Mae rwber wedi'i gysylltu'n rheolaidd 芒 datgoedwigo yn 么l adolygiad systematig o astudiaethau achos a dadansoddiad o dueddiadau diweddar mewn ardaloedd a chynnyrch rwber a gyhoeddwyd yn
Wrth i鈥檙 galw gynyddu a chynnyrch leihau, disgwylir datgoedwigo parhaus am rwber, meddai鈥檙 awdur arweiniol Dr Eleanor Warren-Thomas o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料, a arweiniodd yr ymchwil.
Rhybuddia:
鈥淢ae ein dadansoddiad yn dangos bod planhigfeydd rwber wedi ehangu鈥檔 sylweddol mewn llawer o wledydd sy鈥檔 ei gynhyrchu ers 2010, gyda chynnydd arbennig o gyflym mewn lleoliadau newydd fel Cote d鈥橧voire. Gall fod angen tua 2.7 miliwn i 5.3 miliwn hectar o arwynebedd cynaeafu ychwanegol i fodloni amcangyfrifon y diwydiant o鈥檙 galw erbyn 2030. Mae'n hanfodol bod cynhyrchwyr rwber presennol yn cael eu cefnogi i wella eu cynnyrch a chynnal cynhyrchiant, er mwyn osgoi ehangu ardaloedd planhigfeydd yn barhaus.鈥
Roedd y papur hwn yn un o ddwy astudiaeth arloesol gan d卯m rhyngwladol, a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y cyfnodolion enwog and Conservation Letters. Gyda鈥檌 gilydd, maent yn dangos bod effaith y fasnach rwber fyd-eang ar goedwigoedd wedi鈥檌 thanamcangyfrif yn olynol ac yn sylweddol.
Dan arweiniad Gardd Fotaneg Frenhinol Caeredin (RBGE), cyfrannodd Eleanor Warren-Thomas hefyd at ddadansoddiad synhwyro o bell arloesol a gyhoeddwyd yn Nature, a oedd yn mesur datgoedwigo cysylltiedig 芒 rwber yn Ne-ddwyrain Asia ers 1993, a chanfod bod dros bedair miliwn hectar o goedwigoedd wedi鈥檜 colli. - ardal mor fawr 芒'r Swistir.
Gan ddefnyddio'r dechnoleg lloeren ddiweddaraf a chyfrifiadura yn y cwmwl, mae'r dystiolaeth newydd hon yn datgelu bod colli coedwigoedd oherwydd rwber hyd at deirgwaith yn fwy na'r amcangyfrifon a adroddwyd yn flaenorol, sydd wedi'u defnyddio'n helaeth i lywio polisi. Mae gwyddonwyr tu 么l i'r ymchwil yn dweud bod angen atebion teg a chynaliadwy yn ddi-oed.
听
Eglurodd Dr Yunxia Wang, awdur cyntaf yr astudiaeth: 鈥淩oeddem eisoes yn gwybod bod rwber wedi arwain at golli coedwigoedd, ond mae mesur y difrod wedi bod yn heriol. Oherwydd ei bod yn anodd gwahaniaethu rhwng coedwig naturiol ar ddelweddau lloeren, mae wedi cael llai o sylw wrth edrych ar y colledion a achosir gan blanhigfeydd masnachol. Fodd bynnag, diolch i ehangu arsylwi'r ddaear a thechnoleg gyfrifiadurol, mae cyfleoedd cynyddol i fapio nwyddau 'anodd'. Mae鈥檙 canlyniadau yn ddifrifol.鈥澨
Dywedodd yr uwch awdur Dr Antje Ahrends: 鈥淓r bod datgoedwigo sy鈥檔 gysylltiedig 芒 rwber yn gyffredin, mae rhai gwledydd yn peri pryder arbennig. Yn Cambodia, er enghraifft, mae dros 40 y cant o blanhigfeydd rwber yn gysylltiedig 芒 datgoedwigo. Mae ein mapiau鈥檔 dangos bod planhigfeydd rwber wedi ymledu i ardaloedd o bwysigrwydd byd-eang ar gyfer gwarchod bioamrywiaeth, gyda thros un filiwn o hectarau wedi鈥檜 plannu yn yr ardaloedd hyn. Gyda 70 y cant o gynnyrch rwber naturiol y byd yn mynd i weithgynhyrchu teiars, nid yw'r galw'n debygol o leihau ac ni ddylid diystyru'r bygythiad y mae hyn yn ei achosi i fioamrywiaeth. Yn ogystal, er ei fod yn cael ei dyfu鈥檔 bennaf gan dyddynwyr gyda鈥檙 potensial i gefnogi bywoliaethau, mae rwber hefyd yn gysylltiedig 芒 chipio tir a thorri hawliau dynol mewn rhai gwledydd.鈥
Mae鈥檙 ddwy astudiaeth yn pwysleisio, er ei bod yn hollbwysig atal datgoedwigo sy鈥檔 gysylltiedig 芒 rwber, ei bod yn hanfodol nad yw tyddynwyr, sy鈥檔 cyfrif am 85 y cant o gynhyrchu rwber naturiol, yn cael eu gwthio i鈥檙 cyrion gan reoliadau.
Daeth yr Athro Peter Hollingsworth, Dirprwy Geidwad a Chyfarwyddwr Gwyddoniaeth RBGE i鈥檙 casgliad: 鈥淓r ei bod yn galonogol gweld nifer cynyddol o fentrau a newidiadau polisi sydd 芒鈥檙 nod o atal colli coedwigoedd a yrrir gan nwyddau, mae perygl y bydd rheoleiddio anhyblyg yn ymyleiddio鈥檙 tlawd gan mai dim ond cynhyrchwyr a masnachwyr rwber cyfoethog sy鈥檔 gallu fforddio talu i gwmn茂au synhwyro o bell wirio nad yw nwyddau yn gysylltiedig 芒 datgoedwigo.
鈥淩ydym, felly, yn gweithio gyda mentrau tyddynwyr a chwaraewyr allweddol eraill yn y sector, gan gynnwys y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd 庐, ZSL, a鈥檙 Llwyfan Byd-eang ar gyfer Rwber Naturiol Cynaliadwy, i sicrhau bod ein mapiau rwber a datgoedwigo ar gael yn eang ac yn rhwydd i bob rhanddeiliad, yn enwedig i chwaraewyr economaidd llai.鈥
Y partneriaid ymchwil gyda'r Ardd Fotaneg Frenhinol Caeredin a Phrifysgol 香港六合彩挂牌资料 ar y papur Nature oedd Gardd Fotaneg Drofannol Xishuangbanna, Tsieina; Sefydliad yr Amgylchedd Stockholm, Prifysgol Efrog; Sefydliad Botaneg Kunming, Tsieina; Prifysgol Bern, y Swistir; Canolfan Dwyrain-Gorllewin, Honolulu, UDA; Academi Gwyddorau Cymdeithas Yunnan, Tsieina; Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Dadansoddi Systemau Cymhwysol (IIASA), Awstria; Prifysgol Sheffield.
Un o brif gyllidwyr ymchwil Conservation Letters oedd Cymrodoriaeth Gydweithredol IIASA Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol UKRI. Prif ariannwr ymchwil Nature oedd Canolfan Masnach, Datblygu ac Amgylchedd Ymchwil ac Arloesi y Deyrnas Unedig