Modiwlau a chyrsiau
Mae Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn cynnig cyfleoedd niferus i fyfyrwyr astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mewn cydweithrediad â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn darparu mwy o fodiwlau a chyrsiau trwy gyfrwng Gymraeg nag unrhyw brifysgol arall. Ym Mangor hefyd y mae'r nifer fwyaf o fyfyrwyr sy'n dewis astudio trwy'r Gymraeg.
Defnyddiwch i gael syniad faint o'ch cwrs sydd ar gael drwy'r Gymraeg.
Cliciwch isod i wybod mwy am fanteision astudio trwy'r Gymraeg ac i weld pa fodiwlau sy'n cael eu cynnig trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.
Ysgoloriaethau
Mae'r Coleg yn dyfarnu nifer o ysgoloriaethau i fyfyrwyr sy'n astudio cyrsiau penodol yn rhannol, neu'n gyfan gwbl, drwy gyfrwng y Gymraeg. Am fanylion llawn am yr ysgoloriaethau, ewch i .
Prif Ysgoloriaethau
Mae'r Prif Ysgoloriaethau werth £3000, ac ar gael i fyfyrwyr sy'n llwyddo yn arholiad mynediad Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ac yn ymrwymo i astudio 80 credyd o'u cwrs yn Gymraeg bob blwyddyn.
Ysgoloriaethau Cymhelliant
Mae'r Ysgoloriaethau Cymhelliant werth £1500, ac ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio 40 credyd o'u cwrs yn Gymraeg bob blwyddyn mewn unrhyw bwnc lle mae modd gwneud hynny.
Aelodaeth
Mae croeso i unrhyw un ddod yn aelod o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a hynny yn rhad ac am ddim. Trwy ymaelodi, byddwch yn derbyn gwybodaeth am holl weithgareddau a datblygiadau'r Coleg.
Mae pedwar categori o aelodaeth:
- Darpar fyfyrwyr
- Myfyrwyr Prifysgol
- Staff Prifysgol
- Cyfeillion
Bydd pawb sy’n ymaelodi fel myfyriwr neu fel aelod staff hefyd yn dod yn aelod o Gangen Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ.
Tystysgrif Sgiliau Iaith
Mae cyfle i bob myfyriwr sy'n aelod o'r Coleg ymgeisio am Dystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg. Mae'r dystysgrif yn ffordd o ddangos i gyflogwyr fod gan y myfyrwyr hynny sgiliau ieithyddol cydnabyddedig yn y Gymraeg, a'u bod yn gallu cyfathrebu ac ysgrifennu'n hyderus yn y Gymraeg.
Er mwyn ennill y dystysgrif, mae'n rhaid cwblhau a phasio:
- Arholiad ysgrifenedig (1.5 awr)
- Tasg lafar (15 munud)
Mae sesiynau cefnogaeth ieithyddol ar gael i bawb sydd eisiau sefyll y dystysgrif. Ym Mangor, mae'r gefnogaeth yn cael ei darparu gan diwtoriaid Uned Gloywi Iaith Canolfan Bedwyr.
Mae’n bosib i unrhyw fyfyriwr ymgeisio am y dystysgrif.
Porth Adnoddau
Llwyfan e-ddysgu cydweithredol y Coleg yw’r . Fe’i sefydlwyd yn 2009 er mwyn annog Prifysgolion i rannu adnoddau addysgu cyfrwng Cymraeg â’i gilydd. Yn sgil hynny, mae wedi datblygu yn ffocws hollbwysig ar gyfer astudio ac addysgu cyrsiau Prifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.
²Ñ²¹±ð’rÌýyn seiliedig ar Blackboard, ac yn agored i staff a myfyrwyr yn holl brifysgolion Cymru.
Mae’n cynnwys:
- adnoddau a deunyddiau electronig
- oriel gwe
- modiwlau a deunyddiau cefnogol
- porth chwiliadwy o dermau ar gyfer addysg uwchÂ
Er bod y yn cynnwys nifer o adnoddau agored, mae angen cofrestru fel defnyddiwr er mwyn cael mynediad at rai adnoddau (e.e. modiwlau penodol).
Mae'r broses o gofrestru fel defnyddiwr yn rhwydd -dilynwch y cyfarwyddiadau ar dudalen flaen.
Emily Boyman, Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, Gwynedd, LL57 2DG.