Richard Alun Williams
(Biocemeg, 1998)
Mae Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, Prifysgol Cymru, Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ gynt, wedi bod yn rhan allweddol o’m bywyd. Cefais fy magu mewn tref fechan (pentref bryd hynny) o'r enw Porthysgewin yn ne Cymru (rhwng Cas-gwent a Chasnewydd) lle'r oedd y byd yn fach iawn, ond symudais i Gaer i wneud fy Lefel A ar ôl i’m tad gael swydd newydd yno. Penderfynais astudio am fy ngradd Baglor (1995-98) ym Mangor oherwydd nad oedd Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn rhy bell ar y trên o Gaer, felly gallwn fynd adref yn hawdd pe bai angen - yn ffodus, nid oedd rhaid gwneud hynny’n aml a chefais flas ar bopeth oedd gan fywyd prifysgol i’w gynnig ym Mangor!
Dechreuais astudio am radd BSc cydanrhydedd mewn bioleg y môr a biocemeg, ond ar ôl diwedd y flwyddyn gyntaf, sylweddolais fod fy ymennydd yn llawer mwy addas ar gyfer biocemeg, felly newidiais i astudio biocemeg yn unig dros wyliau'r haf - roedd fy nhiwtoriaid academaidd yr Athro Deri Tomos a Dr John Gaunt yn allweddol yn hwyluso'r newid hwn. Yn wir, arweiniodd cysylltiadau’r Athro Tomos â Chaergrawnt yn y pen draw at gael fy recriwtio i wneud doethuriaeth yn Adran Gwyddor Planhigion Prifysgol Caergrawnt ar ôl y seremoni raddio ym Mangor ym mis Gorffennaf 1998, lle cefais hefyd Wobr Goffa William Charles Evans am y marciau uchaf yn y garfan.
Gwnaeth blwyddyn gyntaf fy noethuriaeth yng Nghaergrawnt (1998-99) i mi sylweddoli, er fy mod wrth fy modd yn dysgu am fiocemeg, nad oedd hyn yn rhywbeth roeddwn eisiau ei wneud fel gyrfa, felly ysgrifennais draethawd hir MPhil yn fy ail flwyddyn a symudais i Brifysgol Caint yng Nghaergaint i wneud MSc mewn cyfrifiadureg (Medi 2000) i ddysgu set newydd o sgiliau a fyddai'n gymorth i mi symud i ddiwydiant. Yna cefais fy recriwtio gan Oracle Corporation i’w rhaglen hyfforddi i raddedigion, fel ymgynghorydd technoleg cymwysiadau yn y lle cyntaf (2001-2004) ac yna rheolwr project (2004-2009).
Roedd bywyd yn Oracle yn anhygoel, ond ar ôl gormod o nosweithiau yn aros mewn gwestai a theithio ar awyrennau, trenau ac mewn ceir, penderfynais fynd yn ôl i’r brifysgol i newid gyrfa a mynd i weithio yn y byd academaidd. Oherwydd fy addysg mewn biocemeg ym Mangor a chyfrifiadureg yng Nghaergaint, penderfynais astudio am MRes mewn bioleg gyfrifiadurol i ddefnyddio’r ddwy set o sgiliau a gwybodaeth (2009-2010 yn Adran Bioleg Prifysgol Efrog), yna gwnes ddoethuriaeth mewn imiwnoleg gyfrifiadurol. (2010-2013, Adran Gyfrifiadureg, Prifysgol Efrog). Roedd dod o hyd i swydd fel ymchwilydd ôl-ddoethurol mewn bioleg gyfrifiadurol yn anodd ar ddechrau’r 2010au, felly gwnes gais am gymrodoriaeth ymchwil iau arbennig mewn rheolaeth/busnes a ariannwyd gan yr ESRC, a oedd yn targedu pobl oedd eisiau newid gyrfa i fynd i weithio yn y byd academaidd ac a oedd hefyd yn meddu ar ddoethuriaeth mewn disgyblaeth ac eithrio busnes/rheolaeth. Felly ymunais ag Ysgol Reolaeth Prifysgol Caerhirfryn (yr Adran Wyddor Rheolaeth) ym mis Hydref 2013 fel cymrawd ymchwil iau ac rwyf bellach wedi cael dyrchafiad i fod yn uwch ddarlithydd.
Bydd y dyrchafiad nesaf i fod yn athro llawn ychydig yn anos serch hynny, oherwydd bod fy noethuriaeth mewn imiwnoleg gyfrifiadurol yn cael ei weld yn aml (yn anghywir yn fy marn i, ond mae honno'n stori hir) ychydig yn rhy bell oddi wrth fusnes/rheolaeth. Felly, ynghyd â chanolbwyntio ar fy ymchwil i systemau cymdeithasol a chymdeithasol-dechnegol cymhleth, rwyf bellach yn dechrau meddwl o ddifrif am wneud cais am ddoethuriaeth yn Ysgol Busnes Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ trwy ddull E (a elwid gynt yn Ddoethuriaeth trwy Waith Cyhoeddedig). Bydd rhaid i mi gyhoeddi 1-2 yn fwy o bapurau ar fy mhroject presennol ar wrthdaro mewn projectau peirianneg meddalwedd mawr, a hefyd cydweithio ag aelodau academaidd yn Ysgol Busnes Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, ond mae meddwl am ‘ddod adref’ fel petai yn bosibilrwydd cyffrous iawn. Y llwybr rwy'n ei ddewis yw rhan-amser am flwyddyn er mwyn datblygu trosolwg/dadansoddiad beirniadol o 5,000-10,000 o eiriau’n seiliedig ar y 6-7 cyhoeddiad y byddaf yn eu cyflwyno fel tystiolaeth o'm sgiliau a'm cymhwysedd ymchwil. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn agor nifer o ddrysau i ddyrchafiadau yn y dyfodol a swyddi newydd diddorol.
Yn olaf, ac o ran diddordeb, mae clogyn academaidd Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ hefyd yn llawer mwy cyffyrddus na chlogyn academaidd Efrog!