Enw: Gill Roberts & Heather Bloodworth
Swydd: Darlithwyr
Adran:听Gwyddorau Iechyd
Offeryn(nau) a ddefnyddiwyd:听Byrddau trafod fel blogiau
Beth wnaeth eich ysbrydoli neu eich ysgogi i ddefnyddio'r offeryn/adnodd hwn?听
Yn yr oes 么l-COVID, bu symudiad amlwg, yn enwedig ymhlith comisiynwyr, tuag at gynnig mwy o fodiwlau a chyrsiau dysgu o bell. Mae'r newid hwnnw鈥檔 adlewyrchu galw cynyddol am lwybrau dysgu hyblyg sy'n darparu ar gyfer amserlenni a lleoliadau amrywiol y gweithwyr proffesiynol. Fodd bynnag, perodd y newid hwnnw gyfyng-gyngor inni fel darlithwyr: sut mae cyflwyno profiad addysgol trawsnewidiol sy'n cynnig mwy na throsglwyddo gwybodaeth. Gwyddem fod angen inni gynllunio cyrsiau a oedd yn meithrin ymgysylltiad dwfn a meddwl beirniadol yn ogystal 芒 sicrhau amgylchedd diogel, cefnogol a oedd yn annog datblygiad proffesiynol parhaus. Gydag offer digidol arloesol fel bwrdd trafod Blackboard Ultras a dulliau addysgegol priodol, rydym wedi creu profiad dysgu effeithiol sy鈥檔 canolbwyntio ar y myfyriwr a oedd yn cynnal safonau uchel o addysg yn y cnawd.听
Beth oedd eich nod wrth ddefnyddio鈥檙 offeryn/adnodd hwnnw?听
Y nod wrth gyflwyno byrddau trafod i flogiau modiwlau oedd creu cymuned o ddysgwyr a rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr wella eu hysgrifennu academaidd trwy rannu gwybodaeth am bynciau sy鈥檔 cael eu sbarduno gan fyfyrwyr. Cyflawnodd yr offeryn hynny鈥檔 llwyddiannus, gan fod myfyrwyr nid yn unig yn ymgysylltu鈥檔 frwd 芒鈥檙 byrddau trafod/blogiau. Dangosasant welliannau amlwg hefyd o ran eglurder ysgrifennu, meddwl beirniadol, ac archwilio pynciau. Roedd myfyrwyr o'r farn bod yr adnodd yn fuddiol ar gyfer adborth gan gymheiriaid a dysgu cydweithredol. O safbwynt y darlithwyr, roedd y bwrdd trafod yn hawdd ei weithredu, ei reoli a鈥檌 asesu, ac roedd yn cynnig llwyfan werthfawr ar gyfer asesu parhaus a chipolwg ar gynnydd y myfyrwyr.听
I ba ddiben wnaethoch chi ddefnyddio'r offeryn/adnodd?听 听
Gwnaed y penderfyniad i integreiddio byrddau trafod fel blogiau i gyfoethogi gweithgareddau addysgu a hwyluso asesiadau crynodol mewn modiwlau. Nod y dull hwnnw oedd meithrin cyfathrebu ystyrlon rhwng staff a myfyrwyr mewn gofod rhyngweithiol ar y cydr, a meithrin ymdeimlad cryf o gymuned ym mhob modiwl. Cafodd y byrddau trafod eu strwythuro i arwain y myfyrwyr trwy asesiad parhaus gam wrth gam, a galluogi ymgysylltiad parhaus ac amgylchedd dysgu deinamig lle gallai myfyrwyr ddangos dealltwriaeth mewn amser real.听
Roedd y darlithwyr o鈥檙 farn bod y byrddau trafod yn hawdd ac yn reddfol i鈥檞 sefydlu a鈥檜 rheoli, a鈥檜 bod yn offeryn effeithlon at ddibenion adborth ffurfiannol ac asesu.听
Sut effeithiodd yr offeryn/adnodd ar eich addysgu?听
Bu鈥檙 defnydd ar blogiau trwy fyrddau trafod yn arbennig i fodiwlau dysgu o bell, yn fodd i feithrin amgylchedd mwy rhyngweithiol sy鈥檔 canolbwyntio ar y myfyriwr. Roedd y dull hwnnw鈥檔 fodd inni olrhain ymgysylltiad a chynnydd y myfyrwyr mewn amser real, a鈥檌 gwneud yn haws nodi meysydd lle gallai fod angen cefnogaeth ychwanegol ar fyfyrwyr. Esblygodd r么l y darlithydd o gyflwyno cynnwys yn bennaf i weithredu fel hwylusydd, arwain trafodaethau, a meithrin meddwl beirniadol.听
I鈥檙 myfyrwyr, roedd y blogiau鈥檔 cynnig gofod strwythuredig ar gyfer ymgysylltu cyson 芒鈥檙 deunydd, a fu鈥檔 fodd cryfhau eu sgiliau ysgrifennu academaidd a dadansoddi. Roedd y fformat hwnnw hefyd yn annog y myfyrwyr i rannu syniadau a rhoi adborth gan gymheiriaid yn fwy cyfforddus, gan wella eu hyder a dyfnder eu dealltwriaeth.听
