香港六合彩挂牌资料

Fy ngwlad:
Myfyriwr yn astudio yn y llyfrgell yn gwisgo clustffonau

Ieithyddiaeth, Iaith Saesneg a Dwyieithrwydd

MAES PWNC 脭L-RADDEDIG TRWY YMCHWIL

Darganfyddwch fwy am y cyfleoedd ymchwil o fewn Ieithyddiaeth, Iaith Saesneg a Dwyieithrwydd

Pam Astudio Ieithyddiaeth, Iaith Saesneg a Dwyieithrwydd?

Rydym yn adran hygyrch a chyfeillgar gyda staff sydd wedi ymrwymo i addysgu o ansawdd uchel a chefnogaeth academaidd (a phersonol) gref drwy gydol astudiaethau ein myfyrwyr

Mae ein staff, gyda llawer ohonynt wedi eu cydnabod fel arweinwyr rhyngwladol yn eu meysydd, yn ymddiddori mewn trosglwyddo eu harbenigedd a'u gwybodaeth bwnc ac mae ein hymchwil yn sail wybodaeth i鈥檔 darpariaeth addysgu, gyda'u myfyrwyr doethurol yn elwa o ymholiadau a datblygiadau academaidd arloesol.

Mae gennym gyfleusterau ymchwil, labordai ac offer o'r radd flaenaf sy'n cynnwys recordio a phrosesu sain, olrhain llygaid, potensial digwyddiad-berthynol, technoleg iaith a pheiriannau a/neu adnoddau cyfrifiadurol perfformiad uchel.聽

Rydym yn cynnig cefnogaeth a goruchwyliaeth bersonol gyda鈥檙 traethawd hir doethurol ar amrywiaeth eang o bynciau ieithyddiaeth gan ddefnyddio fframweithiau methodolegol cymhwysol, damcaniaethol, arbrofol, seiliedig ar gorpws neu ethnograffig.

Mae amgylchedd ymchwil bywiog hefyd yn amlwg trwy鈥檙 gwahanol ddigwyddiadau cyhoeddus a gweithdai a gynhelir trwy gydol y flwyddyn.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Ieithyddiaeth, Iaith Saesneg a Dwyieithrwydd

Mae鈥檙 graddau ymchwil hyn yn eich paratoi at yrfa academaidd ym maes Ieithyddiaeth neu Ieithyddiaeth Gymhwysol neu at waith arall sy'n gofyn am unigolion cymwys iawn mewn meysydd cysylltiedig.

Bydd y lefel uchel o alluoedd ymchwil a dadansoddi, disgyblaeth a sgiliau cyfathrebu a gewch chi yn cynyddu eich rhagolygon cyflogaeth mewn meysydd fel cyfathrebu, addysgu, cyhoeddi ac ymchwil. Yn fwy eang, mae gradd ymchwil yn gymhwyster y mae llawer o gyflogwyr yn ei werthfawrogi ac maent yn cydnabod y sgiliau a'r ymrwymiad sydd eu hangen ar gyfer gradd PhD.

Ein Hymchwil o fewn Ieithyddiaeth, Iaith Saesneg a Dwyieithrwydd

Wedi'i lleoli yng ngogledd Cymru, sy鈥檔 gyfoethog o ran dwyieithrwydd, mae gan ein hadran a'n staff hanes hir o ymchwil, addysgu a goruchwylio projectau ymchwil pwysig ym maes dwyieithrwydd ac amlieithrwydd, yn ogystal ag yn fwy cyffredinol yn yr iaith Gymraeg ac Ieithyddiaeth Gymraeg.

Mae ein staff yn cefnogi ymchwil 么l-radd yn y meysydd canlynol: seicoieithyddiaeth, caffael iaith plant, caffael ail iaith, dadansoddi disgwrs, TEFL (Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor), Caffael Ail Iaith ac addysgu iaith, ieithyddiaeth corpws, iaith a chyfathrebu, ffoneteg a ffonoleg, morffogystrawen, semanteg a phragmateg, ieithyddiaeth hanesyddol, amrywio a newid iaith, iaith a chyfathrebu, dwyieithrwydd ac amlieithrwydd, anhwylderau iaith, ieithyddiaeth Gymraeg a thechnolegau iaith / prosesu iaith naturiol.

Mae ein myfyrwyr hefyd yn elwa ar ein cyfleusterau dysgu o鈥檙 radd flaenaf sy鈥檔 cynnwys:

  • Stiwdio sain/recordio a labordy lleferydd o safon broffesiynol (gydag offer recordio Yamaha, Alesis a R脴DE)
  • Labordy olrhain llygaid (gyda thraciwr llygaid Tobii Pro X2-60)
  • Labordy potensial digwyddiad-berthynol (ERP) (gyda pheiriant actiCHamp Plus ERP)
  • Adnoddau ieithyddiaeth corpws pwrpasol.
  • Mynediad at adnoddau, staff ac arbenigedd Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr
  • Defnydd o adnoddau cyfrifiadurol perfformiad uchel Uwchgyfrifiadura Cymru; labordai cyfrifiadurol a rhwydweithio gydag offer rhagorol;
  • A chydweithio ag ymchwil flaengar mewn prosesu iaith naturiol gan weithio gydag ymchwilwyr lefel PhD yn y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol mewn Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol a Chyfrifiadura Uwch (AIMLAC).

Ym Mangor byddwch yn rhan o gymuned ymchwil bywiog ac arloesol a gefnogir gyda gwahanol ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys sgyrsiau unigol, seminarau a gweithdai anffurfiol a chynadleddau mawr. Mae llawer o'r rhain yn agored nid yn unig i staff academaidd, ond hefyd i fyfyrwyr ac i'r cyhoedd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.