Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae hwn yn gwrs byr rhan-amser sy'n cyflwyno ymyriadau llythrennedd i blant a phobl ifanc ag anawsterau datblygu eu sgiliau llythrennedd. Bydd gan ymgeiswyr yr opsiwn o ddysgu ar-lein neu'n bersonol ym Mangor trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg.听
I bwy mae鈥檙 cwrs yma i?
Bydd y cwrs hwn o fudd i athrawon, tiwtoriaid, staff cymorth addysgu a chynorthwywyr, therapyddion lleferydd ac iaith, a'r rhai sy'n gweithio gyda dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol neu wahaniaethau dysgu. Mae angen 2 flynedd o brofiad blaenorol mewn addysg neu weithio gyda phlant cyn y cwrs.听
Pam astudio鈥檙 cwrs yma?
Mae'n cynnig i ymgeiswyr ddod yn arbenigwyr achrededig mewn cyflwyno ymyriadau llythrennedd i blant a phobl ifanc ag anawsterau datblygu eu sgiliau llythrennedd a'r rhai 芒 dyslecsia. Bydd ymgeiswyr yn gallu nodi'r anawsterau a wynebir gan blentyn neu berson ifanc o ran darllen, sillafu, a llawysgrifen, a llunio rhaglenni ymyrraeth addas. Byddant yn gallu adnabod anawsterau llythrennedd a darparu ymyrraeth trwy gyfrwng y Gymraeg a/neu Saesneg.
Ar 么l cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd y dysgwr yn gallu cyflwyno ymyriadau llythrennedd wedi'u targedu i blant a phobl ifanc 芒 Statws Ymarferydd Achrededig neu Statws Athro Achrededig gyda Chymdeithas Dyslecsia Prydain. Dyma鈥檙 unig gwrs yn y DU sy鈥檔 canolbwyntio ar gefnogi dysgwyr ag Anawsterau Dysgu Penodol yng Nghymru ac mae鈥檔 caniat谩u ar gyfer gwaith ymyrraeth Cymraeg a Saesneg gyda disgyblion.
Gwybodaeth am aseiniadau:
Bydd asesiad o鈥檙 cwrs yn cynnwys:
- 20 awr o addysgu ymarferol gyda disgybl. Bydd hyn yn cael ei asesu gan ddwy wers 60 munud wedi'u recordio.
- Astudiaeth achos yn seiliedig ar y disgybl yn derbyn yr ymyriad.听听
- Portffolio dysgu yn seiliedig ar yr ymarfer addysgu.
Tiwtoriaid
Jo Dunton听
Cyfarwyddwr Addysgu Canolfan Dyslecsia Miles听
Fel Aelod Cyswllt o Gymdeithas Dyslecsia Prydain mae hi'n athrawes ac asesydd arbenigol sydd wedi ei hachredu gan Gymdeithas Dyslecsia Prydain. Mae ei gyrfa addysgu wedi rhychwantu amryw o oedrannau gan gynnwys gweithio mewn ysgolion arbennig a cholegau Addysg Bellach. Ymunodd 芒 th卯m addysgu Canolfan Dyslecsia Miles ar 么l cwblhau'r cwrs i fod yn Aelod Cyswllt o Gymdeithas Dyslecsia Prydain ym Mangor, ac aeth ymlaen wedyn i fod yn Gyfarwyddwr Addysgu'r Ganolfan. Mae ar hyn o bryd yn aelod gweithredol o Fwrdd Achredu Cymdeithas Dyslecsia Prydain.听
听
Ruth Elliott听
Arweinydd DPP Canolfan Dyslecsia Miles听
Athrawes ac asesydd arbenigol i ddisgyblion ac oedolion ag anawsterau llythrennedd. Mae hi'n athrawes gymwysedig ac mae鈥檔 Aelod Cyswllt o Gymdeithas Dyslecsia Prydain. Ar hyn o bryd hi yw arweinydd datblygiad proffesiynol parhaus . Mae hi hefyd yn creu cynnwys ac yn hyfforddi fel rhan o鈥檙 project .听听
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r cwrs ymarferol hwn yn cynnwys mwy na 40 awr o ddarlithoedd, seminarau, ac amser i ofyn cwestiynau i arbenigwyr yn y maes.听
Wrth ddilyn y cwrs bydd myfyrwyr yn ymgyfarwyddo ag ymagweddau ac egwyddorion sylfaenol addysgu dysgwyr 芒 Gwahaniaeth Dysgu Penodol (dyslecsia) a phobl ag anawsterau llythrennedd.听听
Mae'r pynciau鈥檔 cynnwys:听
- Damcaniaethau am ddyslecsia a'r achosion sylfaenol听
- Anawsterau sy'n cyd-ddigwydd gyda dyslecsia听
- Anawsterau sy鈥檔 gysylltiedig ag iaith a dysgu, hunan-barch, a mathemateg.听
- Dwyieithrwydd a dysgu ail iaith.听
Bydd y cwrs yn galluogi'r ymgeiswyr i asesu gogyfer ag ymyriadau a nodi'r anawsterau a wynebir gan eu disgybl o ran darllen, sillafu a llawysgrifen. Byddant hefyd yn gallu llunio rhaglenni addas o ymyrraeth.听
Disgwylir i ymgeiswyr fod ag ymagwedd feirniadol wrth ddewis deunyddiau ar gyfer addysgu ac asesu eu disgyblion.听听
Anogir dyfeisgarwch a gwreiddioldeb mewn perthynas 芒 dulliau addysgu amlsynhwyraidd, yn enwedig o ran defnyddio gemau a deunyddiau synhwyraidd a gweledol i gynorthwyo dysgu pellach.鈥疊ydd gwerthuso ffurfiannol parhaus gan y myfyrwyr yn dangos sut mae eu gwaith wedi datblygu dros y cyfnod addysgu.听
Cost y Cwrs
拢1,950 (pris yn ddilys ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25)
Gofynion Mynediad
Rhaid i ymgeiswyr am Statws Ymarferydd Achrededig fodloni'r meini prawf canlynol i gael eu hystyried yn gymwys ar gyfer y cwrs:鈥
- TGAU gradd C neu gymhwyster lefel 2 cyfwerth mewn iaith neu lenyddiaeth Saesneg a/neu Gymraeg.听
- Byddai cymwysterau Lefel 3 yn ddefnyddiol i gwrdd 芒 gofynion academaidd y cwrs.听听
Dylai fod gan ymgeiswyr 2 flynedd o brofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc. Cysylltwch 芒 ni am ragor o wybodaeth os ydych yn ansicr a ydych yn gymwys.听
I ddilyn y cwrs mae鈥檔 ofynnol bod gennych fynediad i weithio gyda phlentyn neu berson ifanc 6-16 oed a fyddai'n elwa o ymyriad llythrennedd yn eich gweithle neu sefydliad cysylltiedig.听听
Holwch os ydych yn ansicr a yw'r plentyn neu berson ifanc yn cwrdd 芒'r gofynion.
Gwneud Cais
Cofrestrwch eich diddordeb trwy gwblhau鈥檙 ffurflen isod a byddwn mewn cysylltiad yn fuan.