Jonathan Cliffe
Wnes i wir ddysgu beth oedd bydwreigiaeth ym Mangor.
Jonathan CliffeÂ
Arweinydd Tîm Bydwragedd yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Addysgu Warrington a Halton
Astudiodd: Baglor mewn Bydwreigiaeth, 2015Â
Daeth Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ o hyd i mi. Ar ôl proses hir o wneud cais i UCAS, wnes i gyrraedd rhestr wrth gefn y brifysgol. I ddechrau, nid Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ oedd fy newis cyntaf ond rwyf mor falch eu bod wedi dod o hyd i mi. Gwnaeth y bobl, y golygfeydd a'r iaith Gymraeg fy amser ym Mangor yn un o dair blynedd orau fy mywyd.
"Ym Mangor wnes i wir ddysgu beth oedd bydwreigiaeth. Cefais fy nysgu gan grŵp anhygoel o fydwragedd, gwnaeth bob un ohonynt fy siapio i fod y fydwraig ydw i heddiw. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n dewis gyrfa mewn bydwreigiaeth i ddechrau astudio bydwreigiaeth yn ardal wledig gogledd Cymru.Â
"Mae bydwragedd yn bobl freintiedig sy'n cael rhannu eiliadau gwerthfawr gyda merched, ac maent yn ymddiried ynom ni i chwarae rhan hanfodol yn eu profiad o roi genedigaeth. Mae pob diwrnod yn ddiwrnod arbennig.Â
“Gwnaeth y dysgu cyfunol o theori ac elfennau ymarferol ym Mangor fy mharatoi i gymhwyso fel bydwraig hyderus yn barod i ddechrau ar fy ngyrfa yn y GIG.Â
"Yn ystod fy nghyfnod ym Mangor, cwblheais y Wobr Cyflogadwyedd, a deuthum hefyd yn gynrychiolydd cwrs, ac yn y pen draw roeddwn yn cynrychioli addysg bydwreigiaeth yng Ngogledd Cymru ar lefel genedlaethol yng Nghymru. Â
“Ar ôl graddio cefais fy mhenodi’n aelod o fwrdd y British Journal of Midwifery, ac yna fel aelod o fwrdd y National Practicing Midwife Journal.
“Un o’r pethau rwyf wedi eu dysgu yn ystod y pandemig byd-eang hwn yw bod yn ddiolchgar am y presennol. Rwy'n hynod hapus ac yn fodlon ar fy swydd fel bydwraig.Â
“Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ fydd fy ail gartref bob amser a bydd y bobl y gwnes i eu cyfarfod yn cael eu hystyried yn ffrindiau a theulu gydol oes."Â