Will Osborn BSc Seicoleg
CYFARWYDDWR GWASANAETH A DYLUNIO SEFYDLIADOL YN FROG
"Roedd gwneud modiwlau fel seicoleg gadarnhaol a seicoleg defnyddwyr ochr yn ochr 芒 phopeth arall wedi fy helpu i weld pethau o wahanol safbwyntiau"
Blwyddyn graddio: 2012
Eich Swydd Bresennol: Cyfarwyddwr Gwasanaeth a Dylunio Sefydliadol yn Frog
Ar 么l i mi adael 香港六合彩挂牌资料, roeddwn i'n gweithio'n llawrydd ond hefyd fel cynorthwyydd gweithredol nes i mi gael fy swydd Dylunio Gwasanaeth llawn amser gyntaf mewn asiantaeth. Dros y blynyddoedd, rydw i wedi bownsio rhwng gweithio i asiantaethau a gweithio'n llawrydd, yn dibynnu ar yr hyn oedd yn teimlo orau ar y pryd. Nid oedd symud yn syth i mewn i ddylunio gyda gradd seicoleg yn hawdd; mae gan y rhan fwyaf o bobl sydd wedi astudio dylunio bortffolio o waith i'w cefnogi. Rydw i'n gweithio gyda llawer o wahanol fathau o ddylunwyr, fel dylunwyr digidol, gofod ffisegol a brandio. Mae gan bob un ohonynt ei ddull a'i grefft ei hun yn dibynnu ar yr hyn y maent yn ceisio ei greu, tra byddaf i bob amser yn canolbwyntio ar y bobl. Mae hyn yn fy helpu i weithio ar draws ystod o ddisgyblaethau gwahanol ac yn helpu'r dylunwyr i ddeall eu cleientiaid yn well. Mae cymaint o fy ngwaith yn ymwneud 芒 meithrin cydberthynas, helpu pobl i gael empathi a deall ei gilydd, a rheoli gwrthdaro, yn enwedig wrth ailgynllunio sut mae sefydliad yn gweithio. Gall hyn achosi straen i gleientiaid a gall deimlo'n debyg iawn i therapi ar brydiau!
Gyda dylunio, rydyn ni'n ceisio creu byd gwell i bobl a'r blaned, ac mae seicoleg wedi bod yn rhan allweddol o helpu i ddeall pobl a chreu atebion gwell. Fel rheol byddwn yn dechrau trwy wneud ymchwil i anghenion a chymhellion sylfaenol pobl. Mae fy nghefndir mewn seicoleg yn help mawr i archwilio hyn a symud y tu hwnt i fewnwelediad sylfaenol yn unig. Gall fod cymaint o ffactorau i'w hystyried wrth ddylunio datrysiadau neu brofiadau newydd. Er enghraifft, wrth ddylunio ar gyfer newid ymddygiad, neu ystyried y modelau sydd gan bobl yn eu meddwl ar gyfer sut mae sefydliad yn gweithio, neu sut y gallwn ddylunio gwasanaethau neu brofiadau gwell ar gyfer pobl niwroamrywiol. Mae dylunio mewn gwirionedd yn ymwneud 芒 sut y gallwn greu byd gwell i'r bobl sy'n byw ynddo, a gall seicoleg eich helpu i ddeall pobl yn well a'r hyn sydd ei angen arnynt, nid dim ond yr hyn y maent ei eisiau.
Fe wnaeth astudio ym Mangor fy helpu i weld sut y gellid rhoi Seicoleg ar waith mewn ffyrdd newydd. Pan ddechreuais yn y Brifysgol, roeddwn yn bwriadu dilyn y llwybr Seicoleg Glinigol, ond fe agorodd y cwrs fy llygaid i lawer o gyfleoedd gwahanol y gwnes i sylweddoli oedd yn fy siwtio'n well. Roedd gwneud modiwlau fel seicoleg gadarnhaol a seicoleg defnyddwyr ochr yn ochr 芒 phopeth arall wedi fy helpu i weld pethau o wahanol safbwyntiau. Fel rhywun 芒 dyslecsia ac ADHD, roedd gwaith cwrs bob amser yn rhywbeth roeddwn i'n cael trafferth ag ef, ac roedd yr adran yn hynod amyneddgar a chefnogol wrth fy helpu.
听
Mae llawer o seicoleg a therapi yn ymwneud 芒 helpu pobl sy'n cael trafferth gyda byd cymhleth a llawn straen i fynd yn 么l i lefel arferol o ymdopi. Gyda'r wybodaeth a geir trwy astudio seicoleg, gallwn ni i gyd ddod o hyd i ffyrdd o wneud pethau ychydig yn well. Trwy ddod 芒 seicoleg a dylunio ynghyd, gallaf greu byd gwell, sy'n canolbwyntio mwy ar bobl, sy'n hyrwyddo ffyniant pobl yn weithredol.