O ystyried y canlyniadau cadarnhaol, roedd ehangu'r defnydd o flogiau i听 fodiwlau ychwanegol i鈥檞 weld yn briodol.听
Pa mor dda y perfformiodd yr offeryn/adnodd. A fyddech chi'n ei argymell?听
Mae blogiau mewn byrddau trafod yn cynnig ffordd o wella ymgysylltiad y myfyrwyr a meithrin cymuned o fewn y modiwl. Maent yn cynnig llwyfan hwylus i ddeialog barhaus, i鈥檙 myfyrwyr ddyfnhau eu dealltwriaeth trwy ryngweithio 芒 chyfoedion a hunanfyfyrio. I鈥檙 darlithwyr, symleiddiodd yr offeryn yr asesu parhaus, a鈥檌 gwneud yn hawdd monitro cynnydd ac ymgysylltiad y myfyrwyr mewn amser real. Efallai y bydd yr offeryn hwn yn arbennig o werthfawr i gydweithwyr mewn modiwlau lle mae meddwl yn feirniadol, adfyfyrio neu ddysgu ar y cyd yn hanfodol.听
Fodd bynnag, mae rhai cyfyngiadau. Gall myfyrwyr sy'n anghyfarwydd ag ysgrifennu academaidd neu sy'n amharod i rannu mewn fforymau cyhoeddus deimlo'n ofnus oherwydd y fformat, a all rwystro cyfranogiad llawn. Yn ogystal, yn aml mae angen anogaeth gychwynnol gan gyfoedion i annog eraill i ddechrau blogio, gan greu datblygiad arloesol i ymgysylltiad ehangach ymhlith y myfyrwyr. Mae effeithiolrwydd yr offeryn hwn hefyd yn dibynnu'n fawr ar hwyluso a monitro gweithredol gan y darlithydd, a all gymryd llawer o amser. I fynd i鈥檙 afael 芒 hynny, rydym yn aml yn defnyddio dull cylchol, lle mae darlithwyr gwahanol yn cymryd eu tro yn hwyluso鈥檙 blogiau ac yn rhoi adborth bob wythnos.听
Sut groeso gafodd yr offeryn/adnodd gan y myfyrwyr?听
I ddechrau, roedd gan rai myfyrwyr amheuon yngl欧n 芒 defnyddio'r offeryn, yn enwedig y rhai a oedd yn wannach o ran eu hysgrifennu academaidd. Fodd bynnag, cafodd yr heriau hynny eu goresgyn i raddau helaeth oherwydd y gofynion o ran cyfrif isel y geiriau a'r adborth cefnogol a gafwyd gan gyfoedion a darlithwyr. Dros amser, dechreuodd y myfyrwyr gofleidio'r blogiau, a鈥檜 cael yn ddiddorol ac yn ddefnyddiol ar gyfer cyfathrebu. Roedd y blogiau鈥檔 hwyluso cysylltiadau ymhlith y myfyrwyr ac roeddent hefyd yn elfen werthfawr o'u proses asesu.听
Er bod anawsterau ar y dechrau, helpodd yr amgylchedd cefnogol feithrin ymgysylltiad, a dywedodd llawer o fyfyrwyr eu bod yn teimlo'n fwy cyfforddus yn cyfranogi wrth i'r modiwl fynd rhagddo. Ar y cyfan, cafodd y profiad hwn ddylanwad cadarnhaol ar eu hymwneud nhw 芒'r cwrs, gan gyfrannu at awyrgylch cydweithredol yn y modiwlau.听
Rhannwch 'Awgrym Da' i gydweithiwr sy'n newydd i'r offeryn/adnodd听
Byddwch yn drefnus trwy ddelio 芒'r postiadau wythnosol, oherwydd gall y nifer fynd yn llethol yn gyflym os na fydd neb yn delio 芒 nhw. O'r cychwyn cyntaf, byddwch yn glir ynghylch disgwyliadau o ran nifer y geiriau, ieithwedd, cyfrinachedd (os yw'n berthnasol), a naws academaidd. Yn ogystal, rhowch wybodaeth fanwl am ddyddiadau pwysig, megis y dyddiad cychwyn ac unrhyw derfynau amser, i helpu鈥檙 myfyrwyr reoli eu cyfraniadau鈥檔 effeithiol.听
Deunyddiau darllen a argymhellir:听
Boltivets,S. Acharya, S. & Santos, A. (2018) Educational blogging: Implications, benefits and challenges to pedagogical practice. Psychreg Journal of Psychology, Volume 2, Number 2听
听
Cyswllt am ragor o wybodaeth:听
Gill Roberts hssa21@bangor.ac.uk听
Heather Bloodworth hssc01@bangor.ac.uk听
听