Braf oedd darllen y blog diweddaraf gan Gareth Newman ar y tudalennau yma. Roeddwn i ym Mangor ar ddiwedd y 1960au ac yn cofio ei arwain yn y gerddorfa ar gyfer cynyrchiadau y Gymdeithas G&S o ‘The Sorcerer’ ac ‘H.M.S. Pinafore’ tra roedd yn dal yn yr ysgol - dyddiau difyr!
Fe ddes i Fangor yn syth o’r ysgol, gyda dim ond gradd A yn Lefel A a gradd chwech gyda theilyngdod ar yr obo, ond cefais groeso cynnes gan nad oeddent wedi cael chwaraewr obo ers blynyddoedd lawer. Roeddwn yn yr un grŵp B.Mus â’r enwog Gwyn L Williams (yr oedd ei ganu trymped gwych wedi fy syfrdanu o’r diwrnod cyntaf!) ac yn gyflym ymunais â chymaint o grwpiau ag y gallwn.
Yn fy nhymor cyntaf cefais y cyfle i berfformio 'Moods' mewn cyngerdd oedd yn rhoi llwyfan i gyfansoddiadau gan fyfyrwyr. Cyfres o ddarnau ar gyfer yr obo a’r piano oedd y gwaith hwn yr oeddwn wedi ei gyfansoddi yn y chweched dosbarth. Yn ystod fy nhymor cyntaf hefyd ymunais â’r gerddorfa achlysurol ar gyfer cyngerdd a drefnwyd gan y darlithydd John Hywel. Y gwaith dan sylw oedd concerto Mozart ar gyfer y ffliwt a’r delyn, ac yn y cyngerdd hwn cyfarfûm â Thelynores Dyfrdwy, Ceinwen Roberts (sy’n dal yn ffrind da iawn) a gytunodd i’m cymryd o dan ei hadain fel ei disgybl telyn cyntaf. Roeddwn wedi gweld bocs telyn hynafol yn llechu yng nghefn yr ystafell gerddoriaeth wrth chwilota yn ystod Wythnos y Glas, a rhoddodd yr Athro Reginald Smith Brindle ganiatâd i mi adfer y delyn gothig o’r 19eg ganrif i gyflwr yr oedd modd ei chanu.Ìý
Trefnodd yr adran gerddoriaeth i mi deithio i Fanceinion ar gyfer gwersi obo gyda myfyrwyr uwch yn yr RNCM, ond gwersi achlysurol iawn oedd y rheini. Yn fy ail flwyddyn, ymunodd Russell McMahon â'r staff addysgu, a datblygodd fy ngallu gydag offerynnau corsen ddwbl yn llawer cyflymach. Blodeuodd fy nghanu telyn hefyd, a pherfformiodd Ceinwen a minnau fy Scherzetto (ar gyfer deuawd telyn) mewn cyngerdd arall a oedd yn llwyfannu cyfansoddiadau myfyrwyr. Ymgeisiais hefyd yn yr Eisteddfod ryng-golegol yn Aberystwyth a dod yn drydydd (allan o bump) yn y gystadleuaeth delyn agored, ar ôl llai na dwy flynedd o hyfforddiant! Yn fy ail flwyddyn, cofrestrais i gael gwersi piano hefyd, ond ni chefais fy ysbrydoli, er fy mod yn byw yn union gyferbyn â'r ystafelloedd ymarfer newydd yn y Cilgant.
Ìý
Ìý
Un o’r pethau mwyaf cyffrous am greu cerddoriaeth ym Mangor oedd yr amrywiaeth eang o gerddoriaeth newydd y deuthum ar ei draws.Ìý
Ìý
Cofiaf yn arbennig chwarae Symffoni Salmau Stravinsky (côr anglais, dyblu ar y picolo!) ac Appalachian Spring gan Copland. Sylwaf fod y dathliadau canmlwyddiant hyn ym Mangor yn cynnwys perfformiad o gyfansoddiad John Hywel The Seven Ages Of Man, a chofiaf yn dda fod yn y gynulleidfa ar gyfer y perfformiad cyntaf - yn Neuadd Powis, gyda John ei hun yn adroddwr.
Atgof melys arall yw'r rhan fwyaf o'r gymdeithas gorawl yn heidio’n un fflyd i’r tafarndai lleol ac yn dechrau morio’r Corws Haleliwia neu rywbeth cyffelyb mewn pedwar llais. Roedd cerddoriaeth fel petai’n llifo trwy waed y myfyrwyr, dim ots pa bwnc roedden nhw’n ei astudio – ond dyna Gymru i chi!
Meddyliais amdanaf fy hun yn bennaf fel cyfansoddwr a chreais bale 30 munud ar gyfer fy mlwyddyn olaf. Seiliwyd hwn ar ‘chwedl y llestri gleision’ ac roedd yn cynnwys cerddorfa gyda sacsoffonau soprano ac alto, telyn a selesta, ac yn cynnwys hefyd fy fersiwn i o ffiwgato wrth i’r darn nesáu at ei uchafbwynt.
Roedd fy nghaligraffi cerddoriaeth bob amser wedi bod yn dda ac atebais hysbyseb gan Stainer & Bell yn fy ail flwyddyn, gan arwain at rywfaint o arian poced defnyddiol fel copïwr yn paratoi gweithiau newydd i'w cyhoeddi. Roeddwn wedi meddwl efallai y byddwn yn gweithio ym myd cyhoeddi yn llawn amser, a hyd yn oed wedi cael cyfweliad yn S&B, ond yn y diwedd doedd gen i ddim cynlluniau penodol mewn golwg pan raddiais yn 1970.
