Archifau a Chasgliadau Arbennig
Telerau ac amodau adneuo
Cynnwys
-
Cyflwyniad
-
Telerau
-
Perchnogaeth
-
Diogelu Data
-
Yswiriant ac atebolrwydd
-
Arfarnu
-
Cadw a diogelu
-
Catalogio
-
Mynediad
-
Atgynhyrchu a hawlfraint
-
Ffotograffau
-
Cyhoeddi
-
Benthyciad
-
Tynnu’n ôl
-
Cwynion
Rheolaeth ddogfennol
Enw’r ffeil |
Archifau a Chasgliadau Arbennig Telerau ac amodau adneuo |
Awdur(on) gwreiddiol |
Pennaeth Archifau a Chasgliadau Arbennig |
Awdur(on) diwygiad cyfredol |
|
Statws |
Wedi ei gymeradwyo gan Grŵp Tasg y Llyfrgell ac Archifau 7 Mehefin 2016 fel atodiad i’r Polisi Casglu |
Dosbarthiad |
Llyfrgell ac Archifau PB ac arlein |
Awdurdod |
Archifau a Chasgliadau Arbennig |
Fersiwn |
Dyddiad |
Awdur(on) |
Nodiadau ar ddiwygiadau |
0.1 |
12/2015 |
Pennaeth Archifau a Chasgliadau Arbennig |
Cymerdwyo Mehefin 2016 |
0.2 |
09/2018 |
Archifydd |
Mân newidiadau |
0.3 |
05/2019 |
Rheolwr yr Archifau a Chasgliadau Arbennig |
Mân newidiadau drwy’r ddogfen ynglŷn â safonau cadwraeth newydd, deddfwriaeth, trefniadau rheoli yn absenoldeb y Rheolwr, newid teitl swydd o “Pennaeth” i “Rheolwr” Cymeradwywyd gan y Grwp Tasg, Mehefin 2019 |
0.4 |
08/2022 |
Rheolwr yr Archifau a Chasgliadau Arbennig |
Mân newidiadau I adlewyrchi ail-strwythuro yn y Brifysgol yn 2021 – mae’r Archifau a Chasgliadau Arbennig yn disgyn o dan Gwasanaethau Digidol bellach Cymeradwywyd gan y Grwp Tasg Casgliadau a Materion Diwylliant, Rhagfyr 2022 |
Dyddiad adolygu : Awst 2025
-
Cyflwyniad
Mae'r Archifau a Chasgliadau Arbennig yn rhan o Wasanaethau Digidol ("Ni" a/neu "Prifysgol ϲʹ").
Rydym yn gyfrifol am gasglu llawysgrifau, casgliadau archifol ac amrywiaeth eang o lyfrau a deunydd printiedig prin, a’u cadw’n hirdymor.
Ein nod yw sicrhau bod ein deunyddiau ar gael am ddim i bob ymchwilydd. Rydym yn hybu'r casgliadau hyn fel offer ymchwilio a dysgu gwerthfawr, ac yn cynnwys y gymuned ehangach yn ein gweithgareddau, yn ogystal â staff a myfyrwyr Prifysgol ϲʹ.
-
Telerau
Mae Prifysgol ϲʹ yn fodlon derbyn cofnodion archifol (fel y’i diffinnir gan y Polisi Casglu presennol) ond nid yw dan unrhyw rwymedigaeth i dderbyn unrhyw rodd neu adnau.
Gellir gwneud y mathau canlynol o adnau (“Adnau”):
-
pryniad
-
rhodd (lle mae'r perchennog yn trosglwyddo perchnogaeth, rheolaeth a phob hawl i Brifysgol ϲʹ)
-
Adnau dros dro neu am gyfnod a diben penodol (er enghraifft dibenion copïo / addysgu / arddangosfa)
-
Adnau amhenodol am gyfnod amhenodol o amser (deellir fel arfer i fod yn isafswm o 50 mlynedd)
Mae'n well gan Brifysgol ϲʹ pan fo'r holl archifau a chasgliadau arbennig yn cael eu rhoi fel rhoddion yn hytrach na'n cael eu hadneuo.
