Beth wnaeth eich ysbrydoli neu eich ysgogi i ddefnyddio'r offeryn/adnodd hwn?
Mewn addysg uwch dim ond tua 50% o fyfyrwyr sy'n cyrchu adborth mewn gwirionedd, ac o'r rhai sy'n gwneud hynny, dim ond canran lai sy'n gallu ei ddefnyddio i wella eu gwaith. Mae hyn yn golygu bod adborth yn aml yn wastraff enfawr o adnoddau. Mae hyn oherwydd bod adborth ysgrifenedig traddodiadol ar ysgrifennu myfyrwyr yn aml yn brin o'r dyfnder a'r eglurder sydd ei angen ar gyfer defnydd effeithiol, ac yn aml, nid yw'n cael ei werthfawrogi gan fyfyrwyr. Mae sgrin-ddarlledu, yn caniat谩u adborth manylach, cyd-destunol ac yn cymryd llawer llai o amser (ar 么l i chi ddod i arfer ag ef), ond gall fod yn drosglwyddiad un ffordd o hyd. Cefais fy ysgogi gan yr angen i wneud adborth sgrin-ddarlledu yn fwy rhyngweithiol a myfyriwr-ganolog, a cheisio grymuso myfyrwyr yn eu dysgu eu hunain o brosesau adborth.听
Beth oedd eich nod wrth ddefnyddio鈥檙 offeryn/adnodd hwn?
Fy nod oedd rhoi adborth ffurfiannol i ddysgwyr ar ddrafft cyntaf i wella dealltwriaeth myfyrwyr o adborth, cefnogi galluedd myfyrwyr wrth weithredu yn y broses adborth, ac yn y pen draw gwella eu sgiliau dysgu, ysgrifennu ac adolygu. Roeddwn i eisiau creu amgylchedd adborth dialog lle mae myfyrwyr yn cymryd rhan weithredol ac yn cyd-adeiladu gan olygu cymryd rheolaeth dros eu prosesau dysgu eu hunain. Er mwyn gwneud hyn mewn llawer o achosion, rwy鈥檔 lleihau maint yr asesu鈥檔 gyffredinol, ac yn ceisio cynnwys cyfleoedd ar gyfer adborth gan gymheiriaid, adborth a hunan-gynhyrchir (hunan-asesiad, gweler Wood a Pitt, 2024) a graddau ar gyfer adfyfyrio ar y broses o ddysgu a defnyddio adborth.
I ba ddiben wnaethoch ddefnyddio'r offeryn/adnodd?
Defnyddiais Loom i recordio sgrin-ddarllediadau wrth roi adborth ar draethodau myfyrwyr. Defnyddiodd y myfyrwyr Google Docs i wneud ceisiadau cychwynnol am adborth cyn y sgrin-ddarllediad ac yna i ddechrau deialog gyda fi, wedi鈥檙 sgrin-ddarllediad, am y nifer a fanteisiodd ar y cyfle, rhag ofn bod ganddynt unrhyw gwestiynau neu rhag ofn bod unrhyw broblemau gyda鈥檙 adborth.听
A oedd yr offeryn yn hawdd neu'n reddfol i'w ddefnyddio?
Mae Loom a Google Docs yn hawdd eu defnyddio ac nid oes angen llawer o arbenigedd technegol arnynt. Roedd integreiddio'r ddau offeryn yn ddi-drafferth, a oedd yn ei gwneud yn bosib cael llif gwaith diffwdan. Mae MS Word hefyd yn eithaf hawdd. Buaswn yn hapus cynnig gweithdai i adrannau ar sut i ddechrau.听
Sut effeithiodd yr offeryn/adnodd ar eich addysgu?
Roedd y dull deialog o ddarlledu ar sgrin yn fy ngalluogi i gael mewnwelediad dyfnach i ddealltwriaeth myfyrwyr o'r adborth a'u prosesau adolygu. Roedd hefyd yn meithrin amgylchedd dysgu mwy cydweithredol a chefnogol ac yn caniat谩u proses ddysgu a oedd yn wirioneddol yn canolbwyntio ar y myfyriwr.
Beth oedd canlyniad defnyddio'r offeryn hwn i鈥檓 myfyrwyr?
Soniodd myfyrwyr am well dealltwriaeth a defnydd o adborth, mwy o alluedd wrth geisio adborth a chael eglurhad ohono, a mwy o gymhelliant i ymgysylltu ag adborth a'i ddefnyddio. Fe wnaethant hefyd arddangos diwygiadau mwy sylweddol yn eu gwaith, ac fe wnaeth fy adborth i fyfyrwyr wella ac roedd yn gyson uchel (rhwng 4.6 a 5 allan o 5 - fel rheol yn 4.8 neu 5 wrth addysgu mewn prifysgol yn y safle uchaf yn Ne Corea - Prifysgol Genedlaethol Seoul).
