Mae Mishca Burrows, myfyriwr Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 wedi ennill Gwobr Ffuglen Dystopaidd Cymdeithas Orwell 2023.
Mae鈥檙 wobr yn cael ei chyflwyno鈥檔 flynyddol gan The Orwell Society ac yn cydnabod ffuglen dystopaidd hynod wreiddiol gan awdur ifanc.
Ymysg y panel beirniaid mae mab George Orwell, Richard Blair, Noddwr The Orwell Society, Ann Kronbergs, Ymddiriedolwr Addysg y Gymdeithas, Luke Seaber, Uwch Gymrawd Dysgu yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain a Nicola Rossi, awdur ffuglen dystopaidd arobryn a ddaeth yn ail yng Ngwobr Ffuglen Dystopaidd y Gymdeithas.
Wrth asesu鈥檙 cynigion yn ddienw, cytunodd y panel beirniaid yn unfrydol fod stori fer Mischa, Banana Republic, yn sefyll allan am ei pherthnasedd cyfoes a鈥檙 ffordd y mae鈥檔 ymdrin 芒 phryderon protestiadau gwleidyddol y genre dystopaidd.
Gan ymateb i鈥檙 stori fuddugol, meddai鈥檙 beirniad Nicola Rossi, sydd ei hun yn ysgrifennwr ffuglen dystopaidd arobryn, bod y stori yn dangos:
听
鈥鈥ywyd yn y dyfodol agos o safbwynt gweithiwr llaw ynysig mewn canolfan gyflawni dystopaidd. [Mae鈥檙 awdur] yn cymhwyso llawer o drosiadau 1984 i senario gredadwy, gyfoes. Mae鈥檔 adeiladu byd yn effeithiol gan gynnwys amodau byw difrifol, totalitariaeth a phrinder bwyd a d诺r. Cynigir ychydig o obaith trwy ffigwr y plentyn cyn ei chwalu'n greulon. Diweddglo cryfaf a mwyaf erchyll o'r holl gystadleuwyr. Teitl gwych...
听
听
Derbyniodd Mishca鈥檙 wobr gyntaf o 拢750 a thlws, sef penddelw o George Orwell, yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Orwell yn Llundain ar ddydd Sadwrn Ebrill 22ain.
Dywedodd Mishca, 鈥淒oeddwn i erioed yn meddwl y byddai鈥檔 bosib i mi ennill Gwobr Ffuglen Dystopaidd Cymdeithas Orwell. Cyflwynais fy stori gan ddisgwyl clywed dim byd yn 么l, ac yn sicr rwyf wrth fy modd i fod yn anghywir! Mae ennill y wobr hon yn nodi fy nghyhoeddiad cyntaf erioed, ac mae wedi rhoi cymaint o hyder i mi. Rydw i mor gyffrous fy mod i wedi ennill, ac mae鈥檔 teimlo fy mod i鈥檔 cymryd fy nghamau cyntaf i fyd rydw i wastad wedi bod eisiau bod yn rhan ohono.鈥
听
Mae鈥檙 gymuned gyfan o staff a myfyrwyr yn yr adran Ysgrifennu Creadigol, Llenyddiaeth Saesneg, Ffilm, Newyddiaduraeth a鈥檙 Cyfryngau yn llongyfarch Mishca yn gynnes ar y wobr fawreddog a haeddiannol yma. Mae鈥檔 wych gweld myfyrwyr israddedig ar ein cyrsiau yn dod yn ymarferwyr creadigol hyderus, sy鈥檔 defnyddio eu dawn i ymdrin 芒 chwestiynau cymdeithasol a gwleidyddol mewn ffyrdd gwreiddiol. Mae cyflawniad gwych Mischa wir yn amlygu鈥檙 hyn sy鈥檔 bosibl pan fydd myfyrwyr yn astudio Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol gyda ni.
听
听
I gael rhagor o wybodaeth am astudio Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, cliciwch yma