Bydd angen i adneuwyr ("Adneuwyr") lenwi "Ffurflen derbyn rhoddion" neu "Ffurflen derbyn adneuon". Rhaid i unrhyw amodau ynglŷn ag ymgynghori â deunydd, neu wrthwynebiad i delerau ac amodau penodol gael eu mynegi ar y ffurflenni hyn.
3. Perchnogaeth
(1) Rhodd
Mewn achosion o gaffael drwy rodd neu werthiant, mae'r Adneuwr yn gwarantu mai nhw yw'r perchennog cyfreithlon (neu'r person sydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran y perchennog cyfreithlon) ac yn cytuno i drosglwyddo i Brifysgol ϲʹ berchnogaeth lwyr yr eitemau adneuol, ynghyd ag unrhyw hawlfraint neu hawliau atgynhyrchu sydd gan yr Adneuwr yng nghyswllt yr eitemau hynny, heb amod heblaw y bydd Prifysgol ϲʹ yn cadw'r eitemau ar ymddiried i'w defnyddio gan yr Archifau a Chasgliadau Arbennig ar gyfer ymchwil a dysgu er mantais i'r holl randdeiliaid.
Rhaid i'r Adneuwr gadarnhau mai nhw yw perchennog cyfreithlon y cofnodion cyn trosglwyddo perchnogaeth, rheolaeth a phob hawl dros y cofnodion i Brifysgol ϲʹ.
(2) Adneuo dros dro neu am gyfnod amhenodol
Mae'r amodau canlynol yn berthnasol i gofnodion sy'n cael eu hadneuo dros dro neu am gyfnod amhenodol:
Nid yw rhoi cofnodion yng ngofal Prifysgol ϲʹ yn effeithio ar berchnogaeth y cofnodion.
Deellir y bydd y cofnodion yn aros dan ofal Prifysgol ϲʹ am gyfnod digon hir i gyfiawnhau gwariant Prifysgol ϲʹ ar eu catalogio, eu diogelu a'u storio. Oni chytunir yn wahanol, deellir fel arfer fod cytundeb benthyg yn isafswm o 50 mlynedd.
Bydd yr Adneuwr yn rhoi ei (h)enw llawn, a chyfeiriad y gellir anfon pob cyfathrebiad iddo, i Brifysgol ϲʹ.
Mae'r Adneuwr (neu'r person gydag atwrniaeth) yn gyfrifol am hysbysu Prifysgol ϲʹ am unrhyw newid mewn cyfeiriad neu newid mewn perchnogaeth. Anfonir cyfathrebiadau sy'n gysylltiedig â'r dogfennau i’r cyfeiriad diwethaf a roddwyd i Brifysgol ϲʹ gan yr Adneuwr.
Os na all Prifysgol ϲʹ gysylltu gyda'r Adneuwr ar ôl ymdrechu'n rhesymol i wneud hynny, mewn perthynas â'r holl faterion lle mae angen caniatâd neu gytundeb yr Adneuwr, ystyrir y bydd yr Adneuwr wedi rhoi caniatâd neu gytundeb o'r fath.
-
Diogelu Data
Cedwir data personol am yr Adneuwr gan Brifysgol ϲʹ yn unol â thelerau Deddf Diogelu Data 2018 (a GDPR) a Pholisi Diogelu Data Prifysgol ϲʹ. Cedwir data personol am Adneuwyr at ddibenion darparu cofnod o darddiadau a hanes Adneuon ac er mwyn cadw rhestr o berchnogion Adneuon at ddibenion cyfathrebu gyda'r Adneuwr (lle bo hynny'n berthnasol).
-
Yswiriant ac Atebolrwydd
-
Bydd Prifysgol ϲʹ yn yswirio'r Adnau (o'r amser pan fydd Prifysgol ϲʹ yn cymryd meddiant o'r Adnau ymlaen) yn erbyn colled neu ddifrod, hyd nes y dychwelir yr Adnau i'r Adneuwr dan bolisi yswiriant cyffredinol Prifysgol ϲʹ (yn amodol ar yr eithriadau sy'n berthnasol i bolisi o'r fath).
