Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae hwn yn gwrs dysgu cyfunol, cod y modiwl yw NHS-4227. Mae’n agored i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi cofrestru gyda chorff rheoleiddio yn y Deyrnas Gyfunol ac sy'n gweithio mewn rôl sy’n wynebu’r claf.Ìý
Bydd y modiwl yn dechrau ar 25 Medi 2024 yn semester 1 o flwyddyn academaidd 2024-2025.Ìý
I bwy mae'r cwrs hwn yn addas?Ìý
Mae'r modiwl hwn yn addas ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig megis nyrsys, bydwragedd, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, parafeddygon a fferyllwyr sy'n dymuno datblygu eu sgiliau cymryd hanes y tu hwnt i'r lefel sylfaenol sy'n ofynnol wrth gofrestru.Ìý
Pam astudio’r cwrs?
Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i fabwysiadu’r sgiliau sydd eu hangen i gynnal ymgynghoriadau effeithiol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar lefel uwch. Mae myfyrwyr blaenorol yn adrodd sut mae cwblhau'r modiwl hwn wedi newid eu hymarfer yn llwyr.Ìý
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
Cyflwynir y modiwl bob dydd MercherÌýrhwng 13:30 a 16:00 o'r gloch ar ein campws ym Mangor.Ìý Y dyddiad dechrau yw 25 Medi a bydd y sesiwn olaf yn cael ei gyflwyno ar 4 Rhagfyr:
- Bydd dau sesiwn (rhwng 25 Medi a 4 Rhagfyr) yn cael eu neilltuo ar gyfer dysgu dan gyfarwyddyd. Ni fydd disgwyl i chi fod ar y campws ar y dyddiau hynny.
- Ni chynhelir sesiwn addysgu ar 30 Hydref. Ìý
- Ar ôl 4 Rhagfyr, bydd 9 wythnos yn cael ei neilltuo ar gyfer astudio hunangyfeiriedig i'ch galluogi i baratoi ar gyfer yr aseiniadau a fydd angen eu cyflwyno ym mis Chwefror.Ìý
Tiwtor
Ffion Simcox
Ffion yw arweinydd yr MSc mewn Ymarfer Clinigol Uwch, yn ogystal ag arweinydd y cyrsiau presgripsiynu ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Ìý
Mae Ffion hefyd yn ddirprwy gadeirydd o Rhwydwaith Addysgwyr Ymarfer Uwch Cymru (WAPEN). Ìý
Cymhwysodd Ffion fel nyrs gofrestredig yn 1996 ac fel presgripsiynydd annibynnol yn 2011. Cwblhaodd ei MSc mewn Ymarfer Clinigol Uwch yn 2012 a gweithiodd fel ACP mewn meddygaeth acÃwt am 6 mlynedd cyn ymuno â'r Brifysgol.
Ìý
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Gellir cyrraedd diagnosis mewn hyd at 80% o achosion trwy gymryd hanes da. Bydd y modiwl hwn yn archwilio'r grefft o gymryd hanes meddygol ac ymgynghori â chleifion. Trwy archwilio gwahanol fodelau ac egwyddorion sylfaenol sy’n rhan o’r broses o gymryd hanes meddygol, bydd myfyrwyr yn deall ac yn dod yn fedrus wrth gynnal ymgynghoriad cynhwysfawr ac effeithiol gyda chleifion â chyflyrau diwahaniaeth a chyflyrau heb eu diagnosio.Ìý
Bydd y sgiliau a ddysgir yn ystod y modiwl hwn yn caniatáu i weithwyr iechyd proffesiynol cofrestredig nid yn unig werthfawrogi pwysigrwydd cymryd hanes da a chywir, ond hefyd sut y gall datblygu sgiliau ymgynghori effeithiol sy'n canolbwyntio ar y claf fod o fudd i agweddau eraill ar eu swydd.Ìý
Rhaid i fyfyrwyr dreulio o leiaf 60 awr gyda mentor yn yr amgylchedd clinigol i ymarfer eu sgiliau cymryd hanes. Ìý
Ìý
Beth fyddwch chi yn astudio ar y cwrs?
Trefnir y modiwl hwn yn unedau dysgu a fydd yn ymdrin â'r pynciau canlynol:Ìý
- Canfyddiadau o iechyd a salwchÌý
- Modelau ymgynghoriÌý
- Meithrin cysylltiadÌý
- Casglu gwybodaethÌý
- Ymgynghoriadau ‘anodd’ a sut i ddelio â nhwÌý
- Gwneud penderfyniadau ar y cyd a gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn Ìý
- DogfennaethÌý
- Ffactorau moesegol a chyfreithiol sy'n effeithio ar wneud penderfyniadau clinigolÌý
- Tuedd a gwneud penderfyniadauÌý
Cost y Cwrs
Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB) bcu.nurseeducation@wales.nhs.ukÌý
Efallai y bydd cyfleoedd ariannu ar gael i'r rhai sy'n gweithio'n lleol (h.y. yn ardaloedd gogledd Cymru a Phowys), cysylltwch â chydlynydd y modiwl perthnasol i gael manylion.
Dylid cyfeirio pob ymholiad arall sy'n gysylltiedig â cheisiadau ac ariannu at gydlynydd y modiwl.
Mae croeso i geisiadau gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol o rannau eraill o'r DU, gweler einÌýTudalen Ffioedd a Chyllid Ôl-raddedig.
Gofynion Mynediad
Rhaid i ymgeiswyr fod yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig yn y Deyrnas Unedig mewn swydd sy'n wynebu’r claf. Rhaid i ymgeiswyr fod wedi eu cyflogi ar fand 6 fel isafswm.Ìý
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn einÌý
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio Ôl-raddedig a Addysgir'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Iechyd (NGGT/HEALTH) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl:ÌýCymryd Hanes a Sgiliau Ymgynghori:Ìýy cod ywÌý NHS-4227. Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster ôl-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach).
(nid oes angen darparu manylion yma) Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Os ydych yn cael eichÌýariannu gan AaGIC / Bwrdd Iechyd, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau?ÌýNoddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido:ÌýBwrdd Iechyd
- Gwlad:ÌýY Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad?ÌýWedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys:ÌýFfioedd DysguÌýÌý
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn?ÌýDewiswch ‘ie’ * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o’r cyllid.ÌýOs hoffech gadarnhau ‘ie’ i’r cwestiwn hwn, ondÌýnad oesÌýgennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i’w uwchlwytho, gallwch uwchlwytho’ch ddogfen Word yma eto.
Os ydych ynÌýhunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol