Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ

Fy ngwlad:
LLun o ddesg a llyfr lledr, sgrol a phluen

Astudiaethau Celtaidd, Arthuraidd a Chanoloesol

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY DDYSGU

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Astudiaethau Celtaidd, Arthuraidd a Chanoloesol
Ein Staff

Gallwch fwynhau addysgu o safon uchel a ddarperir gan arbenigwyr yn eu maes. Darllenwch y proffiliau staff i ddysgu mwy.

Ein Staff

Gallwch fwynhau addysgu o safon uchel a ddarperir gan arbenigwyr yn eu maes. Darllenwch y proffiliau staff i ddysgu mwy.

Ein Hymchwil o fewn Astudiaethau Celtaidd, Arthuraidd a Chanoloesol

Mae natur amrywiol a rhyngddisgyblaethol astudiaethau Celtaidd, Cymreig, Arthuraidd a Chanoloesol wedi’u cynrychioli’n dda ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ: dygir ynghyd arbenigeddau ymchwil ar draws iaith, llenyddiaeth, hanes, archaeoleg a cherddoriaeth.

Mae cyfraniad Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ i dwf ysgolheictod Cymreig a Cheltaidd, ac Astudiaethau Arthuraidd yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol er sefydlu’r Brifysgol yn 1884. Yma y lluniodd Syr John Morris-Jones ei Welsh Grammar (1913), sy’n gosod seiliau’r iaith lenyddol fodern, ac mae traddodiad golygyddol allweddol ysgolheigion megis Ifor Williams (Canu Aneirin, Canu Taliesin, etc.) yn parhau hyd heddiw.

Mae gan Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ arbenigedd ar draws holl brif feysydd llenyddiaeth, iaith a hanes Celtaidd, ac mae ein staff yn cynnwys rhai o brif awduron ac ymarferwyr creadigol y Gymru gyfoes, mewn rhyddiaith, barddoniaeth a drama. Mae tirwedd archaeolegol gyfoethog y gogledd-orllewin yn ganolbwynt naturiol i ymchwil sy’n archwilio cymdeithasau’r gorffennol, eu haneddiadau a’u diwylliant materol, o’r cyfnod Mesolithig diweddar i’r ôl-ganoloesol. 

Mae ymchwil ac addysgu rhagorol Astudiaethau Arthuraidd wedi’u cadarnhau drwy sefydlu Canolfan Astudiaethau Arthuraidd y Brifysgol. Mae’r ganolfan yw hyrwyddo cyfnewid ymchwil rhyngwladol,  a hynny drwy gysylltiadau hirsefydlog â’r Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol. Ochr yn ochr â Chanolfan Stephen Colclough ar gyfer Hanes a Diwylliant y Llyfr, a Chanolfan Ymchwil R.S. Thomas, mae’n darparu adnoddau arbennig iawn, gan gynnwys argraffiadau prin, ar gyfer ymchwilwyr ym mhob un o’r meysydd hyn.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.