Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ

Fy ngwlad:
Theatre and Performance

Drama

Darganfyddwch ein Cyrsiau Israddedig

Dod o hyd i gwrsDiwrnod Agored

Gwnewch gais cyn 6yh ar Ddydd Mercher, 29 Ionawr 2025 i gychwyn eich cwrs ym Medi 2025

Astudiwch radd yn y Celfyddydau Creadigol ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ

Taith Rithiol Stiwdio Aria

Y Dderbynfa

Croeso i Stiwdios Aria yn Llangefni. Dyma’r dderbynfa foethus gyda’r murlun trawiadol o du allan yr adeilad a’r mynyddoedd yn y cefndir.

Y Stiwdio

Dyma ni yn stiwdio 2 - ble mae setiau tai rhai o gymeriadau'r gyfres ‘Rownd a Rownd’. Fe welwch fod y setiau gefn yn gefn er mwyn gwneud y mwyaf o’r gofod.

TÅ· Dani

Rydym yn awr yn Nhŷ Dani, un o gymeriadau hir mwyaf poblogaidd y gyfres.  Yma mae cegin a lolfa.

Sylwch mai dim ond hanner cyntedd sydd gan Dani – ni all y camera na chithau weld rownd y gornel!  Mae drws ffrynt y tŷ ar y stryd ym Mhorthaethwy.

Tŷ Siân

Dyma’r cyntedd yn nhŷ Siân. Sylwch nad ydi’r grisiau yn arwain i unman gan nad oes llofftydd yma. Mae hwn yn replica o dŷ go iawn yn Llandegfan - roedd yn rhaid ail greu'r gegin yn union gan nad oedd modd ffilmio ar leoliad oherwydd y pandemig.

Fflat Jason

Fflat Jason ydi hwn ac yn y stori mae’r lleoliad uwchben y Tŷ Pizza sydd ar set y gyfres ym Mhorthaethwy.

Siop yr Iard

Dyma un o’r setiau mwyaf y stiwdio. Unwaith eto mae tu allan yr iard gychod i lawr wrth y Fenai ym Mhorthaethwy ond ail grëwyd y tu mewn er mwyn hwyluso'r ffilmio gan fod angen gymaint o brops ac ati i lenwi’r siop.

TÅ· Arthur

Wrth i ni ymweld â thŷ Arthur fe welwch weddill y setiau yn glir. Mae wal ar goll yma er mwyn creu gofod i’r criw ffilmio weithio gan fod y set ei hun yn gymharol fychan.

Ac o’r cyntedd eto fe welwch pa mor agos ydi’r setiau at ei gilydd yn y stiwdio.

Tŷ’r K’s

Dyma dŷ’r Ken a Kay. Mae’r tŷ go iawn ar y lot ym Mhorthaethwy ond roedd angen mwy o le oherwydd covid felly adeiladwyd y set yma i fod ychydig yn fwy na’r tŷ gwreiddiol er na fyddech chi yn sylwi hynny ar gamera.

O’r cyntedd fe gawn gip olwg i mewn i’r gegin hefyd.

TÅ· Dylan a Sophie

Yn sicr dyma set grandiaf  ’Rownd a Rownd’ - tŷ moethus Dylan a Sophie. Fe gafodd yr Adran Gelf hwyl yn cynllunio hwn.

A dyma’r cyntedd, eto fe welwch nad yw’r grisiau yn arwain i unman a chewch gip olwg o’r lolfa.

Y Galeri

Yng nghornel o’r stiwdio mae ardal y galeri. Yma bydd y cyfarwyddwr a a gweddill y criw yn eistedd yn ystod y ffilmio. Byddant yn gwylio’r digwydd ar y sgriniau ac yn mynd yn ôl ag ymlaen ar y set yn ôl yr angen.

Gwisgoedd

Tu allan i’r stiwdio mae’r adran wisgoedd ac yma mae holl wisgoedd y cymeriadau yn cael eu cadw, eu didoli a’u golchi.  Yma bydd yr actorion yn dod i mewn i mewn i’w gwisg cymeriad.

Colur

Ar ôl newid i’w wisg bydd pob actor yn cael colur. Yr adran golur sydd hefyd yn gyfrifol am dorri a steilio gwalltiau a chreu effeithiau arbennig megis briwiau a chleisiau.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

Sgwrsiwch gyda'n myfyrwyr

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Drama llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Drama ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Drama ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Cysylltu â ni

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.