Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Fel tîm, rydym am sicrhau bod pawb sy'n ymwneud ag addysg ein myfyrwyr Ffisiotherapi yn cael cymorth a hyfforddiant parhaus.
Mae ein diwrnodau hyfforddiant addysg glinigol mewnol wedi'u cynllunio'n arbennig ar eich cyfer chi fel addysgwyr clinigol. Bydd pob cwrs yn cael ei gyflwyno ar ein campysau ym Mangor a Wrecsam
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?Ìý
Mae'r cwrs hwn ar gyfer Addysgwyr Clinigol Ffisiotherapi sy'n cefnogi Myfyrwyr Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ.
Pam astudio’r cwrs?Ìý
Mae ffocws ein Hyfforddiant Addysg Glinigol Ffisiotherapi yn dibynnu ar anghenion y sawl fydd wedi cofrestru, a bydd yn cael ei deilwra i weddu i'n cynulleidfa.
I’r rhai sy’n newydd i addysg glinigol neu sy’n bwriadu derbyn myfyriwr ar ôl toriad estynedig, mae ein ‘cwrs rhagarweiniol’ yn fan cychwyn delfrydol.
Ìý
Rydym hefyd yn cynnal ‘cyrsiau diweddaru’ ar gyfer
addysgwyr lleoliadau ymarfer nad ydynt wedi derbyn diweddariad yn y ddwy flynedd ddiwethaf ond sydd eisoes wedi cwblhau’r cwrs rhagarweiniol.
Ìý
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?Ìý
Mae’r cwrs 1 diwrnod hwn ar gael ar y dyddiadau canlynol, ac yn y lleoliadau canlynol:
- ÌýDydd Mawrth 4ydd Mehefin 2024 (Fron Heulog, Campws Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ)
- Dydd Llun 18 Tachwedd 2024 – (Campws Wrecsam, Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, Wrecsam)
Tutors
Jonathan Flynn
Mae Jonathan yn ddarlithydd, uwch diwtor ac yn Gyfarwyddwr Addysg Ôl-raddedig yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Mae wedi gweithio mewn Sefydliadau Addysg Uwch ers dros 20 mlynedd ac mae ganddo brofiad helaeth mewn dylunio cwricwla, dysgu ac addysgu, asesu a datblygu profiadau addysgol ystyrlon. Mae'n gymrawd o'r Academi Addysg Uwch ac mae wedi derbyn nifer o wobrau ac anrhydeddau i raddedigion. Mae ei brif ddiddordeb ymchwil yn cael ei yrru gan ddiwinyddiaeth ac yn canolbwyntio ar gysyniadau sy'n gysylltiedig â phererindod a cherdded pellter hir.
Ìý
Ìý
Ìý
Emily Rigby
Mae Emily yn ddarlithydd mewn Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Mae ganddi dros 10 mlynedd o brofiad mewn addysg glinigol uniongyrchol tra'n gweithio mewn Bwrdd Iechyd lleol fel arbenigwr clinigol. Mae Emily wedi gweithio yn y Brifysgol ers 2021, gan arwain a hwyluso dysgu ac addysgu ar y rhaglen MSc / Diploma Ôl-raddedig Ffisiotherapi cyn-gofrestru. Hi yw'r arweinydd ar gyfer lleoliadau clinigol ac mae'n gweithio'n barhaus i wella cyfleoedd a phrofiadau lleoliadau clinigol i fyfyrwyr ac addysgwyr clinigol fel ei gilydd.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae ffocws a chynnwys y cyrsiau hyn yn amrywio. Dyma enghreifftiau o’r cynnwys:Ìý
Cwrs rhagarweiniol
- ÌýHanfodion addysg glinigol
- Proffil myfyrwyr Ffisiotherapi Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ.
- Bod yn drefnus ac yn barod ar gyfer addysg glinigol (gan gynnwys ystyriaethau moesegol a phroffesiynol).
- Deall gwaith papur CPAF a ddefnyddir mewn addysg glinigol.
- Delio â heriau mewn addysg glinigol.
Cwrs Diweddaru
Mae'r cwrs diweddaru yn canolbwyntio mwy ar anghenion penodol. Cyn y cyrsiau, rydym yn cynnal arolwg o’r sawl sydd wedi cofrestru Ìýer mwyn llunio themâu a chynnwys addas ar gyfer y cwrs.Ìý
Yn gyffredinol, byddwn yn cyflwyno unrhyw ddiwygiadau i ddeunyddiau rhagarweiniol. Byddwn hefyd yn archwilio'r heriau a wynebir mewn addysg glinigol ac yn datblygu safbwyntiau ac atebion i ymdrin â'r rhain.
Byddwn hefyd yn trafod ac yn dechrau datblygu strategaethau i ysgogi newidiadau cadarnhaol mewn addysg myfyrwyr.
Pa bynnag cwrs y byddwch chi’n ymuno ag o, bydd ein darpariaeth yn canolbwyntio ar rymuso addysgwyr clinigol i fod yn hyderus wrth ymdrin â senarios byd go iawn.
Ìý
Gwybodaeth bellachÌý
Ar ddiwedd y cwrs hwn, bydd dysgwyr yn Derbyn Tystysgrif Cwblhau a fydd yn tystiolaethu 7 awr o DPP
Gofynion Mynediad
Mae'r cwrs hwn ar gyfer Addysgwyr Clinigol Ffisiotherapi sy'n cefnogi Myfyrwyr Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ.
Os hoffech gofrestru ar gyfer y cwrs hwn, ond nad ydych yn bodloni’r gofynion hyn, cysylltwch â threfnydd y cwrs
Ìý
Gwneud Cais
Mae’r cwrs 1 diwrnod hwn ar gael ar y dyddiadau canlynol, ac yn y lleoliadau canlynol:
- Dydd Llun 18 Tachwedd 2024 – (Campws Wrecsam, Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, Wrecsam)
I gofrestru ar gyfer un o’r cyrsiau hyn, cwblhewch ein ffurflen gofrestru drwy glicio ar y botwm ‘cofrestru’ isod.
Ìý
Ìý