-
Ni all Prifysgol ϲʹ gynnig prisio neu amcangyfrif gwerth unrhyw Adnau neu Adnau posib.
-
Yswirir Adneuon (dros dro neu amhenodol) am gost atgyweirio ac adfer yr Adnau a ddarperir gan Harwell Document Restoration Services. Os oes gan Adnau werth penodol, cyfrifoldeb yr Adneuwr yw rhoi prisiad annibynnol i Brifysgol ϲʹ at ddibenion yswiriant cyn gadael yr Adnau gyda Phrifysgol ϲʹ a hysbysu Prifysgol ϲʹ o unrhyw newid i brisiad o'r fath yn ystod cyfnod yr adneuo.
-
Yn amodol ar y telerau a’r amodau hyn, bydd atebolrwydd Prifysgol ϲʹ mewn perthynas â'r Adnau yn gyfyngedig i gost atgyweirio ac adfer yr Adnau a ddarperir gan Harwell Document Restoration Services ac mewn unrhyw achos ni fydd yn fwy na'r swm a adenillir gan Brifysgol ϲʹ gan eu hyswirwyr dan y polisi yswiriant a godwyd gan Brifysgol ϲʹ.
-
Cyfrifoldeb yr Adneuwr fydd unrhyw yswiriant pellach sy'n ofynnol ganddo sy'n fwy na'r hyn a amlinellir yn y telerau a'r amodau hyn.
-
Nid oes dim yn y telerau a'r amodau hyn a all gyfyngu neu eithrio atebolrwydd Prifysgol ϲʹ o ran marwolaeth neu anaf personol, neu unrhyw dwyll a achosir gan ei hesgeulustod.
-
Ni fydd gan Brifysgol ϲʹ unrhyw atebolrwydd o gwbl (o ran contract, o ran camwedd neu fel arall) am unrhyw golled anuniongyrchol neu ganlyniadol (yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, golled economaidd bur, colli elw, colli busnes neu golli ewyllys da) sut bynnag yr achoswyd hynny.
-
Bydd yr Adneuwr yn rhyddarbed Prifysgol ϲʹ a’i chadw’n ddiniwed yn erbyn unrhyw a phob achos, hawliadau, costau (yn cynnwys costau a threuliau cyfreithiol), iawndal, galwadau neu atebolrwydd a ddygir yn erbyn Prifysgol ϲʹ neu a ddioddefir ganddi neu a godir arni yn deillio o Adneuo'r deunydd a/neu hawliadau perchnogaeth gan drydydd parti parched yr Adnau.
-
Arfarnu
Mae Prifysgol ϲʹ yn cadw’r hawl i ddychwelyd at yr Adneuwr unrhyw gofnodion:
-
sydd y tu hwnt i delerau polisi casglu Prifysgol ϲʹ,
-
nad yw (ym marn Prifysgol ϲʹ) yn haeddu cadwedigaeth barhaol
-
sydd, ar ôl eu harchwilio, yn llawn llwydni neu blâu
-
nad yw Pennaeth Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol ϲʹ eisiau eu cadw ym Mhrifysgol ϲʹ
neu, gyda chaniatâd yr Adneuwr, naill eu trosglwyddo i gadwrfa fwy addas, neu eu dinistrio.
Mewn perthynas â throsglwyddo neu ddinistrio, bydd Prifysgol ϲʹ yn gwneud ymholiadau rhesymol i sicrhau caniatâd yr Adneuwr cyn gweithredu'n briodol.
-
Cadw a Diogelu
Caiff y cofnodion eu cadw dan amodau sy'n cydymffurfio â BS4971:2017 Conservation Care of Archive and Library Collections.
Caiff y cofnodion eu gwarchod a'u hatgyweirio fel y gwêl Rheolwr yr Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol ϲʹ yn angenrheidiol. Ni chaiff y cyhoedd fynediad at gofnodion mewn cyflyrau bregus.