Pa gyfleoedd y mae hyn yn eu darparu ar gyfer gwella addysgu?
Gellir defnyddio sgrin-ddarlledu ar draws disgyblaethau i hybu dysgu gweithredol, meddwl yn feirniadol, a sgiliau hunanreoleiddio. Gall hefyd helpu i feithrin perthynas gryfach rhwng athrawon a myfyrwyr a meithrin ymdeimlad o gymuned mewn cyrsiau ar-lein neu gyrsiau cyfun, yn enwedig os caiff ei ddefnyddio ar gyfer adborth gan gymheiriaid (gweler Wood, 2022 a Wood 2024).
A oedd unrhyw dystiolaeth/data gwrthrychol yn dangos y canlyniad/effaith?
Defnyddiodd yr astudiaeth ddull astudiaeth achos ansoddol, gan gynnwys myfyrdodau myfyrwyr, arolygon, a chyfweliadau. Er nad yw'n feintiol iawn, roedd y data'n gyson yn dangos effeithiau cadarnhaol ar ddealltwriaeth, galluedd a chymhelliant myfyrwyr. Er nad yw'n rhan benodol o'r erthygl yn y cyfnodolyn oherwydd cyfyngiadau gofod, dangosodd data myfyrwyr fod y rhan fwyaf o fyfyrwyr wedi gwneud newidiadau sylweddol i'w gwaith a arweiniodd at o leiaf gynnydd mewn gradd, ac weithiau, cynnydd 2 radd o'r drafft terfynol cyntaf. Mae'r canlyniad hwn hefyd wedi bod yn gyson 芒 myfyrwyr MA rhyngwladol ym Mangor. Mewn un enghraifft ddiweddar aeth myfyrwraig o B- ar ddrafft i A+ ar y drafft terfynol ac yn awr mae'n dymuno i mi ei goruchwylio ar gyfer ei PhD ym Mangor.听
A oes gennych unrhyw anecdotau neu ddyfyniad cofiadwy gan fyfyriwr neu gydweithiwr i'w rhannu am y profiad?
O ran adborth y sgrin-ddarllediad ei hun, roedd myfyrwyr yn teimlo ei bod yn haws deall adborth y sgrin-ddarllediad gan fod sgrin-ddarllediadau yn fodd o ddarparu mwy o wybodaeth:听
鈥淕all Loom ddangos beth sydd o鈥檌 le, pam ei fod yn anghywir, a sut i wella. Bydd yn well gwneud fel hyn neu awgrymu traethawd y llall gyda鈥檙 monitor.鈥澨
Mae鈥檙 pwynt hwn yn cyfeirio at y ffaith y gall athrawon ddangos y meini prawf asesu ar y sgrin neu gyfeirio at enghreifftiau sy鈥檔 dangos i fyfyrwyr sut i wella rhai agweddau o鈥檜 gwaith.听
鈥淥herwydd bod adborth Loom wedi rhoi cyfeiriad cliriach i mi ar yr hyn yr oeddwn i fod i鈥檞 newid a chanolbwyntio arno ar gyfer fy nrafft nesaf, roedd yn haws gosod nodau.鈥
Soniodd myfyrwyr hefyd am agweddau emosiynol a dweud bod sgrin-ddarlledu yn rhoi teimlad o 'gysylltiad', ei fod yn 'gysurlon' a鈥檌 fod yn 'llai pell' a'i fod yn teimlo fel y peth agosaf at oriau swyddfa neu gael 'un i un'. Roedd hyn hefyd yn ysgogi ymgysylltiad 芒鈥檙 adborth o safbwynt perthynol:听
鈥淕allwch weld yr athro wedi gwneud cymaint o ymdrech fel eich bod yn teimlo bod angen i chi ad-dalu drwy wneud yr un ymdrech鈥.听
鈥淩oedd yn teimlo bod fy ngwaith yn wirioneddol bwysig i rywun a oedd yn wirioneddol yn poeni amdano. Fe wnaethoch chi dreulio amser ar fy ngwaith, er mwyn ei wella, gallwn i deimlo hynny鈥
鈥淒w i鈥檔 gwybod yn llythrennol eich bod chi wedi gweld pob brawddeg yn fy ngwaith, ac wyddoch chi, mae hynny鈥檔 fy ngwneud i鈥檔 fwy ffyddiog. Gallaf wybod faint o amser rydych chi wedi'i gymryd, a gwn eich bod wedi gweld pob brawddeg鈥 Gwnaeth hynny i mi feddwl, 'ydw i'n haeddu hyn?'. Hyd yn oed yn y brifysgol, dydw i ddim wedi teimlo fy mod i wedi cael cymaint o anwyldeb 芒 hyn.鈥澨
O ran y cyfleoedd ar gyfer deialog a gynigir gan Google Docs, esboniodd myfyrwyr ei fod yn agor gofod dysgu am ddeialog:听
鈥淥s nad oeddwn yn deall rhywbeth yn y fideo, gallwn fynd i Drive a gadael sylw (tagio鈥檙 athro) yn gofyn am eglurhad pellach鈥
Myfyriodd un myfyriwr, "Trwy ddeialog gyda'r athro, gallwn fyfyrio ar yr adborth a'i ddatblygu ac yn y pen draw wella fy ysgrifennu." Mae hyn yn amlygu p诺er rhyngweithio deialogaidd yn y broses adborth.
