Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r cwrs yma yn un dysgu o bell, a chod y modiwl yw MSE:4087.
Bydd y cwrs yn dechrau 3听Chwefror 2025听测苍 Semester 2, ym mlwyddyn academaidd 2024-2025.
I bwy mae'r cwrs yma?
Mae'r modiwl hwn yn addas ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gyfrifol am feddyginiaethau cleifion, gan gynnwys meddygon, fferyllwyr, nyrsys a rhagnodwyr annibynnol o broffesiynau eraill.
Pam astudio'r cwrs?
Nod y modiwl hwn yw grymuso gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gyda'r gallu i ddarparu gofal gwell, mwy personol, a fydd yn ei dro yn gwella canlyniadau iechyd cleifion. Bydd yn eich paratoi ar gyfer y prif ffrydio ffarmacogenomeg sydd ar fin digwydd.
Ei nod yw datblygu dealltwriaeth gefndirol am y datblygiadau diweddaraf mewn gwyddoniaeth a chymwysiadau ffarmacogenomeg a gofal iechyd haenedig. Byddwch yn dod i ddeall y cysyniadau cyffredinol o sut y gall amrywiad genetig effeithio ar ffarmacocineteg a ffarmacodynameg cyffur, neu achosi adweithiau niweidiol trwy gyfrwng imiwnedd. Bydd y modiwl yn defnyddio enghreifftiau o brofion ffarmacogenomig sy'n berthnasol i ymarfer clinigol.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?
Mae'r cwrs yn cael ei gynnal dros 16 wythnos. Bydd 22 awr o ddarlithoedd yn cael eu rhyddhau dros y 9 wythnos gyntaf. Mae wythnosau 10, 11, 13, 14 a 15 ar gyfer dysgu hunangyfeiriedig a pharatoi ar gyfer yr asesiadau yn wythnosau 12 ac 16.
Tiwtor
Yr Athro
Mae Dyfrig yn Athro Ffarmacoeconomeg, yn gyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 ac yn Gyfarwyddwr Effaith ac Ymgysylltu i鈥檙 Ysgol Gwyddorau Iechyd. Mae hefyd yn arweinydd academaidd ar gyfer Fferylliaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (sy'n cwmpasu Gogledd Cymru), ac mae'n athro anrhydeddus yn Adran Ffarmacoleg Foleciwlaidd a Chlinigol, Prifysgol Lerpwl.
Mae Dyfrig yn arwain y gr诺p Economeg Fferyllol, Prisio ac Ymchwil Rhagnodi (PEPPER) ar weithgareddau ymchwil sydd 芒 ffocws ar ymchwil ffarmacogenomeg, ac mae鈥檔 arweinydd rhaglen (interim) ar y BSc mewn Ffarmacoleg. Mae鈥檔 cyd-gadeirio Gweithgor Gwerthuso Profion Ffarmacogenomeg GIG Lloegr, ac mae鈥檔 gadeirydd Gr诺p Ffarmacogenomeg Cenedlaethol GIG Cymru.
听
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Mae ffarmacogenomeg yn gynyddol bwysig ar gyfer rhagnodi diogel ac effeithiol. Bydd y modiwl hwn yn disgrifio gwyddor ffarmacogenomeg, a'r cydadwaith rhwng cyfansoddiad genetig pobl ac effeithiau meddyginiaethau - o ran gwella ymateb i driniaethau a lleihau'r risg o adweithiau niweidiol i gyffuriau. Bydd y modiwl yn defnyddio enghreifftiau o brofion ffarmacogenomeg hysbys, dilys a all lywio'r broses o ddewis dosau a thriniaethau ar draws llawer o ddosbarthiadau a chlefydau cyffuriau.
Modiwlau
Mae鈥檙 modiwl wedi鈥檌 drefnu鈥檔 flociau dysgu sy鈥檔 ymdrin 芒鈥檙 meysydd pwnc canlynol:
- Cyflwyniad i fiofarcwyr genomig ac amrywiadau genetig.
- Defnyddio gwybodaeth genomig ar gyfer datblygu cyffuriau wedi'i dargedu
- Sail genomig adweithiau niweidiol i gyffuriau ac effeithiolrwydd cyffuriau.
- Heriau a chyfyngiadau astudiaethau ffarmacogenetig.
- Gweithredu ffarmacogenomeg yn glinigol.
- Diagnosteg cydymaith ac opsiynau ar gyfer modelau darparu gwasanaeth y GIG.
- Argaeledd profion uniongyrchol-i-ddefnyddiwr a'r goblygiadau ar gyfer profion ffarmacogenomeg.
- Asesiad technoleg iechyd o brofion ffarmacogenomig.
