Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r MOOC hwn yn gwrs DPP 8 wythnos ar-lein sy'n addas ar gyfer pawb sy'n gweithio ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol, ac sydd 芒 diddordeb mewn amddiffyn pobl rhag heintiau y gellir eu hosgoi. Mae'r MOOC wedi'i gynllunio i ddarparu dysgu dan arweiniad ar atal a rheoli heintiau, a chaiff dysgwyr eu cyfeirio at ystod o ddeunyddiau ac adnoddau. Mae hyn yn golygu y gall cyfranogwyr ddewis gwybodaeth sy'n berthnasol i'w r么l a'u lleoliad gwaith wrth iddynt ddysgu trwy'r MOOC. Bob wythnos mae uned ddysgu newydd yn cael ei rhyddhau, a bydd pob uned yn cymryd tua 1 awr o amser i鈥檞 astudio. Gall ddysgwyr ddewis astudio ar amser, ac mewn lle sy'n gyfleus iddynt hwy oherwydd natur y MOOC. Nid oes gofyniad i fod ar gael i astudio ar unrhyw adegau penodol ar gyfer y MOOC. Mae ein cyfranogwyr wedi cynnwys pobl o bob rhan o鈥檙 DU, a hefyd yn ehangach o bob rhan o鈥檙 byd.
Beth yw hyd y cwrs?
Mae'r MOOC hwn yn gwrs DPP 8 wythnos ar-lein. Pob wythnos, byddwch yn cyrchu uned ddysgu wahanol sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo arfer gorau ac ymddygiadau ym maes atal heintiau. Mae angen tua awr o'ch amser yr wythnos ar bob uned. Gallwch astudio ar amser ac mewn lle sy'n gyfleus i chi.
Pam astudio'r cwrs hwn?
Bydd y MOOC hwn yn rhoi cipolwg ar effaith haint a phwysigrwydd atal haint pryd bynnag y bo modd. Bydd dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth o faterion allweddol sy鈥檔 ymwneud ag atal heintiau, a sut y gallant gymryd camau yn y gweithle i leihau鈥檙 risg o haint i鈥檙 bobl y maent yn gofalu amdanynt. Bydd dysgwyr hefyd yn cael eu cyfeirio at yr ystod eang iawn o wybodaeth, offer ac adnoddau sydd ar gael yn fyd-eang i helpu i leihau heintiau y gellir eu hosgoi, yn ogystal 芒 deall y cyd-destun polisi yn y wlad y maent yn gweithio ynddi.
Mae cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn rhoi Tystysgrif Cwblhau ddigidol i chi sy'n tystiolaethu 8 awr o DPP
Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn yn addas?
Mae'r cwrs byr hwn yn addas ar gyfer pawb sy'n gweithio ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol ac sydd 芒 diddordeb mewn amddiffyn pobl rhag heintiau y gellir eu hosgoi. Mae ein dysgwyr wedi cynnwys pobl o bob rhan o鈥檙 DU, ac o bob rhan o鈥檙 byd. Mae鈥檙 dysgwyr rheiny sydd wedi cwblhau鈥檙 MOOC ac wedi cael budd ohono, yn cynnwys staff cartrefi gofal, cynorthwywyr gofal iechyd a nyrsys cofrestredig o amrywiaeth o leoliadau iechyd a gofal, staff cyswllt atal heintiau a鈥檙 rhai sy鈥檔 gweithio mewn rolau atal heintiau.
Tiwtor
Tracey Cooper
Mae Tracey yn Ddarlithydd Gwyddorau Iechyd (Atal a Rheoli Heintiau) ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料. Tan fis Mehefin 2022 bu鈥檔 gweithio fel Cyfarwyddwr Atal a Rheoli Heintiau, Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Ac铆wt Swydd Gaerwrangon ac roedd hi hefyd yn Ddarlithydd Anrhydeddus ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料. Cyn hynny bu鈥檔 gweithio fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Nyrsio (Atal Heintiau) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a bu鈥檔 Gyfarwyddwr Atal a Rheoli Heintiau yn Llundain am bedair blynedd cyn hynny, ar 么l 鈥榗ael y byg鈥 yn gyntaf ar gyfer atal heintiau a rheoli yn 1996. Mae ganddi hefyd brofiad o weithio ym maes atal heintiau yn Nyfnaint, ar Ynys Wyth, ac yn Southampton fel nyrs ymgynghorol, gan gwmpasu materion ac铆wt a chymunedol. Mae ei chefndir yn cynnwys gwaith mewn gofal dwys a choronaidd, yn ogystal ag ymarfer ward ysbyty ac铆wt. Mae gan Tracey brofiad fel awdur ac adolygydd cymheiriaid a hi oedd Golygydd y Gymdeithas Atal Heintiau (IPS) o 2004-2008. Wedi hynny gwasanaethodd fel Is-lywydd IPS, ac yna fel Llywydd tan 2012. Mae'n parhau i gymryd rhan mewn mentrau a phrosiectau cymdeithas genedlaethol a phroffesiynol, ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn datblygiad proffesiynol, rheoli newid a mentrau diogelwch cleifion
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Pynciau'r unedau dysgu yw:
1. Egwyddorion atal heintiau (Arwyddoc芒d byd-eang a lleol haint, HCAI ac ymwrthedd gwrthficrobaidd. Effaith haint ar bobl/cleifion/cymdeithas)
2. Rhoi tystiolaeth ar waith (Ymarfer ar sail tystiolaeth, ffynonellau tystiolaeth, ansawdd y gofal y mae pobl yn disgwyl ei dderbyn)
3. Gwybod a ydych chi'n gwneud gwahaniaeth (Safonau a chanllawiau, archwilio, gwyliadwriaeth ac adborth.)
4. Newid ymddygiad (Newid ymddygiad, sut y dysgwn ymddygiadau, damcaniaethau ac enghreifftiau sy鈥檔 gysylltiedig ag atal heintiau)
5. Newid ymddygiad yn ymarferol (Newid ymddygiad yn ymarferol. Dylanwadau ar ymddygiad)
6. Deall cyd-destun gwaith (gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, diwylliant y gweithle a rheoli heriau)
7. Arwain y ffordd (Dulliau ac egwyddorion arweinyddiaeth sy'n berthnasol i atal heintiau)
8. Hyrwyddo, gwella ansawdd a myfyrdodau terfynol (Beth yw r么l yr hyrwyddwr wrth hyrwyddo atal heintiau, gwella ansawdd mewn atal heintiau, dod 芒鈥檙 cyfan ynghyd 芒鈥檙 myfyrdodau terfynol)
Cost y Cwrs
Cost y cwrs hwn yw 拢25.
Mae cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn rhoi Tystysgrif Cwblhau ddigidol i chi sy'n tystiolaethu 8 awr o DPP
Gofynion Mynediad
Caiff y cwrs ei gyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg. Os nad ydych yn siarad Saesneg yn rhugl: nid oes angen prawf ffurfiol o'ch hyfedredd yn y Saesneg arnom. Fodd bynnag, gan fod ein cyrsiau byr yn gyrsiau lefel prifysgol, rydym yn argymell yn gryf y dylai fod gennych lefel sy'n cyfateb o leiaf i IELTS 6.5 er mwyn elwa'n llawn.
Gwneud Cais
Mae'n bosib ymuno 芒'r MOOC unrhyw bryd rhwng mis Medi a mis Ebrill. Cysylltwch gyda arweinydd y cwrs os ydych yn dymuno derbyn gwybodaeth bellach.
Cofrestrwch isod.