Datblygodd gwyddonwyr a oedd yn gweithio yn y 50au a'r 60au ddamcaniaethau i ragweld dosbarthiad ecolegol rhywogaethau.听 Gellid cymhwyso'r damcaniaethau hyn ar draws ystod eang o amgylcheddau a newidynnau megis cyflenwad bwyd neu dymheredd, a phan gawsant eu profi ar raddfa fach, canfuwyd eu bod yn gywir. Ymhlith yr enghreifftiau cynharaf o'r damcaniaethau hyn mae'r ddamcaniaeth parthu riffiau cwrel sy'n esbonio sut mae gwahanol fathau o bysgod neu gwrelau er enghraifft i'w cael ar riffiau cwrel ar wahanol ddyfnderoedd.
Mae galluoedd cyfrifiadurol modern bellach wedi'i gwneud hi'n bosibl profi'r damcaniaethau hyn ar raddfa fwy, i weld a ydynt yn 'dal d诺r'.
I ddilysu鈥檙 model parthu dyfnder ar riffiau cwrel, fe wnaeth gwyddonwyr ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 a National Oceanic and Atmospheric Administration (NOAA) Llywodraeth yr Unol Daleithiau, dan arweiniad Dr Laura Richardson, o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料, gasglu data o 5525 o arolygon mewn 35 o ynysoedd y M么r Tawel. Mae eu gwaith wedi datgelu bod y model yn gywir ac yn gallu rhagweld dosbarthiad gwahanol rywogaethau pysgod yn 么l dyfnder, ond dim ond ar ynysoedd heb neb yn byw arnynt, lle na fu erioed ymyrraeth ddynol leol.
Mewn ynysoedd a riffiau lle roedd pobl yn byw, nid oedd y patrwm mor amlwg na rhagweladwy.听
Mae'r canfyddiadau felly'n awgrymu efallai nad yw ein hen 'fodelau' o fyd natur bellach yn ddilys yn wyneb effeithiau dynol cynyddol lleol.
Fel y mae鈥檙 prif awdur, Dr Laura Richardson o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, yn awgrymu,
鈥淢ae gwyddoniaeth yn gronnol, gan adeiladu ar waith y gorffennol. Nawr bod gennym fwy o alluoedd cyfrifiadurol, dylem fod yn profi'r damcaniaethau hyn a dderbynnir yn eang, ond nad ydynt wedi'u dilysu mewn gwahanol lefydd ar raddfa fawr. Yn ogystal, yn ystod y blynyddoedd ers hynny, mae effeithiau dynol ar yr amgylchedd wedi cynyddu i'r fath raddau fel nad yw'r modelau hyn yn rhagfynegi'r patrymau dosbarthiad ecolegol a welwn heddiw.
鈥淢ae hyn yn arwain at fwy o gwestiynau, am ddefnyddioldeb modelau a oedd yn cynrychioli byd y mae gweithgarwch dynol yn effeithio llai arno, a sut i feintioli neu fodelu ein heffaith ar yr amgylchedd naturiol.鈥
鈥淢ae鈥檙 canlyniadau鈥檔 dangos mai nawr yw鈥檙 amser i ystyried a ddylid cynnwys effeithiau dynol yn ein dealltwriaeth o鈥檙 byd naturiol heddiw, a sut i wneud hynny.鈥
,听Laura E. Richardson, Adel Heenan, Adam J. Delargy, Philipp Neubauer, Joey Lecky, Jamison M. Gove, J. A. Mattias Green, Tye L. Kindinger, Kurt E. Ingeman & Gareth J. Williams听https://doi.org/10.1038/s41559-023-02201-x