Soniodd eraill am fod yn fwy parod i ofyn cwestiynau oherwydd ei fod trwy Google docs: 鈥Os byddaf yn defnyddio e-bost, mae'n teimlo'n fwy ffurfiol i mi, felly rwy'n teimlo'n fwy amharod i anfon e-bost, ond yna os gwnewch hynny ar Google docs, mae'n teimlo'n fwy anffurfiol, felly rydych chi'n fwy parod i anfon sylw.鈥澨
Yn olaf, dangosodd rhai myfyrwyr y gallu i ail-edrych ar eu gwaith yn dilyn y broses adborth, ac fe wnaeth y trafodaethau dilynol eu helpu i ddeall yr angen am newid cyn gwneud y newid:听
听
Ar y cyfan, gofynnwyd wyth math o gwestiwn gan gynnwys ceisiadau cychwynnol am adborth, egluro dealltwriaeth, ceisio mwy o adborth, gwirio gwelliannau, herio, neu wrthod adborth, gofyn cwestiynau technegol neu gynnwys neu gynorthwyo prosesau adolygu cymheiriaid. Gofynnodd 56% o fyfyrwyr gwestiynau gyda chyfartaledd o 2.5 cwestiynau i bob myfyriwr. Roedd llawer iawn o dystiolaeth bod llawer o鈥檙 myfyrwyr wedi gosod eu hunain fel yr asiantau allweddol yn eu dysgu eu hunain o brosesau adborth, eu bod wedi dod i ddeall adborth (gweler Carless a Boud, 2018) ac wedi datblygu sgiliau barn trosglwyddadwy. Mae鈥檙 canlyniadau hyn hefyd yn gyson 芒 thraethawd hir fy myfyrwyr (mewn paratoadau) sy鈥檔 dangos canlyniadau tebyg iawn gyda myfyrwyr rhyngwladol ar gwrs MA Astudiaethau Addysg 香港六合彩挂牌资料 lle defnyddiais ddulliau tebyg. Mae ei chanlyniadau'n canolbwyntio ar drawsnewid myfyrwyr rhyngwladol fel dysgwyr annibynnol trwy ddod i gysylltiad 芒 dulliau o'r fath.听
Pa mor dda y perfformiodd yr offeryn/adnodd. A fyddech chi'n ei argymell?
Perfformiodd Loom a Google Docs yn arbennig o dda. Rwy'n argymell y dull sgrin-ddarlledu deialogaidd hwn yn fawr ar gyfer addysgwyr sydd am greu proses adborth fwy rhyngweithiol ac effeithiol. Gellir defnyddio MS Word yn yr un modd, ond mae'n ymddangos bod mwy o fyfyrwyr ac athrawon yn cael trafferth gyda system ganiat芒d MS Word, felly bydd angen sgaffaldiau. Gall myfyrwyr hefyd adael negeseuon yn uniongyrchol ar eu fideos Loom y gellir eu cyflwyno i fyfyrwyr trwy bostio dolenni i'w cyflwyniadau Turnitin neu gyflwyniadau fforwm. Yn fy ngwaith gyda nifer fawr o fyfyrwyr rhyngwladol symudais i ddull dalen glawr rhyngweithiol fel y gall myfyrwyr gychwyn ceisiadau adborth y gallaf eu hateb yn fy adborth sgrin-ddarllediad. Roedd hyn hefyd yn effeithiol ac yn gynaliadwy o ran llwyth gwaith.听
Arfarniad a gwerthusiad beirniadol o'r offer a'r dull addysgeg:
- Cryfderau: Mae鈥檔 hybu galluedd myfyrwyr, yn gwella dealltwriaeth o adborth, yn cefnogi diwygiadau sylweddol, yn meithrin perthynas gadarnhaol rhwng athrawon a myfyrwyr.