Rhifir cofnodion gyda phensil (2B) gyda chod cyfeirio er eu diogelwch eu hunain ac at ddibenion eu nodi a'u hadnabod.
Caiff gwybodaeth parthed tapiau sain / CDs / cofnodion digidol eu copïo, eu mudo a'u dosbarthu ym mha bynnag ffyrdd yr ystyrir sydd fwyaf addas ar gyfer eu cadwraeth hirdymor.
-
Catalogio
Caiff y cofnodion eu catalogio a'u mynegeio yn unol â'r polisi a'r canllawiau catalogio presennol. Rhoddir copi papur o'r catalog i'r Adneuwr ac i gyrff eraill fel bo'n briodol. Trefnir i'r catalog fod ar gael ar-lein.
Efallai y caiff copiau o gofnodion eu hymgorffori i gronfeydd data a gedwir gan Brifysgol ϲʹ, yn cynnwys y catalog ar-lein.
Prifysgol ϲʹ fydd yn dal yr hawlfraint ym mhob catalog a chymorth chwilio.
-
Mynediad
Mae cofnodion fel arfer yn agored i'r cyhoedd edrych drwyddynt am ddim yn ystafell ddarllen Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol ϲʹ yn unol â rheolau'r Ystafell Ddarllen. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai cyfyngiadau'n berthnasol:
-
Lle bo perchnogion wedi trafod amodau cyfyngu mynediad gyda Phrifysgol ϲʹ, ar yr amod y rhoddir mynediad anghyfyngedig ar ôl i'r cyfnod trafod ddod i ben, yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol.
-
Lle bo cofnodion heb eu catalogio.
-
Lle bo cofnodion yn anaddas i'w bodio.
-
Lle gwyddys bod ymholiadau cyfreithiol yn cael eu gwneud. Mewn achosion felly, byddai angen caniatâd yr Adneuwr cyn cyflwyno'r cofnodion.
Mae Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol ϲʹ yn gweithio'n rheolaidd gyda thrydydd parti fel cwmnïau teledu a'r cyfryngau a allai ddymuno copïo, defnyddio, atgynhyrchu a chyhoeddi’r cofnodion ac mae'r Adneuwr yn cytuno i ddefnydd fel hyn gael ei wneud o'r Adnau gan ei fod yn gweithredu nod y Brifysgol o sicrhau fod y casgliad yn hygyrch.
Symudir cofnodion o archifau Prifysgol ϲʹ dros dro at ddibenion arddangos neu reswm dilys arall dan awdurdod Pennaeth Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol ϲʹ.
Darperir mynediad at gofnodion yn unol â thelerau Deddf Diogelu Data 1998 (a GDPR) a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
-
Atgynhyrchu a hawlfraint
Nid yw rhoddi neu adneuo cofnodion i Brifysgol ϲʹ yn golygu o angenrheidrwydd fod yr hawlfraint hefyd yn trosglwyddo i'r Gwasanaeth. Lle na all yr Adneuwr roi'r hawlfraint i Brifysgol ϲʹ (er enghraifft, pan mai trydydd parti sy'n berchen ar yr hawlfraint), bydd yr Adneuwr yn hysbysu'r Brifysgol o'r ffaith nad yw'n trosglwyddo'r hawlfraint.
Gall Prifysgol ϲʹ ddarparu copïau o gofnodion i'r cyhoedd i'w hastudio'n breifat yn unol â'r gyfraith hawlfraint bresennol, ac os yw cyflwr materol y cofnodion yn caniatáu hynny, a phan delir pris priodol.
Caiff copïau eu stampio yn unol â hynny.
-
Ffotograffau
Caniateir i Brifysgol ϲʹ atgynhyrchu cofnodion at ddibenion gwella hygyrchedd ac i'w defnyddio mewn arddangosfeydd a chyhoeddiadau, yn cynnwys gwefan Prifysgol ϲʹ, yn amodol ar ofynion hawlfraint.
