GWNEUD CAIS AM GWRS ISRADDEDIG
Sut i wneud cais
I wneud cais am le mewn prifysgol mae'n rhaid i chi wneud cais trwy UCAS a fydd wedyn yn cael ei drosglwyddo i'r prifysgolion a restrwyd.
Gallwch wneud cais am hyd at bum cwrs ond cofiwch y bydd yr un ffurflen gais a'r un datganiad personol yn mynd i'r 5 dewis.
UCAS yw’r Gwasanaeth Derbyniadau i Brifysgolion a Cholegau. Mae pob cais i’r brifysgol yn cael ei brosesu drwy UCAS ac yna’n cael ei drosglwyddo i’r prifysgolion a restrwyd.
Côd UCAS Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yw B06.
Pryd i wneud cais
Rydym yn eich cynghori i wneud cais cyn gynted ag y gallwch gan y byddwn yn dechrau ystyried ceisiadau a gwneud cynigion ar unwaith.
Mynediad 2025
Ar gyfer mynediad 2025, dyddiad cau cychwynnol UCAS yw 29 Ionawr 2025, fodd bynnag rydym yn croesawu ceisiadau ar ôl y dyddiad hwn. Bydd ceisiadau a dderbynnir rhwng 29 Ionawr a 30 Mehefin yn parhau i gael eu hanfon ymlaen at brifysgolion gan UCAS a byddant yn cael eu hystyried pan fydd lleoedd ar gael o hyd.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i Rydychen, Caergrawnt a'r rhan fwyaf o gyrsiau mewn meddygaeth, deintyddiaeth, a meddygaeth filfeddygol/gwyddoniaeth yw 15 Hydref 2024.
Arweiniad 7 cam ar sut i wneud cais am gwrs israddedig
To get started, you’ll need to set up your UCAS Hub account with UCAS (University and Colleges Admissions Service) – the organisation that manages applications to all UK universities. You can start your application from UCAS Hub.
Edrychwch ar y cyrsiau sydd ar gael ar wefan y Brifysgol.
Dylid ystyried yr isod wrth ddewis eich cwrs a’ch prifysgol:
- Beth yw’r modiwlau gofynnol a dewisol sydd ar gael?
- Ydych chi’n gallu gwneud blwyddyn dramor neu blwyddyn mewn diwydiant fel rhan o’r cwrs?
- Ydych chi’n hoffi’r llety?
- Ydi’r bywyd myfyriwr yn apelio atoch yn nhermau'r clybiau a chymdeithasau sydd ar gael, lleoliad a chyfleusterau?
Yn eich cyfrif UCAS, gallwch safio'r cyrsiau rydych â diddordeb ynddynt trwy glicio ar yr icon siâp calon ar wefan UCAS. Bydd y rhestr yma yn cael ei gadw mewn un lle fel eich bod yn gallu mynd yn ôl i edrych arnynt fel y mynnwch.
Cewch wneud hyd at 5 cais. Gall hynny fod yn hyd at 5 cwrs gwahanol i’r un brifysgol neu'r un cwrs mewn hyd at 5 prifysgol wahanol.
Gwnewch hyn cyn gynted â phosib ym Mehefin / Gorffennaf fel eich bod yn gallu troi at ymchwilio eich opsiynau cwrs. Pan fyddwch wedi creu eich rhestr fer, byddwch wedyn yn barod i wneud eich cais.
Fel rhan o’ch proffil ar UCAS, bydd angen i chi ysgrifennu eich datganiad personol. Mae hyn yn rhan bwysig o’r broses ymgeisio.
Dyma eich cyfle i berswadio’r brifysgol y dylent eich derbyn chi ar y cwrs. Cewch ond 4,000 llythyren i egluro pam rydych wedi dewis y cwrs a’r sgiliau neu brofiad sydd gennych sy’n hanfodol ar gyfer astudio ar lefel prifysgol.
I ysgrifennu datganiad personol gwerth chweil, dylech fod efo dealltwriaeth o’r cwrs a’r pwnc byddwch yn ei astudio. Cofiwch eich bod yn ysgrifennu un datganiad personol ar gyfer eich 5 dewis felly mae angen gwneud yn saff bod eich cyrsiau yn rhai tebyg a sicrhau nad ydych yn cyfeirio at unrhyw un o’r cyrsiau na unrhyw brifysgol yn benodol yn y datganiad personol.
Ewch dros eich cais a gofynnwch i rywun arall edrych drosto hefyd - gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwneud cais am y cwrs cywir yn y brifysgol gywir.
Byddwch angen geirda gan eich athro/athrawes, cynghorydd neu rywun sy’n eich adnabod yn academaidd neu’n broffesiynol.
Pan rydych yn hapus gyda’ch cais, talwch ffi UCAS ar-lein gyda cherdyn debyd neu gredyd a phwyswch y botwm i gyflwyno eich cais!
Bydd yr holl brifysgolion rydych wedi cyflwyno cais iddynt yn ystyried eich cais ac yn ymateb – fel arfer gyda cynnig amodol (y graddau mae’r brifysgol isio chi eu cyflawni) neu cynnig diamod.
UCAS Extra
Os ydych wedi defnyddio pob un o’r pum dewis ar eich cais, ac nad oes gennych unrhyw gynigion, gallwch ddod o hyd i le gan ddefnyddio UCAS Extra rhwng 26 Chwefror a 4 Gorffennaf 2025.
Clirio
Os nad oes gennych unrhyw gynigion ar 5 Gorffennaf, byddwch yn gallu gwneud cais trwy Clirio.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?Â
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor?Â
- Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor?Â
- Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?Â
Weithiau nid yw eich llwybr i'r Brifysgol yn un draddodiadol. Dyma fwy o ddulliau ymgeisio...
Weithiau nid yw eich llwybr i'r Brifysgol yn un draddodiadol. Dyma fwy o ddulliau ymgeisio...