Cefnogi gwasanaethau iechyd
Mewn cydweithrediad unigryw â’r GIG, mae myfyrwyr ar ein cwrs MSc Cwnsela yn darparu tua 1500 awr o gwnsela i dros 200 o gleientiaid y flwyddyn yng Ngwasanaeth Iechyd Meddwl Sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.  Â
Mae'r math hwn o gydweithio ar leoliad yn unigryw i Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ac roedd yn ganlyniad i fwy o alw gan y cyhoedd am wasanaeth y GIG, a diffyg myfyrwyr 'parod i ymdrin â chleientiaid' yn gadael y brifysgol. Cynigir hyd at 15 lle y flwyddyn i ymgeiswyr llwyddiannus sy'n mynd drwy'r broses ddethol a chyfweld.  Â
Yn rhan o'r lleoliad, gall myfyrwyr elwa ar oruchwyliaeth grŵp ac ar gymorth beunyddiol drwy’r cynllun dyletswydd a mentoriaeth.  Mae'r tîm hefyd yn darparu sesiynau hyfforddi rheolaidd i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus.  Â
Mae enghreifftiau nodedig o waith myfyrwyr yn cynnwys helpu i drefnu Cynhadledd Gwnsela’r GIG, creu canllawiau hunangymorth iechyd meddwl i’w defnyddio gan y gwasanaeth, a chynhyrchu adroddiadau ar effaith Covid ar wasanaethau cwnsela.  Â
Mae’r cydweithio hwn yn cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr weithio fel cwnselwyr dan hyfforddiant yn y GIG. Mae ein myfyrwyr yn ennill sgiliau a gwybodaeth werthfawr i’w helpu i ddatblygu fel cwnselwyr.
Mae’r cydweithrediad rhwng Iechyd Meddwl Cychwynnol a Phrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn ychwanegu haen amhrisiadwy o gefnogaeth i’r GIG ar adegau o angen mawr yn y gymuned leol, gan alluogi myfyrwyr i ennill sgiliau a gwybodaeth werthfawr gan helpu i ddatblygu gyrfa mewn cwnsela.
Rwyf wedi bod trwy daith o ddysgu a dilyniant gyda Phrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, wedi helpu’n aruthrol gan y cysylltiadau agos â’r GIG. Ar ôl cwblhau BSc mewn Seicoleg, symudais ymlaen i'r MSc mewn Cwnsela lle enillais leoliad mewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl. Mae hyn wedi fy arwain i ddod yn Gynghorydd Sesiynol ac yn Ddarlithydd Seicoleg. Mae Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ wedi rhoi cyfleoedd enfawr i mi.