Ychydig wythnosau ar ôl i mi adael Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, es i Ddiwrnod Sylfaenwyr fy hen ysgol ramadeg, a dywedodd y prifathro fod ganddo swydd wag yn yr adran gerddoriaeth ar gyfer athro gyda chyfrifoldeb am gerddoriaeth offerynnol. Ddeuddydd yn ddiweddarach, cefais gynnig y swydd yn fy hen ysgol, gyda llawer o fy ffrindiau o fy nyddiau yn fyfyriwr bellach yn y chweched dosbarth. Am gyfle! Arhosais yno am ychydig dros dair blynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw cwrddais â Sue, fy ngwraig, a’i phriodi. Yn gerddorol, des yn well a’r ganu’r fiola a chymerais fy arholiad obo gradd wyth a fy arholiad piano gradd saith ar yr un diwrnod (gan ennill rhagoriaeth yn y naill, a theilyngdod yn y llall, rhag ofn eich bod yn pendroni!)
Roedd rhoi gwersi offerynnau pres yn yr ysgol y tu hwnt i mi, felly fe wnaethom ni gyflogi Uwch-ringyll Band y Peirianwyr Brenhinol yn Chatham, a oedd yn ddigon hamddenol ei agwedd mae’n rhaid i'm temtio i ymrestru hefyd. Roedd gan y band bedwar oböydd yn barod, ond roedd y Cyfarwyddwr Cerdd newydd gael ei benodi i gymryd awenau Band HM Coldstream Guards yn Llundain, felly es i am glyweliad ac yn fuan cefais fy hun yn chwarae fy obo wrth newid y gard ym Mhalas Buckingham a Chastell Windsor! Roeddwn yn y band yn ystod y dathliadau Jiwbilî Arian yn 1977, a hefyd yn chwarae fiola yn ystod arwisgiadau a digwyddiadau seremonïol eraill.
Roeddwn yn dal i gyfansoddi a threfnu, a deuthum yn gopïwr swyddogol i'r band (roedd hyn yn y dyddiau ymhell cyn i raglen gyfrifiadurol ysgrifennu cerddoriaeth Sibelius gael ei dyfeisio). Perfformiodd y band nifer o fy nghyfansoddiadau a threfniannau yn eu cyngherddau, ac ar Friday Night Is Music Night (Radio 2) a Strike Up The Band (Radio 3). Cefais hefyd fy mhrofiad cyntaf o’r stiwdio recordio gyda nhw yn Maida Vale ac Abbey Road. Gwnaethant fy annog i gofrestru gyda’r Performing Right Society i sicrhau fy mod yn derbyn breindaliadau, a dechreuais hefyd gael comisiynau achlysurol.
Ar ôl pedair blynedd, roeddwn yn barod am newid a symudais i Ogledd Suffolk fel arbenigwr peripatetig offerynnau corsen ddwbl, er bod yn rhaid i mi ddysgu canu’r ffliwt, y clarinét a’r sacsoffon i mi fy hun mewn ychydig wythnosau. Dysgais yn ardal Lowestoft nes ymddeol yn gynnar yn 2006 – y saith mlynedd diwethaf yn Uwch Diwtor Chwythbrennau.
Ychydig flynyddoedd ar ôl i ni symud i Suffolk, roeddwn wedi cynilo digon o arian drwy ddysgu disgyblion preifat i brynu telyn arall ac yn raddol dechreuais ddysgu ar honno hefyd. Fe wnes i hunangyhoeddi rhai cyfansoddiadau telyn a ysgrifennwyd ar gyfer fy nisgyblion, ac mae’r rhain bellach yn cael eu cyhoeddi gan Spartan Press Ltd, ynghyd â gweithiau ar gyfer ensembles llinynnol, chwythbrennau ac offerynnau pres yr oeddwn wedi’u defnyddio wrth ddysgu. Mae llawer o’r darnau telyn wedi bod yn rhan o arholiadau Coleg y Drindod a’r ABRSM ers blynyddoedd lawer, a pharheais i ddatblygu fy sgiliau perfformio personol gan sefyll arholiad gradd wyth ar y basŵn a’r delyn (ar ôl ennill fy ARCM mewn addysgu obo pan oeddwn yn y fyddin).
Ar ôl ymddeol, cwblheais fy Sonata i'r Delyn (2010) ac rwy'n aros am y perfformiad cyntaf ym mis Hydref o Pipe Dreams ar gyfer triawd corsen ddwbl a cherddorfa linynnol, lle rwy'n bwriadu bod yn unawdydd côr anglais. Bydd Sue a minnau yn dathlu ein priodas aur yn 2022 ac nid yw’n teimlo'n bosib na wnaethom hyd yn oed gyfarfod tan dri mis ar ôl i mi raddio o Fangor! Cerddoriaeth fu fy holl fywyd a’m gyrfa ac rwy’n dragwyddol ddiolchgar i mi gael dechrau mor wych ym Mangor. Defnyddiais gyfnod clo'r hydref diwethaf i wella fy sgiliau piano, ac enillais ragoriaeth yn yr arholiad gradd wyth – ddim yn ddrwg i ddyn 73 oed ar ei bedwerydd offeryn!
Diolch yn fawr iawn, Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ.