Archifau a Chasgliadau ArbennigÌý
Polisi GwirfoddoliÌýÌý
°ä²â²Ô²Ô·É²â²õÌý
-
°ä²â´Ú±ô·É²â²Ô¾±²¹»åÌý
-
Amcanion y polisiÌý
-
Egwyddorion Ymarfer DaÌýÌý
-
Recriwtio a DewisÌý
-
Tasgau gwirfoddolwyrÌý
-
Hyfforddi a DatblyguÌý
-
Iechyd a DiogelwchÌýÌýÌý
-
°Õ°ù±ð³Ü±ô¾±²¹³ÜÌýÌý
-
³Û²õ·É¾±°ù¾±²¹²Ô³ÙÌýÌý
-
°ä²â²õ·É±ô±ô³ÙÌý
Ìý
Rheoli DogfennauÌý
Ìý
Enw’r ffeilÌý |
Polisi Gwirfoddoli yr Archifau a Chasgliadau ArbennigÌý |
Awdur(on) GwreiddiolÌýÌý |
Cyd-lynydd Archifau / Pennaeth Archifau a Chasgliadau ArbennigÌý |
Awdur(on) PresennolÌý |
Rheolwr yr Archifau a Chasgliadau ArbennigÌý |
StatwsÌý |
Cymeradwywyd gan y Grŵp Tasg Casgliadau a Materion Diwylliant, Rhagfyr 2022Ìý |
DosbarthuÌý |
Gwasanaethau Digidol ac arleinÌý |
AwdurdodÌý |
Archifau a Chasgliadau ArbennigÌý |
Ìý
Ìý
Dyddiad adolygu : Ebrill 2025Ìý
ÌýÌý
-
°ä²â´Ú±ô·É²â²Ô¾±²¹»åÌý
Ìý
Mae gwirfoddolwr yn berson sydd yn ymgymryd â gwaith gwirfoddol ar ran yr Archifau a Chasgliadau Arbennig drwy ddewis, nid oes ganddynt gytundeb cyflogaeth na hawl i gydnabyddiaeth ariannolÌý
Mae’r Archifau a’r Casgliadau Arbennig wedi elwa’n fawr o waith gwirfoddolwyr ac unigolion ar brofiad gwaith yn y gorffennol and yn awyddus iawn i barhau gyda’r lefel bresennol o gefnogaeth ganddynt. Mae gwirfoddolwyr yn adnodd gwerthfawr iawn sy’n cyd-fynd ac ychwanegu at y gwaith y mae’r staff yn ei gyflawni. Mae’r Archifau a’r Casgliadau Arbennig yn dymuno cefnogi ac annog gwirfoddolwyr ac i feithrin awyrgylch sy’n llesol i bawb, gyda’r partïon oll yn elwa o’r berthynas. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd gwirfoddoli gyda’r Archifau a’r Casgliadau Arbennig yn brofiad buddiol a phleserus.ÌýÌý
Mae’r Archifau a’r Casgliadau Arbennig yn swyddfa fach ac yn gweithio o dan bwysau sylweddol oherwydd y prinder lle yn y lleoliad presennol. Nid oes gennym ardal arbennig ar gyfer gwirfoddolwyr sy’n golygu fod rhaid i wirfoddolwyr, staff a defnyddwyr ddefnyddio’r un gofod. Gall gwirfoddolwyr gyflwyno her sylweddol hefyd i’r tîm Archifau a Chasgliadau Arbennig o safbwynt yr amser sydd ei angen i’w rheoli a’u harolygu. O ganlyniad, mae’n rhaid ystyried yn ofalus faint o wirfoddolwyr y gallem dderbyn yn ystod cyfnod o amser. Mae angen trafod y termau penodol fel bod y gwirfoddolwr a’r Archifau a’r Casgliadau Arbennig yn glir ynglÅ·n ag amser, hyd a chynnwys y cyfnod gwirfoddoli.Ìý
Ìý
-
Amcanion y polisi Ìý
Ìý
Bydd cyflwyno cyfleoedd i weithio’n wirfoddol i fyfyrwyr PB ac aelodau o’r gymdeithas yn yr Archifau a’r Casgliadau Arbennig yn cynorthwyo Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ i gyrraedd rhai o’i phrif amcanion strategaethol, fel a welir yn Strategaeth 2030 PB, sef i ddarparuÌý
-
sefydlu fframwaith i recriwtio, cefnogi a rheoli gwirfoddolwyrÌýÌý
-
rhoi arweiniad a chyfarwyddyd i staff a gwirfoddolwyrÌýÌý
-
cydnabod mai pwrpas gwaith gwirfoddol yw cyfrannu at waith Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ac nid cymryd lle staff cyflogedig a gwneud eu gwaithÌý
Ìý
-
Egwyddorion Ymarfer Da Ìý
Ìý
-
Bydd polisi a dulliau gweithredu'n ymwneud â gwirfoddolwyr yn cael eu monitro a'u hadolygu'n rheolaiddÌýÌý
-
Bydd tasgau blaenoriaeth i wirfoddolwyr yn cael eu hadnabod yn rheolaiddÌýÌý
-
Bydd anghenion hyfforddiant gwirfoddolwyr yn cael eu hadnabod yn rheolaiddÌý
Ìý
Ìý
-
Recriwtio a DewisÌý
Ìý
-
Mae Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn anelu at recriwtio gwirfoddolwyr o bob rhan o’r gymunedÌýÌýÌý
