Cyflogaeth ac Iechyd Meddwl
Caryl Evans (Myfyriwr)
Nododd arolwg cenedlaethol Cymru 2022-2023 fod gan 87% o oedolion yng Nghymru lefel les meddwl isel neu ganolig, gan adael dim ond 13% o oedolion yng Nghymru â lles meddwl uchel. Mae’r ffigurau’n dangos mai oedolion ifanc, rhwng 16-24 oed yn bennaf, sy’n dioddef o les meddyliol isel.
Gan fod boddhad bywyd pandemig hefyd wedi gostwng o gymharu â blynyddoedd blaenorol, felly nawr ein bod 4 blynedd ar ôl y pandemig, sut mae cyflogwyr yn sicrhau bod iechyd meddwl a lles yn cael eu trin yn gyfartal i salwch corfforol neu anabledd a pha gymorth sydd ar gael i chi?
O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 rhaid i gyflogwyr drin iechyd corfforol a meddyliol yn gyfartal. Gellir ystyried rhai cyflyrau iechyd meddwl fel anabledd os yw’r symptomau’n ddifrifol mae hyn yn cynnwys iselder a phryder.
Gall iselder a phryder fod yn anabledd os ydych yn teimlo:-
- Mae eich iechyd meddwl yn cael ‘effaith andwyol sylweddol’ ar eich bywyd – gallai hyn gynnwys anallu i ganolbwyntio ar dasgau hir a gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd (nid dim ond eich gwaith).
- Mae'r symptomau wedi para neu disgwylir iddynt bara am fwy na 12 mis.
Nid oes angen i'r symptomau hyn fod drwy'r amser nac i gyd ar unwaith i gael eu hystyried yn anabledd.
Diogelu yn y Gweithle
O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 mae gan eich cyflogwr ‘ddyletswydd gofal’ i sicrhau bod eich amgylchedd gwaith yn ddiogel a’ch bod yn cael eich diogelu rhag gwahaniaethu.Ìý
Os ystyrir bod gennych anabledd, oherwydd eich iechyd meddwl, mae gan eich cyflogwr ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol. Gallai hyn gynnwys gweithio gyda chi i helpu i flaenoriaethu eich llwyth gwaith a chaniatáu mwy o seibiannau i chi os yw hyn o fudd i chi.
How to get support in employment externally
Mae’n bosibl y bydd ‘Grant Mynediad at Waith’ ar gael i helpu pobl â chyflwr iechyd corfforol neu feddyliol neu anabledd i aros mewn gwaith a chael cymorth allanol.Ìý
Gall y cynllun hwn eich cynorthwyo mewn sawl ffordd gyda'ch anabledd megis: -
• Grant i helpu i dalu am gymorth ymarferol gyda’ch gwaith fel offer e.e. clustffonau canslo sŵn, cost teithio os na allwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac ati.Ìý
- Cefnogaeth gyda rheoli eich iechyd meddwl yn y gwaith megis un-i-un gyda gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol ac ati.
- Arian i dalu am gymorth cyfathrebu mewn cyfweliadau swyddi.
Gall eich gweithle gynnwys eich cartref os ydych chi'n gweithio oddi yno rywbryd neu drwy'r amser. Nid yw’r cynllun hwn ychwaith yn seiliedig ar faint rydych yn ei ennill ac ni fydd yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill a gewch, ac ni fydd yn rhaid i chi ei dalu’n ôl.
Cefnogaeth fewnol ar gyfer iechyd meddwl
O fewn eich cyflogaeth efallai y bydd gan eich cwmni bolisi iechyd meddwl a allai fod ar gael i'ch cynorthwyo a'ch cefnogi. Er nad yw hyn yn ofyniad cyfreithiol i gwmnïau, mae nifer cynyddol o gyflogwyr yn meddu ar hyn bellach. P’un a yw’n bolisi mewnol neu os ydynt wedi’u partneru â chwmni cymorth iechyd meddwl a chorfforol, gallai hyn fod yn arbennig o gefnogol ar gyfer straen gan nad yw hwn yn gymwys ar gyfer cymorth o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 fel anabledd.
Gall Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ eich helpu gyda materion yn ymwneud â chyflogaeth. Os hoffech apwyntiad, ffoniwch 01248 388411 neu e-bostiwch bulac@bangor.ac.uk
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý