
Gall y coctel o gyffuriau sy’n mynd i mewn i’r dŵr niweidio pob math o fywyd dyfrol.
Felly, os ydych eisiau mynd i’r gwyliau a bod yn ecogyfeillgar, ymunwch ag ymgyrch Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ i ddefnyddio'r toiled a pheidio â phi-pi ar lawr!
“Ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ rydym yn gwneud rhagor o ymchwil i weld pa mor niweidiol yw’r broblem hon, a beth allwn ei wneud i dynnu’r cyffuriau o ddyfrffyrdd, neu eu hatal rhag mynd i mewn iddynt yn y lle cyntaf – trwy er enghraifft defnyddio gwelyau cors a gwlyptiroedd sydd wedi’u cynllunio’n arbennig.
“Ond gallwch chi wneud rhywbeth i helpu a hynny yw – peidiwch â phasio dŵr ar lawr mewn gŵyl. Efallai eich bod chi'n meddwl eich bod yn bell oddi wrth afon, a dim ond un pi-pi ydyw, ond peidiwch; defnyddiwch y toiled.
Mae pob pi-pi yn cyfrif!"