-
Cedwir at egwyddorion cyfle cyfartal wrth recriwtio gwirfoddolwyrÌýÌý
-
Bydd lleoliadau am gyfnod prawf o 28 diwrnodÌýÌý
-
Caiff gwirfoddolwyr eu recriwtio drwy hysbysebion printiedig, ar-lein a chyswllt anffurfiol â defnyddwyr presennolÌýÌý
-
Caiff holl ddarpar wirfoddolwyr eu cyfweld i drafod eu sgiliau, euÌýÌýÌý swyddogaethau a'u disgwyliadauÌýÌý
Ìý
-
Tasgau gwirfoddolwyrÌý
Ìý
Ein amcan yw darparu rhaglen amrywiol o weithgareddau i’n gwirfoddolwyr yn seiliedig ar eu gallu a’u sgiliau. Pan fo’n bosib, gwneir pob ymdrech i deilwra’r gwaith yn ôl diddordebau personol y gwirfoddolwr. Bydd tasgau y gellir eu gwneud gan ein gwirfoddolwry o bell [adref] hefyd yn cael eu cynnig gyda chyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal arlein neu yn y cnawd er mwyn monitro cynnydd.ÌýÌý
Mae’r tasgau a roddir i wirfoddolwyr yn disgyn o dan y catagorïau canlynol :ÌýÌý
Cadwraeth a gofal am gasgliadauÌý
-
Glanhau a phecynnu dogfennauÌý
-
Ail-focsio a labelu casgliadauÌý
-
Creu ffolderi i ddeunydd arbennigÌý
Ìý
Rhestru eitemau (gan gynnwys defnyddio CALM)Ìý
-
Gwaith rhestru syml o dan oruchwyliaeth archifydd cymwysedig proffesiynol.Ìý
-
Teipio hen slipiau catalogio i dabl ar Word neu ffeil ExcelÌý
-
Mewnbwnio data i daenlen Excel o’r catalogau papur i’r uwchlwytho i’r gronfa ddata CALM gan staffÌý
Ìý
Marchnata a hyrwyddoÌý
-
Cynorthwyo yn ystod dyddiau agored, darlithoedd etc.Ìý
-
Creu tects ar gyfer ein gwefanÌý
-
Creu deunydd i hyrwyddo e.e. posteri / pamffledi.Ìý
Ìý
Ateb ymholiadau a gwaith ymchwilÌý
-
Ateb ymholiadau syml yn ymwneud â’r casgliadauÌý
-
Cynnal ymchwil ar gyfer arddangosfeydd y dyfodol neu ddeunydd marchnata.Ìý
Ìý
GweinyddolÌý
-
Llungopio a sganio dogfennauÌý
-
Sganio hen ohebiaeth yn ymwneud â’n casgliadauÌý
-
Casglu gwybodaeth ystadegolÌý
Ìý
-
Hyfforddi a DatblyguÌý
Ìý
-
Rhaid i wirfoddolwyr fynychu hyfforddiant a fydd yn darparu braslun iddynt o’r adran – ein gwaith a’r math o gasgliadau rydym yn eu cadw ynghyd â materion iechyd a diogewlch e.e. cario eitemau trwmÌý
-
Bydd gwirfoddolwyr sy’n rhestru casgladau yn derbyn gwybodaeth am ein polisi catalogio a’n canllawiau catalogio.ÌýÌý
-
Bydd gwirfoddolwyr sy’n glanhau a chreu pecynnau yn derbyn hyfforddiant gan staff sydd wedi mynychu hyfforddiant NCS ar lanhau a chreu pecynnau.ÌýÌý
-
Penodir aelod staff i oruchwylio'r gwirfoddolwr a rhoi gwaith iddo/iddiÌý
-
Bydd unrhyw waith a gynhyrchir yn eiddo i Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ.Ìý
Ìý
-
Iechyd a DiogelwchÌý Ìý
Ìý
Ni roddir gwirfoddolwyr mewn sefyllfaoedd a fydd yn peryglu eu hiechyd a'u diogelwch, neu iechyd a diogelwch eraill.Ìý Rhaid i wirfoddolwyr gydymffurfio â gofynion Polisi Iechyd a Diogelwch y BrifysgolÌý
-
Treuliau Ìý
Ìý
Nid yw’r Archifau a’r Casgliadau Arbennig yn gallu talu costau teithio i wirfoddolwyr (o'u cartref i'r lle gwaith), nac unrhyw dreuliau eraill.ÌýÌý
-
Yswiriant Ìý
Ìý
Tra byddant yn cyflawni eu dyletswyddau caiff gwirfoddolwyr eu hindemnio rhag hawliau trydydd parti dan Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus y Brifysgol.ÌýÌý
-
°ä²â²õ·É±ô±ô³ÙÌý
Ìý
Gofynir i unrhyw un sydd gyda ddiddordeb mewn gwirfoddoli yn yr Archifau a’r Casgliadau Arbennig gwblhau Ffurflen Ymholiad Gwirfoddoli (sydd ar gael arlein ac yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig,Ìý a’i dychwelyd i’r adran yn bersonol neu ei hafnon ar ebost i archifau@bangor.ac.ukÌýÌý