Caniateir i ddefnyddwyr gymryd ffotograffau o gofnodion i'w hastudio'n breifat yn unol â'r gyfraith hawlfraint bresennol, ac os yw cyflwr materol y cofnodion yn caniatáu hynny, a phan delir pris priodol.
-
Cyhoeddi
Bydd Prifysgol ϲʹ yn cymryd pob cam rhesymol i gynghori unrhyw berson sy'n cymryd copi o gofnod na chaniateir i unrhyw gofnod gael ei gyhoeddi'n llawn nac yn rhannol heb ganiatâd yr Adneuwr a/neu berchennog yr hawlfraint, fel bo'n addas pan fo hawlfraint yn dal ar gofnod.
Bydd unrhyw un y gwyddys ei fod yn bwriadu cyhoeddi cofnodion yn cael ei gynghori gan Brifysgol ϲʹ:
-
O'u cyfrifoldeb i gydymffurfio â Deddf Hawlfraint 1998. Os oes angen copi o gofnod y mae hawlfraint arno o hyd at ddiben cyhoeddi, cynghorir y person sy'n dymuno cyhoeddi i ofyn caniatâd perchnogion yr hawlfraint, a allai fod yn rhywun gwahanol i Adneuwyr y cofnodion.
-
O'u cyfrifoldeb i gydnabod Prifysgol ϲʹ a'r Adneuwr yn y gwaith cyhoeddedig.
-
Benthyciad
Dim ond i sefydliadau eraill, dros dro, at ddiben arddangos gyda chaniatâd yr Adneuwr y rhoddir benthyg cofnodion, a dan yr amod bod y cyfleusterau'n cydymffurfio â BS4971:2017 a bod y sefydliad wedi ei achredu (gweler Polisi Benthyciadau).
-
Tynnu’n Ôl
Caiff dogfennau sydd wedi eu hadneuo dros dro eu dychwelyd i'r Adneuwr ar ddiwedd y cyfnod o amser y cytunwyd arno, oni bai bod yr Adneuwr yn penderfynu eu gosod ar adneuaeth amhenodol gyda chaniatâd Prifysgol ϲʹ.
Yn amodol i'r isod, gall y perchennog cyfreithlon, neu asiant a benodwyd yn briodol, dynnu'r cofnodion adneuol yn ôl unrhyw bryd ar ôl rhoi rhybudd ysgrifenedig 6 mis ymlaen llaw. Gall fod yn bosibl dychwelyd adneuon bychain mewn cyfnod byrrach, yn ôl disgresiwn Prifysgol ϲʹ. Yn ystod y cyfnod hwn mae Prifysgol ϲʹ yn cadw’r hawl i gopïo’r cofnodion fel y bydd copïau ar gael ar gyfer ymchwil ac mae'r Adneuwr yn cytuno i hyn.
Efallai y bydd gofyn i Adneuwr sy'n tynnu'r cofnodion yn ôl yn barhaol gyfrannu at y gost a fuddsoddwyd gan Brifysgol ϲʹ wrth storio, gwarchod a chatalogio'r cofnodion. Bydd taliad o'r fath yn ofynnol cyn y gellir tynnu unrhyw beth yn ôl.
Rhaid i unrhyw berson sy'n tynnu cofnodion adneuol yn ôl naill ai dros dro neu'n barhaol ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig a fydd yn profi eu hawl i berchnogaeth y cofnodion adneuol er boddhad Prifysgol ϲʹ.
Caiff yr Adneuwr dynnu cofnodion allan dros dro, ar ôl rhoi o leiaf un wythnos o rybudd ymlaen llaw i Bennaeth Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol ϲʹ. Gofynnir i'r Adneuwr wneud trefniadau priodol parthed diogelwch y cofnodion tra maent wedi eu tynnu allan.
-
Cwynion
Os oes unrhyw bryderon neu ymholiadau parthed yr Adnau, a/neu unrhyw gwynion, dylai'r Adneuwr gysylltu gyda Phennaeth Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol ϲʹ yn uniongyrchol. Os na ellir datrys y mater, gellir cyfeirio'r mater at Bennaeth Gwasanaethau Digidol.