- Cyfyngiadau: Mae angen amser ychwanegol ar gyfer rhyngweithiadau deialogaidd, efallai na fydd yn addas ar gyfer pob cyd-destun dysgu neu鈥檙 hyn sydd orau gan fyfyrwyr. Gall ddangos emosiynau cadarnhaol ond hefyd siom a rhwystredigaeth y marciwr. Rwy'n argymell gadael y fideo ymlaen ar gyfer y cyflwyniad a鈥檙 casgliad, ond ei ddiffodd i farcio'r cynnwys gwirioneddol, yn enwedig ar gyfer myfyrwyr gwannach oherwydd gall iaith y corff a mynegiant yr wyneb ddangos siom. Gall fod yn fwy heriol hunan-sensro neu gyflwyno adborth negyddol mewn ffyrdd adeiladol gyda charfannau mawr o fyfyrwyr gwan iawn, yn enwedig os oes materion yn ymwneud ag uniondeb academaidd.听
- Argymhelliad: Argymhellir hyn yn gryf i addysgwyr sy'n ceisio gwella ansawdd adborth ac ymgysylltiad myfyrwyr.
听
Pa mor dda gafodd yr offeryn/adnodd ei dderbyn gan fyfyrwyr?
Croesawodd y myfyrwyr y dull yn frwdfrydig. Roeddent yn gwerthfawrogi'r cyfle i gymryd rhan weithredol yn y broses adborth ac fe wnaethant ganfod yr offer yn hawdd i'w defnyddio.
Rhannwch 'Awgrym Da' ar gyfer cydweithiwr sy'n newydd i'r offeryn/adnodd
Dechreuwch drwy sgaffaldio llythrennedd adborth a derbynioldeb ymhlith myfyrwyr trwy drafod eich hanes adborth eich hun gyda nhw a gofyn iddynt siarad am eu hanes nhw. Eglurwch bwrpas a phroses adborth ffurfiannol a sgrin-ddarllediadau deialogaidd yn glir. Anogwch y myfyrwyr i ofyn cwestiynau a chymryd rhan weithredol yn y deialogau adborth, yn ddelfrydol, gyda'u cyfoedion yn gyntaf, ac yn ddiweddarach ar y cam drafft cyntaf gyda'r athro.
Sut byddwn chi'n crynhoi'r profiad mewn 3 gair?
Rhyngweithiol, grymusol, effeithiol.
Deunyddiau darllen a argymhellir:
Deunyddiau darllen:
- Carless, D., & Boud, D. (2018). The development of student feedback literacy. Assessment & Evaluation in Higher Education, 43(8), 1315-1325.
- Wood, J. (2023). Enabling feedback seeking, agency and uptake through dialogic screencast feedback. Assessment & Evaluation in Higher Education, 48(4), 464鈥484. https://doi.org/10.1080/02602938.2022.2089973
Deunydd darllen cysylltiedig:听
- Wood, J. (2022). Making peer feedback work: the contribution of technology-mediated dialogic peer feedback to feedback uptake and literacy. Assessment & Evaluation in Higher Education, 47(3), 327鈥346. https://doi.org/10.1080/02602938.2021.1914544
- Wood, J. M. (2024). Supporting the uptake process with dialogic peer screencast feedback: a sociomaterial perspective. Teaching in Higher Education, 29(4), 913鈥935. https://doi.org/10.1080/13562517.2022.2042243
- Wood, J., & Pitt, E. (2024). Empowering agency through learner-orchestrated self-generated feedback. Assessment & Evaluation in Higher Education, 1鈥17. https://doi.org/10.1080/02602938.2024.2365856
Webinar听cysylltiedig:听
Yn yr Ysgol Addysg, rydym wrthi鈥檔 ehangu鈥檙 astudiaeth hon gyda gwirfoddolwyr ar draws yr adran.听I gael dealltwriaeth fanylach o'r astudiaeth:听
Gweminar Addysg wedi鈥檌 Gyfoethogi鈥檔 Ddigidol gyda Phrifysgol Caint:
Contact for more information:
I gael rhagor o wybodaeth, gallwch gysylltu gyda James ar听j.wood@bangor.ac.uk.