Dathlu Diwylliant a Thawelwch yn Nigwyddiad Diwrnod Agored Sefydliad Confucius
Rhannwch y dudalen hon
Roedd ein sesiwn Tai Chi ar 1 Tachwedd yn brofiad hyfryd, gyda chyfranogwyr yn cofleidio celfyddyd Tai Chi ac yn darganfod y pŵer sydd gan y symudiadau i dawelu’r meddwl. Roedd y sesiwn yn cynnig technegau i wella ffocws meddyliol a’r gallu i ymlacio, gan adael pawb yn teimlo wedi eu hadfywio.
Diolch enfawr i bawb a ymunodd â ni a dod ag egni mor gadarnhaol. Roedd yn galonogol gweld cymaint o frwdfrydedd dros archwilio diwylliant, celfyddydau a thraddodiadau Tsieina. Cadwch lygad am thema'r wythnos nesaf – rydym yn edrych ymlaen at rannu mwy gyda chi!