Chloe Roberts
Nyrsio, 2020
鈥淔e wnaeth fy lleoliad nyrsio yn Pokhara fy helpu i fod yn well Nyrs ac roedd yn gymorth i鈥檓 paratoi at weithio trwy bandemig COVID-19鈥
Teithiodd Chloe i Pokhara yn 2019. Mae hi wedi graddio ers hynny ac wedi dechrau gweithio fel nyrs gymwysedig Adran Achosion Brys.
鈥淩oeddwn i eisiau bod yn nyrs erioed. Mae'n debyg bod hynny鈥檔 rhannol oherwydd bod fy chwaer wedi treulio cyfnodau yn yr ysbyty pan oedd hi'n fach, ac roeddwn i n么l ac ymlaen i ysbytai gyda hi. Rwy'n cofio gwerthfawrogi'r bobl hynny a oedd yn gofalu amdani a meddwl yr hoffwn i wneud rhywbeth tebyg.
Dewisais astudio ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 am fy mod eisiau aros yn agos at gartref ac am fod ein hysbytai lleol yn rhai mor dda. Cefais lawer o brofiad gwaith mewn ysbytai lleol cyn symud ymlaen at astudio nyrsio. Roeddwn i鈥檔 mwynhau deinameg yr ysbytai ac fe wnes i glosio at y bobl roeddwn i'n cyd-weithio 芒 nhw, a phenderfynais fy mod am aros yn y maes hwnnw. Roeddwn i hefyd wedi clywed bod Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn rhagorol ar gyfer nyrsio a meddwl 鈥淎mdani!鈥
Roedd yn dipyn o fraw dechrau鈥檙 cwrs am fod y cyfan yn sydyn yn real iawn. Ond roedd yn wych unwaith i mi gynefino. Roedd yn dipyn o gorwynt, ond roedd yna gefnogaeth sylweddol ac roedd fy nhiwtoriaid yn wych.
Roeddwn i bob amser wedi bod 芒鈥檓 mryd ar fynd dramor, hyd yn oed cyn i mi ddechrau diddori mewn nyrsio. Felly pan ddaeth y cyfle i ddilyn lleoliad tramor fel rhan o鈥檓 cwrs, roeddwn i鈥檔 teimlo ei fod yn gweddu鈥檔 berffaith. Pan oeddwn yn fy ail flwyddyn gwnes i lawer o ymchwil i wahanol ddarparwyr ac roedd yn amlwg mai聽聽oedd yn cynnig y gwasanaeth gorau; cefais hyder o ddarllen eu straeon gan gyn-fyfyrwyr a daeth yr holl beth yn fyw i mi.
Roedd 香港六合彩挂牌资料 yn rhagorol ac yn agored iawn i'r syniad fy mod yn mynd ar leoliad tramor. Nid oeddent yn gwybod llawer am oblygiadau hynny i ddechrau, ond aethant allan o'u ffordd i ymchwilio gyda mi a鈥檓 helpu 芒'r holl broses.
Doeddwn i erioed wedi teithio o'r blaen felly roeddwn i'n nerfus, ond roedd yn gyffrous hefyd. A dim ond pan wnes i lanio yn Nepal wnes i sylweddoli 鈥淢ae hyn wir yn digwydd!鈥 Roedd t卯m Work the World yno yn disgwyl amdanaf yn y maes awyr ac rwy'n cofio sut oedd pethau bychain fel hynny o arwyddoc芒d rhyfeddol i mi. Roedd y 24 awr cyntaf yno鈥檔 afreal!
Cefais fraw yn yr ysbyty i ddechrau. Roeddwn eisiau cael profiad yn yr Adran Achosion Brys, a fi oedd yr unig fyfyriwr ar y ward honno ond roedd y staff lleol yn wych. Gwnaethant roi鈥檙 cyfle i mi gymryd rhan mewn cynifer o achosion 芒 phosib ac roeddent yn hynod o gyfeillgar.