Budd o fynychu'r cwrs?
Bydd myfyrwyr yn dysgu am y datblygiadau diweddaraf mewn gwyddoniaeth a chymwysiadau ffarmacogenomeg a gofal iechyd haenedig. Byddant yn dod i ddeall y cysyniadau cyffredinol o sut y gall amrywiad genetig effeithio ar ffarmacocineteg a ffarmacodynameg cyffur, neu achosi adweithiau niweidiol trwy gyfrwng imiwnedd. Bydd y modiwl yn defnyddio enghreifftiau o brofion ffarmacogenomig sy'n berthnasol i ymarfer clinigol.
Nod y rhaglen yw grymuso gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddarparu gofal gwell, mwy personol, a fydd yn ei dro yn gwella canlyniadau iechyd i gleifion. Bydd yn eich paratoi ar gyfer y prif ffrydio ffarmacogenomeg sydd ar fin digwydd.
Cost y Cwrs
Ar gyfer staff GIG Cymru, meddygon teulu a fferyllwyr yn y gymuned, bydd y cwrs yn cael ei ariannu鈥檔 llawn gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), yn amodol ar fodloni鈥檙 meini prawf mynediad.
Croesewir ceisiadau gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol o rannau eraill o'r DU. Ewch i dudalen Ffioedd a Chyllid 脭l-raddedig er mwyn cael gwybodaeth bellach.
Gofynion Mynediad
Bydd angen i ymgeiswyr gael gradd lefel BSc (2:2 neu uwch) mewn pwnc gwyddor bywyd sydd a chysylltiad iechyd, fferylliaeth neu feddygol, o Sefydliad Addysg Uwch cydnabyddedig.
Bydd ymgeiswyr yn Weithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol, gyda r么l yn ymwneud 芒 defnydd presennol neu ragamcanol o ffarmacogeneteg yn eu maes ymarfer. Mae ysgoloriaeth lawn ar gael i ymgeiswyr sy'n cael eu cyflogi ar hyn o bryd o fewn (neu wedi'u contractio gan) GIG Cymru.
听
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn si诺r eich bod yn darllen ac yn dilyn y cyfarwyddiadau isod cyn gwneud cais. Mae鈥檙 cyfarwyddiadau鈥檔 nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano, a bydd dilyn y cyfarwyddiadau鈥檔 arbed amser i chi.
听
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth bresennol;
- Blynyddoedd o brofiad a hanes cyflogaeth (fel sy'n berthnasol)
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o gwblhau'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein .
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau.
听
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
听
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau annibynnol', yna dewiswch 鈥樏攍-raddedig a addysgir nad yw鈥檔 graddio鈥.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch 鈥Non-graduating Taught Modules in Medical Sciences (NGGT/MS)'. Cliciwch 鈥楥adw a Pharhau鈥.
- Yn y dudalen nesaf, newidiwch ateb y cwestiwn cyntaf i 鈥楻han amser'.
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl. Ar gyfer Ffarmacogenomeg a Gofal Iechyd Haenedig, y cod yw MSE:4087. Rhaid cwblhau'r adran hon i sicrhau fod eich cais yn cael ei brosesu.
- Rhaid i chi nodi dyddiad dechrau鈥檙 cwrs hefyd. Mae'r cwrs hwn yn rhedeg ddwywaith y flwyddyn Chwefror. Dewiswch un o'r opsiynau hyn, yna cliciwch 鈥楥adw a Pharhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, dylech uwchlwytho鈥檙 ddogfen a baratowyd gennych ar ddechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yma. Cliciwch 鈥楥adw a Pharhau'
Mae angen i chi gynnwys gwybodaeth am y cymhwyster uchaf sydd gennych chi, e.e. os oes gennych chi gymhwyster 么l-raddedig, dim ond y wybodaeth yma sydd ei angen.
Bydd y system yn gofyn am dystiolaeth o'r cymhwyster. Os ydy'r dystiolaeth wrth law, mae modd i chi ei uwchlwytho yma. Peidiwch 芒 phoeni os nad ydyw gennych chi, gallwch uwchlwytho'r ddogfen Word yma eto (i fodloni'r system).
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau? Noddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido: Bwrdd Iechyd
- Gwlad: Y Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad? Wedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys: Ffioedd Dysgu 听
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn? Dewiswch 鈥榠e鈥 * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o鈥檙 cyllid. Os hoffech gadarnhau 鈥榠e鈥 i鈥檙 cwestiwn hwn, ond nad oes gennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i鈥檞 uwchlwytho, gallwch uwchlwytho鈥檆h ddogfen Word yma eto.
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol.