Lauren Evans
(Athroniaeth a Chrefydd, 2017)
Yn gyntaf, rwy’n ddiolchgar am y profiadau a’r ffrindiau gydol oes a wnes i ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ.
Arwyddair Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yw 'gorau dawn deall'. Enillais ddoniau lu a graddiais o Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn 2017 gyda gradd BA(Anrh) 2:1 uwch.Ìý Rhoddodd y radd wybodaeth imi am grefyddau gan gynnwys Bwdhaeth a Shinto ac Islam, a phynciau Athroniaeth gan gynnwys Freud a Nietzsche a Plato. Datblygais sgiliau mentora hefyd yn Arweinydd Cyfoed yn ystod yr Wythnos Groeso, er mwyn helpu myfyrwyr newydd fy mhwnc ymgartrefu a chael eu traed tanynt. Rwy’n cofio yn ystod un Wythnos Groeso, daeth myfyriwr ataf a minnau’n aros i grŵp o fyfyrwyr gyrraedd y man cyfarfod, ac roedd ganddo ddiddordeb yn y llyfr yr oeddwn yn ei ddarllen. Cawsom sgwrs fer ac roedd yn awyddus i ddarllen y llyfr. Dyna sgwrs fach a wnaeth fy nghyflwyno i fywyd prifysgol. Er ei bod yn sgwrs ddymunol, wnaeth hi ddim arwain i unlle, ond mi wnaeth llawer o sgyrsiau eraill a gefais. Er enghraifft, trwy fentro fy nghyflwyno fy hun i'r myfyrwyr eraill yn fy ngharfan, mi wnes i ffrindiau da yr euthum gyda nhw i ddarlithoedd a digwyddiadau cymdeithasol. A sôn am gyfeillgarwch, ym Mangor y cyfarfûm â rhai o’m ffrindiau oes, a ‘nghariad i ar y pryd (sy’n hanu o Ffrainc), a arweiniodd at sawl antur dramor.
Roedd llawer o gymdeithasau anhygoel i ddewis o’u plith ac er na chedwais at rai ohonyn nhw, fel caiacio (a oedd yn hwyl), deuthum o hyd i gymunedau yng Nghymdeithas Amser Te Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ (BUTTS) a'r Gymdeithas Gemau PenBwrdd. Roedd yr olaf yn cynnwys chwarae llawer o gemau bwrdd newydd a hwyliog a ysgogodd ambell i gyfeillgarwch gwych. Esblygodd un cyfeillgarwch at wylio hen ffilmiau fel Casablanca a South Pacific am sawl noson! Arweiniodd cyfeillgarwch arall, nad oedd yn gysylltiedig â’r gymdeithas honno, at wylio’r rhan fwyaf o ffilmiau Tinkerbell.Ìý Profiad nid ofnadwy, yn wir pleserus braidd – yn enwedig y cwmpeini. Arweiniodd trydydd cyfeillgarwch at wylio holl ffilmiau Star Wars am y tro cyntaf. Yn y pen draw, a ddylwn i fod wedi gwneud gradd mewn ffilm o bosib, o ystyried faint o ffilmiau wnes i eu gwylio?!
Ar ôl astudio athroniaeth Plato a Bwdhaeth, roeddwn yn awyddus i blymio'n ddyfnach i'r ddau bwnc; felly penderfynais wneud gradd Meistr mewn Bwdhaeth. Ar ôl imi benderfynu ynglŷn â phwnc fy nhraethawd hir, daeth alegori ogof Plato’n rhan o'r traethawd hir fel cynrychioliad o drawsnewid. Yn y diwedd, roedd y traethawd hir yn agos at dderbyn gradd Dosbarth Cyntaf ac roeddwn yn falch o’r gwaith a wneuthum arno. Yn gyffredinol, mwynheais fy ngradd Meistr yn fawr. Roedd darlithwyr profiadol iawn yn dysgu’r cwrs a oedd wedi bod i’r gwledydd a oedd yn cael eu trafod ac a oedd â lluniau o’r gwrthrychau oedd yn cael eu dadansoddi.
Roedd byw yn Llundain, tra oeddwn yn astudio, hefyd yn anhygoel ac yn Llundain y cwrddais â ffrind gydol oes arall a oedd yn byw yn yr ystafell drws nesaf yn llety’r merched lle’r oeddem yn byw. Mae hi bellach yn byw yn America, ac rwy’n gobeithio hedfan yno rhyw ddydd i ymweld â hi! Yn ogystal, yn ystod fy amser yn Llundain, bûm yn gweithio gydag asiantaeth morynion bwrdd a chefais gyfle i weithio mewn llefydd ysblennydd ledled Llundain. Llefydd fel Madame Tussauds, Oriel Saatchi, Maes Criced Lords a'r In and Out (Clwb y Llynges a’r Fyddin) a'r Frenhines a'r teulu brenhinol yn bresennol!
Aildaniodd fy ngradd Meistr fy mrwdfrydedd dros ymchwil, a llyfrau, a gwneud cysylltiadau rhwng pynciau y mae cryn dipyn o debygrwydd rhyngddynt yn y pen draw. Fodd bynnag, roeddwn yn colli llyfrgell hanesyddol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, sy'n lle hardd y tu mewn a'r tu allan, ac a oedd yn lle gwych i astudio. Rwy'n cofio rhentu DVD o'r Archifau, mynd ag ef adref, a darganfod nad oedd DVD yn y cas! O hynny ymlaen, gwyddwn y dylwn fynd at ddesg y dderbynfa a gofyn am y ddisg.
Ar ôl fy ngradd Meistr, gwyddwn fy mod i am aros yn Llundain. Llwyddais i gael rôl lletygarwch yng Ngholeg y Brenin Llundain, lle bûm yn gweithio am flwyddyn cyn symud i Ffrainc. Aeth y grŵp cyfeillion roedd gennyf yn Ffrainc â mi’n ôl i ddyddiau Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ oherwydd inni fwynhau te gyda'n gilydd a threulio llawer o brynhawniau neu nosweithiau’n chwarae gemau bwrdd neu gardiau. Ar un ystyr, cefais ail-fyw rhai o agweddau gorau fy mywyd fel myfyriwr israddedig tra oeddwn yn byw yn Ffrainc. Oherwydd Covid roedd hi’n anodd gweld y ffrindiau hynny, ond fe wnaethon ni ddefnyddio galwadau fideo, a threulio nifer o nosweithiau’n bwyta a sgwrsio. Ers hynny, dychwelais i’r Deyrnas Unedig ac ar hyn o bryd rwy’n gweithio ym Mhrifysgol Canolbarth Swydd Gaerhirfryn yn helpu ac yn cefnogi myfyrwyr, ac mae hynny’n rhoi boddhad mawr imi.
Ers imi raddio o Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, rwyf wedi tynnu fy hun allan o’r byd cyfarwydd lawer gwaith ac ennill profiadau anhygoel o ganlyniad i hynny. Fy awgrym i’r sawl sy'n darllen hyn o lith yw ceisio mynd allan o'ch byd cyfarwydd a gweld pa antur y gallai fynd â chi arni.
Ìý