Gwelais frathiadau neidr, llosgiadau difrifol, achos o hypothermia, cranioplasti, craniotomi... Fe wnes i weld cymaint o fathau gwahanol o lawfeddygaeth hefyd - pethau nad oeddwn i erioed wedi eu gweld o'r blaen a phethau nad oeddwn i wedi breuddwydio y buaswn i byth yn eu gweld.
Gwelais nifer o gymhlethdodau beichiogrwydd a arweiniodd at doriadau Cesaraidd brys. A gwelais un achos difrifol o hydroceffalws, pan fo pen y baban yn chwyddo cyn-genedigaeth; mae'n beth hynod o brin mewn unrhyw wlad. Felly roedd y ffaith imi gael gweld yr achos hwnnw a'r dilyniant iddo yn anhygoel.
Mae llawer o'r triniaethau sy鈥檔 cael eu defnyddio yn Nepal yn wahanol i driniaethau鈥檙 GIG. Mae rhywun yn mynd yno gan ddisgwyl i bethau fod yn wahanol, ond mae ei weld drosoch eich hun yn rhyfeddol. Mi oeddwn i鈥檔 meddwl imi fy hun: "Ydy hyn yn digwydd go iawn, ydw i wir yn ei weld?"
Does dim llawer o breifatrwydd i gleifion yno mewn gwirionedd. Nid nad yw hynny'n bodoli o gwbl, ond nid yw cleifion fel pe baent yn ei ddisgwyl. Yn achos archwiliadau, byddai cleifion yn tynnu eu dillad uchaf o flaen pawb a dyna oedd y norm. Gwahaniaeth mawr arall oedd bod yn rhaid i gleifion dalu am bopeth eu hunain. Os na allent dalu, nid oeddent yn cael y driniaeth. Gwnaeth hynny i mi sylweddoli cymaint yr ydym yn ei gymryd yn ganiataol yn y GIG.
I fod yn onest, mi wnes i ei chael hi ychydig yn anodd ar 么l dychwelyd i'r Deyrnas Unedig. Ar 么l gweld sut beth yw bywyd i bobl mewn gwlad sy鈥檔 brin iawn o adnoddau, roeddwn yn ei chael hi'n anodd brathu fy nhafod wrth glywed pobl yn cwyno am ddiffygion. Rydw i wedi bod yn berson ymarferol sy鈥檔 bwrw ymlaen 芒 phethau erioed, ond gwnaeth fy mhrofiad yn Nepal fi hyd yn oed yn fwy felly. Dysgais gymaint o wybodaeth yn ystod fy nghyfnod yno hefyd. Cefais brofiad eang o wahanol gyflyrau, a dysgu am dechnegau nad oeddwn i erioed wedi鈥檜 gweld ar waith o鈥檙 blaen.
Tyfodd fy hyder yn sylweddol o ganlyniad i鈥檓 cyfnod yn Nepal. Roeddwn i鈥檔 berson reit swil, ond fe wnaeth y profiad fy newid i.
Wrth gwrs fe gafodd pandemig Covid-19 effaith fawr ar fy mlwyddyn olaf. Roedd yn brofiad dysgu enfawr. Dechreuais mewn Uned Therapi Dwys ac roeddwn yno am wyth mis nes imi gael fy ngosod ar leoliad ar ward covid. O safbwynt clinigol, roeddwn wedi cael profiad gyda nifer o broblemau resbiradol pan oeddwn yn Nepal, gan fod llygredd yn ddrwg yn y dinasoedd ac mae pobl yno'n dioddef mwy o broblemau o鈥檙 fath. Roedd yn gymorth i鈥檓 paratoi at weithio trwy'r pandemig.
Byddwn yn argymell lleoliad tramor yn gryf i fyfyrwyr nyrsio; mae'r profiad yn eich symud tu hwnt i orwelion eich byd cyfarwydd a bydd yn newid cwrs eich bywyd. Pe bawn i'n gallu ei wneud eto wythnos nesaf, mi fyddwn i!鈥