Zoe Perrenoud Ysgrifennu Creadigol
(Ysgrifennu Creadigol MA, 2010)
Doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl pan adawais y Swistir yn 2006 i astudio Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料. Dim ond am fyr dro y b没m yno ar gyfer diwrnod agored, ac yr oedd fy meddwl yn llawn delweddau o dref fechan yn swatio rhwng y mynyddoedd a'r m么r. Roeddwn i鈥檔 teimlo wedi fy nghaethiwo rhwng y cyfarwydd a'r anghyfarwydd, y person oeddwn i yn 么l adref a'r person y fyddwn i yn y lle newydd hwn, ond roeddwn i'n si诺r o un peth. Roeddwn i eisiau rhoi'r cyfle gorau posibl i mi fy hun i ddod yn awdur, ac roedd 香港六合彩挂牌资料 yn ymddangos fel lle da i ddechrau.
Fel mae'n digwydd, roeddwn i'n gywir. Ym Mangor y dysgais i ysgrifennu barddoniaeth pur dda a llunio stori 芒 llygad mwy beirniadol, ac er fy mod yn gwerthfawrogi鈥檙 sgiliau hynny鈥檔 aruthrol hyd heddiw, nid dyma鈥檙 unig beth a ddysgais yno. 香港六合彩挂牌资料 yw ble roeddwn i鈥檔 teimlo鈥檔 ddigon cyfforddus i ddod o hyd i mi fy hyn a chwrdd ag eraill fel fi, gan ffurfio cyfeillgarwch a fyddai鈥檔 para degawdau. Dyma lle cwrddais 芒'm darpar 诺r, a lle y gwnes i gadarnhau fy awydd i barhau i weithio tuag at fy nod o fod yn awdur cyhoeddedig, ni waeth beth.
Wedi'r cyfan, sut y gallai rhywun fethu 芒 chael eu hysbrydoli pan fo cymaint o harddwch gwyllt o鈥檜 cwmpas? Weithiau, roeddwn i'n teimlo fy mod yn byw ar gyrion y byd, yn swatio mewn cildraeth cudd a hwnnw鈥檔 llawn o ryw fath arbennig o hud a lledrith, a鈥檙 hud hwnnw wedi'i wneud o dd诺r llwyd-ddur, cymylau anferth a sisial sibrydion. Hyd heddiw, mae gen i hen gop茂au o Seren sy鈥檔 cynnwys rhai o fy ngherddi natur.
Pan ddaeth yr amser i wneud penderfyniad am fy nyfodol, dewisais aros ym Mangor am flwyddyn arall ac astudio MA mewn Ysgrifennu Creadigol. Yn 2010, ysgrifennais am fy mhrofiad ym Mangor i gystadleuaeth Stori Fer i Fyfyrwyr Rhyngwladol, a drefnwyd gan Brifysgol Newcastle. Cyhoeddwyd y stori honno, 鈥淧uzzled鈥, ym mlodeugerdd 2011, Crossing the Lines.
Ar 么l i mi orffen fy MA, ceisiais bopeth o fewn fy ngallu i ddod o hyd i swydd a oedd yn ymwneud ag ysgrifennu mewn rhyw ffordd. Ar ddiwedd 2011, cefais interniaeth chwe mis ym maes cyfathrebu gyda鈥檙 International Service for Human Rights yng Ngenefa, lle b没m yn helpu i baratoi a chyhoeddi eu cylchgrawn chwarterol. Roedd mynychu sesiwn o'r Cyngor Hawliau Dynol yn y Cenhedloedd Unedig ymhlith yr uchafbwyntiau.
Unwaith y daeth fy interniaeth i ben, symudais yn 么l i Ffrainc i fyw gyda fy mam. Byddai鈥檙 misoedd a dreuliais yn yr Auvergne yn helpu gyda busnes gwely a brecwast y teulu yn ddiweddarach yn fy ysbrydoli i osod rhan o'm trioleg 鈥楤loodlender鈥 yno. Ym mis Ionawr 2012 fe wnes i orffen fy nofel gyntaf, stori gyffro ddystopaidd y gwnes i ei rhoi ar silff lyfrau o'r golwg ac nid wyf wedi edrych arni ers hynny.
Yna, ym mis Mehefin 2012, symudodd fy nyweddi a minnau i Lwcsembwrg, gwlad nad oeddem yn gwybod fawr ddim amdani ond lle鈥檙 oedd y ddau ohonom wedi bod yn ffodus i ddod o hyd i swyddi. Roedd hi bron fel mynd i Fangor unwaith eto, dechrau antur newydd gyda heriau a ffrindiau newydd. B没m yn gweithio fel ysgrifennwr copi mewnol mewn cwmni marchnata yno am dair blynedd cyn mynd yn gyfieithydd ac ysgrifennwr copi llawrydd yn 2015.
Nid yw'r llwybr at gyhoeddi wedi bod yn un hawdd, ond nid wyf yn difaru unrhyw ran ohono. Gorffennais Mirrormind yn 2016, y nofel ffantasi i oedolion roeddwn i wedi bod yn gweithio arni ers fy mlwyddyn gyntaf ym Mangor, a dechreuais chwilio am asiant. Wedi fy annog gan adborth cadarnhaol, ysgrifennais Bloodlender yn 2017, ffantasi dywyll am ddod i oed yn s么n am gonsuriwr gwaed dihyfforddiant sy'n byw yn Vichy, Ffrainc. Ar 么l ei hailysgrifennu sawl gwaith ac ar 么l llawer o drafodaeth gyda sawl asiant, penderfynais o'r diwedd i hunan-gyhoeddi ac nid wyf wedi edrych yn 么l. Cyhoeddwyd Bloodlender ym mis Mawrth 2022 a chyhoeddwyd y dilyniant, Timebender, ym mis Mawrth 2023. Bwriedir cyhoeddi rhan olaf y drioleg, Riftmender, ym mis Ebrill 2024.聽聽
Er nad wyf wedi bod yn 么l i ymweld 芒 香港六合彩挂牌资料 yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rwy鈥檔 edrych ymlaen at y diwrnod y gall fy ng诺r a minnau fynd 芒鈥檔 plant i Fangor, dangos iddynt lle y gwnaethom gyfarfod, ac ailddarganfod y lle a helpodd i鈥檔 gwneud y bobl ydym ni heddiw.
www.zoeperrenoud.com
Mae Bloodlender a Timebender ar gael fel e-lyfrau ar Amazon, Kobo, Apple a manwerthwyr ar-lein eraill. Mae鈥檙 llyfrau clawr meddal hefyd ar gael ar Amazon a gellir eu harchebu trwy unrhyw siop lyfrau.